Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015

Part of Cwestiynau i'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip – Senedd Cymru am 2:34 pm ar 10 Rhagfyr 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jane Hutt Jane Hutt Labour 2:34, 10 Rhagfyr 2019

(Cyfieithwyd)

Wel, unwaith eto, diolchaf i Leanne Wood am ddod â hyn i'n sylw yn y Siambr hon heddiw. Yn amlwg, mae gennym ni gyfrifoldebau o ran diogelu ein plant rhag cam-drin rhywiol a chamfanteisio, ac, yn wir, rydym yn datblygu ac yn ymgynghori ar y canllawiau statudol. Ond mae hefyd yn gyfrifoldeb i'r system gyfiawnder, a byddaf hefyd yn gwneud yn siŵr bod yr achos hwn yn cael ei godi ar y lefel uchaf o ran ein heddlu a'n comisiynwyr heddlu a throseddu.