Cwestiynau i'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip – Senedd Cymru ar 10 Rhagfyr 2019.
1. A wnaiff y Dirprwy Weinidog ddatganiad am weithredu Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015? OAQ54824
Mae adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ac ymgyrch Rhuban Gwyn 2019 wedi tynnu sylw at yr angen i weithredu Deddf Trais yn Erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 yn llym ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru, mewn partneriaeth â gwasanaethau arbenigol.
Gweinidog, fel y gwyddoch chi, mae'r archwilydd cyffredinol wedi dweud bod dioddefwyr a goroeswyr yn wynebu system dameidiog sy'n anghyson, yn gymhleth ac yn fyrdymor. Ac mae'n dweud bod y cynnydd o ran cyflawni agweddau allweddol ar y Ddeddf yn wael ac nad yw wedi cael yr effaith ddymunol. Ac mae'n galw am gydweithio effeithiol a gweithio ar y cyd mewn meysydd allweddol, a bod yn rhaid i ni ymdrechu yn galetach i sicrhau bod gennym ni y math hwn o ddull gweithredu cydlynol. Nawr, rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn bod y Llywodraeth yn ymateb i'r feirniadaeth hynod ystyriol hon gan fod cefnogaeth drawsbleidiol i wella gwasanaethau yn y maes hollbwysig hwn. Ac wrth i ni wneud cymaint o gynnydd o ran sut mae'r cyhoedd yn gwrthod unrhyw sôn am dderbyn trais domestig fel norm mewn unrhyw ffordd—ac rydym ni wedi gweld ein gwasanaethau brys yn ymateb, yr heddlu yn wych hefyd, wrth newid eu systemau o ran sut maen nhw'n ymdrin â'r materion hyn—mae'n rhaid i ni sicrhau bod y gwasanaethau yr ydym ni wedyn yn eu darparu i'r goroeswyr a'r dioddefwyr y gorau y gallan nhw fod. Nawr, rwy'n gwybod na allwn ni gyflawni hyn dros nos, ond mae'n bwysig ein bod ni'n edrych ar hyn yn ofalus iawn, iawn i sicrhau ein bod ni yn cael gwell gwasanaethau.
A diolchaf i David Melding am godi'r cwestiwn hwn heddiw. Byddwch chi'n ymwybodol o'm datganiad ysgrifenedig ar 25 Tachwedd, lle'r oedd yr adroddiad yn dangos bod—. Cyhoeddodd Swyddfa Archwilio Cymru ei hadroddiad ac roedd yn dangos bod y Ddeddf yn gwella gwasanaethau ledled Cymru, ond mae'n amlwg bod mwy i'w wneud. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig bod adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru yn dweud bod y Ddeddf yn helpu i ysgogi'r gwaith o weddnewid gwasanaethau trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, a'i bod wedi bod yn hollbwysig o ran ysgogi newid. Ond, wrth gwrs, mae hyn mewn gwirionedd yn cynnwys, nid yn unig Llywodraeth Cymru yn arwain, ond awdurdodau lleol, byrddau iechyd lleol, yn pennu eu strategaethau clir ar gyfer codi ymwybyddiaeth, atal a rhanbartholi, a hefyd gwneud yn siŵr eu bod yn canolbwyntio ar fynd i'r afael â thanberfformio a gosod amcanion cydraddoldeb strategol. Felly, mae'r darn arloesol hwn o ddeddfwriaeth a wnaed yng Nghymru yn helpu i ysgogi'r gwaith o weddnewid gwasanaethau, ond, yn amlwg, mae'n rhaid i ni roi sylw i'r argymhellion.
Rwyf eisiau sôn wrthych chi am achos sy'n ymwneud â merch 14 oed yr ymosodwyd arni yn rhywiol. Plediodd y cyflawnwr yn euog ac, ym mis Medi, cafodd ddedfryd o 24 mis o garchar, wedi ei ohirio am ddwy flynedd. Gwnaed gorchymyn atal niwed rhywiol am 10 mlynedd a chafodd ei orchymyn hefyd i gofrestru fel troseddwr rhyw am 10 mlynedd. Mae'r ddedfryd ohiriedig wedi arwain at ganiatáu i'r pedoffilydd hwn sydd wedi ei euogfarnu ddychwelyd i'w gartref sy'n llai na 300 troedfedd i ffwrdd o gartref teuluol y dioddefwr. Mae ei bresenoldeb parhaus yn gwneud i'r teulu cyfan, ond yn enwedig y ferch yn ei harddegau sy'n agored i niwed, deimlo'n ofnus, yn anniogel ac i fethu â symud ymlaen. Mae'r teulu cyfan yn cael gwasanaeth cwnsela a chymorth iechyd meddwl i ddod i delerau â'r hyn sydd wedi digwydd, ond mae'r atgofion trawmatig parhaus a dyddiol am yr hyn a ddigwyddodd yn golygu bod adferiad mwy neu lai yn amhosibl.
Nid cyfiawnder yw hyn. Gwarth yw hyn. Oherwydd achosion fel hyn rwyf eisiau gweld y system cyfiawnder troseddol yn cael ei datganoli. Siawns y byddem ni'n rhoi diogelu'r dioddefwr, diogelu plant a diogelwch y cyhoedd wrth wraidd system cyfiawnder troseddol sy'n cael ei gweithredu yng Nghymru. Mae gennym ni ddeddfwriaeth yng Nghymru a ddylai gynnig amddiffyniad i'r plentyn sy'n dioddef yn yr achos hwn, ac eraill sydd mewn sefyllfa debyg. Dylai Deddf Trais yn Erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 fod yn un dewis i ddarparu amddiffyniad. Hefyd, mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn ei gwneud yn glir bod llesiant yn cynnwys yr hawl i fod yn rhydd rhag cam-drin a chael rheolaeth ar eich bywyd o ddydd i ddydd. Mae angen symud y troseddwr a euogfarnwyd yn yr achos hwn cyn y gellir gwneud mwy o niwed. Ni ddylai'r ferch hon orfod wynebu'r sawl a wnaeth ei cham-drin bob un dydd.
Dirprwy Weinidog, pa obaith y gallwch chi ei gynnig i'r teulu y cyfarfûm i â nhw yr wythnos hon?
Wel, unwaith eto, diolchaf i Leanne Wood am ddod â hyn i'n sylw yn y Siambr hon heddiw. Yn amlwg, mae gennym ni gyfrifoldebau o ran diogelu ein plant rhag cam-drin rhywiol a chamfanteisio, ac, yn wir, rydym yn datblygu ac yn ymgynghori ar y canllawiau statudol. Ond mae hefyd yn gyfrifoldeb i'r system gyfiawnder, a byddaf hefyd yn gwneud yn siŵr bod yr achos hwn yn cael ei godi ar y lefel uchaf o ran ein heddlu a'n comisiynwyr heddlu a throseddu.