1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 10 Rhagfyr 2019.
5. Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch lleihau amseroedd aros am lawdriniaeth i drin canser y pancreas? OAQ54849
Llywydd, diolchaf i'r Aelod am hynna. Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi gwneud ymrwymiad i ystyried cyflwyno model mynediad cyflym i drin canser pancreatig. Cynhaliwyd trafodaeth ar y materion hyn eisoes gyda Rhwydwaith Canser Cymru.
Diolch, Prif Weinidog. Yn dilyn ein dadl drawsbleidiol ar hyn, a gefnogwyd yn dda, cysylltodd menyw â mi yr wythnos diwethaf a oedd newydd gael diagnosis yr wythnos diwethaf o ganser pancreatig, ond dywedwyd wrthi y byddai'n rhaid iddi aros dau fis am lawdriniaeth. Fe wnaeth hynny beri gofid a syndod mawr iddi. Yn ddealladwy, roedd ei gŵr yn ddig iawn ac roeddwn i'n cydymdeimlo â'r ddau ohonyn nhw, gan ein bod ni'n gwybod bod canser pancreatig yn un o'r canserau mwyaf angheuol a bod angen ei drin o fewn 21 diwrnod mewn gwirionedd. Rwy'n ddiolchgar iawn am y diweddariad yr ydych chi newydd ei roi a'ch bod chi eisoes yn cymryd camau yn dilyn y ddadl a gynhaliwyd gennym yn y fan yma, ond pa sicrwydd allwch chi ei roi, yn y cyfamser, tra ein bod ni'n edrych ar y mater mynediad cyflym hwnnw, ein bod ni hefyd yn edrych ar frys ar gomisiynu llawdriniaethau dros y ffin yn Lloegr i gleifion sy'n ddigon iach i allu cyflawni'r daith honno i gael eu llawdriniaeth yn brydlon?
Diolchaf i Lynne Neagle am y cwestiwn atodol yna. Wrth gwrs, mae ni'n iawn bodi canser pancreatig yn un o'r canserau mwyaf creulon, bod diagnosis cynnar yn arbennig o anodd oherwydd y symptomau amwys, fel y maen nhw'n eu galw yn y byd clinigol, y mae'n tueddu i'w cyflwyno. Bydd yn gwybod hefyd, hyd yn oed pan fydd diagnosis cynnar yn bosibl, bod cyfran sylweddol o gleifion sy'n addas ar gyfer llawdriniaeth hefyd wedi cael clwyf melyn ar y pwynt hwnnw ar lwybr y salwch, y mae'n rhaid ei drin cyn y gellir cynnal y llawdriniaeth. Felly, ceir rhai heriau clinigol gwirioneddol wrth ymdrin â chanser pancreatig drwy lawdriniaeth.
Felly, mae gennym ni ddau fater i ymdrin â nhw yma yng Nghymru, Llywydd. Ceir y llwybr presennol y cyfeiriodd Lynne Neagle ato—a bydd yn falch, rwy'n gwybod, bod Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Bae Abertawe yn bwriadu recriwtio pedwerydd llawfeddyg pancreatig i gynyddu capasiti theatr llawdriniaeth o ddwy sesiwn drwy'r dydd ar hyn o bryd i dair sesiwn drwy'r dydd yn y dyfodol, a'u bod nhw'n ehangu eu gweithlu nyrsio arbenigol clinigol ar yr un pryd. Tra bod hynny'n digwydd, maen nhw eisoes yn atgyfeirio cleifion ar draws ein ffin i gapasiti mewn mannau eraill, ac mae cleifion o Gymru sydd wedi cael cynnig llawdriniaeth, er enghraifft, yn ysbyty King's College yn Llundain—mae cleifion eisoes wedi derbyn y cynnig hwn ac wedi cael llawdriniaeth yno. Felly, mae gwaith i'w wneud a mwy o waith i'w wneud i sicrhau bod y llwybr presennol yn gweithio i'r eithaf ac yna ceir—fel y gwn y trafododd yr Aelod yn ystod y ddadl a gynhaliwyd gennym ni yn y fan yma dim ond rhyw wythnos yn ôl—y cyngor diweddaraf gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal, a luniodd werthusiad tystiolaeth yn gynharach eleni fel y gellir cynnig llawdriniaeth yn gyflymach i gleifion y canfyddir eu canser ar y cam cynharaf. Dyna'r drafodaeth a gynhaliwyd eisoes gyda Rhwydwaith Canser Cymru ers i'r ddadl honno gael ei chynnal. Mae'r Gweinidog yn cyfarfod yr wythnos nesaf gyda Chynghrair Canser Cymru ac mae elusen canser pancreatig y DU yn rhan o'r gynghrair honno. Maen nhw wedi bod yn gefnogol iawn o'r llwybr canser sengl yr ydym ni wedi ei ddatblygu yng Nghymru a byddwn ni'n chwilio am ffyrdd nawr y gellir ymgorffori'r cyngor diweddaraf hwnnw gan NICE yn y ffordd y mae'r llwybr canser sengl hwnnw'n cael ei ddatblygu.
Prif Weinidog, mae Pancreatic Cancer UK wedi dweud ei fod yn siomedig o weld Llywodraeth Cymru yn gwrthod cydnabod y ffaith bod canser pancreatig yn argyfwng canser pan fo Llywodraethau eraill y DU wedi derbyn yr angen i weithredu'n gyflymach pan fo angen clinigol.
Nawr, rwyf yn croesawu'r hyn yr ydych chi newydd ei ddweud, gan ei fod yn ymddangos yn newid pwyslais sylweddol o ran mynediad cyflym at lawdriniaeth, ond dull cyffredinol sydd ei angen arnom ni, gan fod hwn yn ganser cymharol gyffredin ac mae'r prognosis yn parhau i fod yn siomedig iawn, tra, yn ystod y 40 mlynedd diwethaf, bod llawer o ganserau cyffredin eraill wedi cynyddu'r amser a'r siawns o oroesi, yn wir, o ollyngdod parhaol. Dyna sydd ei angen arnom ni, ac rwy'n gobeithio mai dyma'r cam cyntaf yr ydych chi'n ei wneud i ganolbwyntio'n wirioneddol ar ganser pancreatig fel ei fod yn cael ei dynnu i'r un math o lefel ag yr ydym ni, a bod yn deg, wedi ei gyflawni ar gyfer canserau cyffredin eraill.
Diolchaf i'r Aelod am hynna. Mae Llywodraeth Cymru yn llwyr gydnabod arwyddocâd canser pancreatig a'r her a wynebir o ran darparu triniaeth lwyddiannus ar ei gyfer. Yng nghanol degawd cyntaf datganoli, roedd cyfraddau goroesi ar ôl blwyddyn ar gyfer canser pancreatig yng Nghymru yn 18 y cant. Yng nghanol y degawd hwn, roedden nhw'n 28 y cant. Nawr, mae 28 y cant yn dal i fod ar ben isaf yr hyn y gall canserau eraill ei gyflawni, ond serch hynny mae'n gynnydd o 10 y cant i gyfraddau goroesi am flwyddyn o fewn degawd. Ac os gallwch chi ganfod canser pancreatig yng nghyfnod 1, yna mae'r cyfraddau goroesi am flwyddyn yn uwch na 60 y cant. Felly, rydym ni'n gwybod, lle'r ydym ni'n gallu cael ymateb cynnar i ganser pancreatig, bod pethau llwyddiannus y gellir eu gwneud. Yr her, fel y dywedais yn fy ateb i Lynne Neagle, fel y gwyddom, yw gwneud diagnosis cynnar, oherwydd nid yw'r symptomau'n hawdd eu canfod ac maen nhw wedi eu cuddio gan eu bod nhw'n edrych fel y gallen nhw fod yn gyflwr gwahanol.
Rydym ni wedi gwneud pethau anferthol yng Nghymru dros y pum mlynedd diwethaf i gynyddu'r diagnosis cynnar o ganser. Llywydd, o 100 o gleifion sy'n cael eu hatgyfeirio gan feddyg teulu gyda chanser tybiedig, canfyddir yn y pen draw nad oes gan 93 ohonyn nhw ganser o gwbl. Ond y rheswm y mae hynny'n beth da yw ei fod yn dangos ein bod ni wedi cynyddu nifer y bobl sy'n dod i mewn i'r system i gael y siawns mwyaf posibl hwnnw o'r diagnosis cynharaf posibl. Nid canser pancreatig yw'r canser rhwyddaf o bell ffordd i wneud i hynny weithio ac rydym ni'n gwybod erbyn hyn, lle gallwch wneud iddo weithio, bod gan ymyraethau llawfeddygol ran bwysicach i'w chwarae. Rydym ni'n parhau i fod yn benderfynol o weithio gyda'n rhwydwaith canser yma yng Nghymru i wella canfyddiad a diagnosis cynnar ac yna i roi'r gwasanaethau ar waith sy'n ymateb i hynny gyda'r effeithiolrwydd clinigol mwyaf posibl.
Rwy'n derbyn yr hyn a ddywedodd y Prif Weinidog yn yr atebion sobr a difrifol y mae wedi eu rhoi i gwestiynau cynharach, ac yn wahanol iawn i'r pantomeim a gawsom ni ar ddechrau'r cwestiynau heddiw. Erys y ffaith fod gan Gymru un o'r cyfraddau goroesi canser isaf yn y byd ymhlith gwledydd sydd â data cymaradwy. Rydym ni'n bedwerydd ar ddeg ar hugain o 36 yn y ffigurau diweddaraf yr wyf i wedi eu gweld gan Pancreatic Cancer UK, yr wyf i'n gwisgo eu rhuban heddiw, o ran goroesi am bum mlynedd.
Rwy'n siŵr y bydd y Prif Weinidog yn derbyn gennyf, os edrychwn ni yn ôl 10 neu 15 mlynedd, ein bod ni'n edrych ar ganser y prostad yn yr un modd negyddol, ond bu datblygiadau aruthrol o ran trin canser y prostad yn y cyfnod hwnnw a gallai'r un peth fod yn wir gyda mwy o flaenoriaeth i ddioddefwyr canser pancreatig hefyd. Gwn fod y Llywodraeth wedi bod yn gyflym i ddatgan argyfwng hinsawdd; ni allaf ddeall felly pam y mae'n teimlo mewn unrhyw ffordd ei bod wedi ei llesteirio rhag gwneud yr un peth ar gyfer canser pancreatig oherwydd mae hyn yn mynd i wneud gwahaniaeth aruthrol o bosibl i fywydau nifer fawr o bobl o gofio'r newyddion hynod ofidus y mae hyn yn ei gyfleu i bobl sy'n darganfod yn sydyn eu bod yn ddioddefwyr. Tua 25 y cant yn unig yw'r gyfradd oroesi am fis, neu beth bynnag yw ef—dim ond tua 25 y cant yw ef am flwyddyn. Felly, po fwyaf o flaenoriaeth y gall y Llywodraeth ei rhoi i hyn, y gorau fydd pethau.
Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn difrifol yna ac fe geisiaf barhau i roi ateb difrifol iddo. Y rheswm pam rwy'n credu ein bod ni'n gyndyn o ddewis math arbennig o ganser a datgan bod hwnnw'n argyfwng yw ar gyfer pob claf sy'n cael diagnosis o unrhyw fath o ganser mae hwnnw'n argyfwng yn eu bywydau. Rydym ni wedi bod yn amharod, rwy'n credu, am resymau da iawn i ddilyn trywydd lle mae gennym ni hierarchaeth o wahanol gyflyrau, lle'r ydym ni'n ceisio tynnu sylw at gyflwr penodol ac yn ceisio dweud ei fod rywsut yn bwysicach ac yn fwy arwyddocaol na chyflwr arall.
Nid yw hynny'n golygu nad wyf i'n deall y ddadl sy'n cael ei gwneud oherwydd yr effaith benodol iawn y mae'r canser hwn ac anawsterau diagnosis cynnar yn ei chael. Felly, nid wyf i am funud yn wfftio'r ddadl sy'n cael ei gwneud, ond mewn ateb difrifol dyna'r rheswm pam yr ydym ni wedi bod yn gyndyn i ddilyn y trywydd hwnnw. Mae canser pancreatig i unrhyw un sy'n dioddef ohono yn argyfwng, ond mae hynny hefyd yn wir i rywun sydd â chanser yr afu neu ganser yr ysgyfaint neu ganser y fron. Ac rwy'n gyndyn i ddweud bod un math o ganser yn achos mwy brys neu'n fwy o argyfwng rywsut nag un arall oherwydd, o safbwynt y claf, nid wyf i wir yn meddwl ei fod yn edrych felly.