Part of the debate – Senedd Cymru am 3:05 pm ar 10 Rhagfyr 2019.
Diolch, Llywydd. Pleser yw cael lansio ymgynghoriad cyhoeddus 12 wythnos ar ein cynlluniau uchelgeisiol ledled y Llywodraeth i wella ansawdd aer ar draws Cymru. Gwn fod pawb yn y Cynulliad hwn yn cytuno bod gan bobl yng Nghymru yr hawl i anadlu aer sy'n iach. Er bod ansawdd cyffredinol dda i'n haer ni ar hyn o bryd a bod hyn yn cymharu'n dda â gweddill y DU a'r UE, fe allwn ni wneud yn well ac mae cyfle amlwg i weithredu ymhellach.
Mae'r 'Cynllun Aer Glân i Gymru: Awyr Iach, Cymru Iach' yn nodi fframwaith cenedlaethol a fydd yn galluogi pob un ohonom ni, ledled Cymru, i weithio gyda'n gilydd i sicrhau gwelliannau pellach a chynaliadwy mewn modd sy'n atgyfnerthu ein gwaith ni ar newid hinsawdd, datgarboneiddio a thwf amgylcheddol. Mae hon yn garreg filltir bwysig yn ein hymdrechion ni i wella ansawdd yr aer ymhellach eto yng Nghymru, ac mae'n dwyn gwaith ynghyd ar draws llawer o adrannau'r Llywodraeth a sefydliadau'r sector cyhoeddus drwy bedair thema ganolog, sef: diogelu iechyd a lles cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol; cefnogi'r amgylchedd, ecosystemau a bioamrywiaeth; cefnogi Cymru lewyrchus; a chefnogi mannau cynaliadwy.
Mae'n hanfodol bod ein dull ni o weithredu yn diogelu iechyd a lles cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol. Mae ein thema gyntaf yn pwysleisio'r camau gweithredu cyfredol ac arfaethedig i leihau llygredd aer, y risgiau ac anghydraddoldebau. Mae hyn yn cynnwys ymrwymo i dargedau newydd o ran deunydd gronynnol yng Nghymru, sy'n seiliedig ar dystiolaeth ac yn canolbwyntio ar iechyd, gan ystyried gwerthoedd canllawiau caeth Sefydliad Iechyd y Byd.
Mae'r ail thema yn cydnabod pwysigrwydd diogelu ein hamgylchedd naturiol, ein hecosystemau a'n bioamrywiaeth a hyrwyddo twf amgylcheddol ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Un o'r heriau mwyaf yr ydym ni'n eu hwynebu yw dod o hyd i ffordd o sicrhau amgylchedd sy'n iach, yn gydnerth ac yn gynhyrchiol i'r dyfodol gan barhau i greu swyddi, tai a seilwaith. Byddwn yn mesur cynnydd drwy ddangosyddion newydd ar gyfer bioamrywiaeth.
Mae'r drydedd thema yn cefnogi Cymru lewyrchus. Rydym yn awyddus i fod yn gymdeithas arloesol, gynhyrchiol a charbon isel sy'n cydnabod terfynau'r amgylchedd byd-eang ac yn defnyddio adnoddau yn effeithlon ac yn gymesur â'n hangen. Mae busnesau ffyniannus yn bwysig i economi lwyddiannus yng Nghymru ac mae angen inni gyflawni ein huchelgeisiau ar gyfer twf economaidd ochr yn ochr â'n hymrwymiadau i gael aer glân a thwf amgylcheddol iach. Drwy gyfuniad o reoleiddio, buddsoddi a datblygiadau technegol, llwyddwyd i wneud cynnydd sylweddol eisoes i leihau llygredd aer oherwydd diwydiant. I gyflawni gwelliannau pellach, fe fyddwn ni'n parhau i weithio gyda rhanddeiliaid, gan dargedu heriau penodol o ran ansawdd aer mewn ardaloedd diwydiannol.
Mae'r bedwaredd thema, a'r olaf, yn cydnabod pwysigrwydd lleihau llygredd yn yr aer mewn mannau cyhoeddus. Mae 'Polisi Cynllunio Cymru' yn cydnabod pwysigrwydd ansawdd aer a seinweddau priodol i iechyd a lles pobl a'r amgylchedd. Rydym yn cynhyrchu canllawiau pellach ar gyfer awdurdodau cynllunio lleol a datblygwyr i gefnogi ystyriaeth fanwl o ansawdd aer a seinweddau yn y broses gynllunio. Mae dull cydgysylltiedig rhwng polisi trafnidiaeth cenedlaethol a pholisi cynllunio yn cefnogi cynnydd yn y defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus a theithio llesol, gan leihau allyriadau a'u heffaith ar y cyhoedd. Byddwn yn gweithio gyda rhanddeiliaid i annog newid moddol oddi wrth ddibyniaeth ar gerbydau preifat a thuag at fathau cynaliadwy o drafnidiaeth.
Er y gallwn arwain a gosod esiampl drwy weithredu gan y Llywodraeth, ni allwn gyflawni'r cynllun ar ein pennau ein hunain. Mae mynd i'r afael â llygredd aer yn llwyddiannus yn golygu bod Llywodraeth Cymru, ei hasiantaethau, awdurdodau lleol, busnes a diwydiant, sefydliadau anllywodraethol ac, wrth gwrs, y cyhoedd yn gweithio gyda'i gilydd. Fe fyddwn yn rhoi'r grym i bawb leihau'r effeithiau a'u cysylltiad ag ansawdd aer lleol drwy addysg well a chodi ymwybyddiaeth, a datblygu dulliau cyfathrebu integredig a dargedwyd i hysbysu a galluogi newid mewn ymddygiad.
Bydd gan ein Deddf Aer Glân newydd ni i Gymru ran allweddol i'w chwarae i'n helpu ni i sicrhau hyn drwy gyflawni'r ymrwymiad ym maniffesto'r Prif Weinidog a lleihau'r baich y mae ansawdd aer gwael yn ei roi ar iechyd pobl, ein heconomi, bioamrywiaeth a'r amgylchedd naturiol. Byddaf yn ymgynghori ar gynigion mwy manwl ar gyfer y Ddeddf erbyn diwedd tymor presennol y Cynulliad, gan ystyried yr ymatebion i'r ymgynghoriad hwn.
Dros y 12 wythnos nesaf, rwy'n gobeithio cael trafodaeth adeiladol ar y cynigion yn y cynllun, ac rwy'n eich annog chi a'ch etholwyr i ymateb iddyn nhw. Gyda'n gilydd, mae gennym gyfle i wella ansawdd aer ledled y wlad, er ein mwyn ni, er mwyn ein plant ac er mwyn cenedlaethau'r dyfodol. Diolch.