Part of the debate – Senedd Cymru am 3:10 pm ar 10 Rhagfyr 2019.
Diolch, Gweinidog, am eich datganiad chi'r prynhawn yma. Mae maes polisi'r agenda aer glân yn hanfodol bwysig i'r Llywodraeth ac i wleidyddion o bob lliw a llun. Rwy'n mynd i ddarllen y datganiad hwn—rwy'n credu y bydd hynny ynddo'i hun yn fodd inni ganolbwyntio ar yr hyn sydd dan sylw—
Mae marwolaethau y gellir eu hosgoi oherwydd clefyd anadlol yn ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru yn fwy na 60 y cant ar gyfer dynion a 66 y cant ar gyfer menywod, o'u cymharu ag 11 y cant yn unig ar gyfer y ddau ryw pe byddech chi'n digwydd byw mewn maestref goediog braf neu yng nghefn gwlad.
Mae hwn yn ystadegyn brawychus yn wir, a dweud y lleiaf, ac yn fater mewn maes polisi y mae'r ysgogiadau i ymdrin ag ef yn ein dwylo ni, lle y gallwn ni wneud gwahaniaeth.
Mae'n werth myfyrio hefyd ar sefyllfa Cymru dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, sydd wedi dangos bod allyriadau yng Nghymru rhwng 2015 a 2016 wedi codi 5 y cant, a, rhwng 2009 a 2016, wedi codi bron 1.5 y cant, o'i gymharu â gostyngiad o 5 y cant ledled y DU. Felly, mae'n amlwg nad yw'r dulliau y mae Llafur Cymru wedi bod yn eu defnyddio yn y maes penodol hwn wedi bod yn gweithio, er fy mod i'n credu bod datganiad y Gweinidog yn ddiffuant y prynhawn yma o ran ceisio newid y naratif ar y pwnc penodol hwn. Dyna pam ei bod yn destun gofid i mi fy mod i'n sefyll yn y fan hon ac yn dweud y drefn wrth Lywodraeth Cymru am fethu â chyflwyno Deddf aer glân a deddfu'n wirioneddol yn y maes penodol hwn. Gallaf gofio'r tro cyntaf y gwnes i alw ar y Prif Weinidog ar y pryd, Carwyn Jones, i dynnu'r partneriaid ynghyd a chael trafodaeth wirioneddol i roi darn o ddeddfwriaeth ar y llyfr statud erbyn diwedd y Cynulliad hwn.
Yn anffodus, erbyn hyn, er gwaethaf ymrwymiad y Prif Weinidog presennol fel arweinydd, ni fyddwn yn gweld y Ddeddf hon gerbron y Cynulliad hwn. Rwy'n clywed y Gweinidog yn cyfeirio at Brexit fel un o'r problemau efallai, oherwydd y pwysau sydd ar ei hadran hi, ond ceir cytundeb ar y maes polisi penodol hwn ar draws y Siambr hon i gyflawni'r gwelliannau hyn. Ac, oni bai fod y gwelliannau hyn yn cael eu hymgorffori mewn cyfraith, ni fydd llawer o bartneriaid cyhoeddus a phartneriaid sector preifat yn gallu cyflawni'r gwelliannau sy'n ddyledus. Ac felly fe fyddwn ni'n annog y Gweinidog i fyfyrio unwaith eto ar y maes penodol hwn. Nid yw'r amser wedi dod i ben yn gyfan gwbl—mae bron 18 mis arall eto cyn yr etholiadau i'r Cynulliad, ac, fel y dywedais i, gydag ewyllys da, mae modd inni wneud cynnydd ar y mater hwn.
Fodd bynnag, os ydych chi'n parhau i benderfynu peidio â chyflwyno deddfwriaeth yn y maes hwn—yn ôl yr hyn a ddeallaf yn y datganiad hwn, dim ond sôn am Bapur Gwyn yr ydym yma—a wnewch chi ymrwymo i neilltuo amser yng nghalendr y Cynulliad cyn i'r Cynulliad gael ei ddiddymu er mwyn trafod y pwnc penodol hwn a phleidleisio ar unrhyw argymhellion a allai ddeillio o'r Papur Gwyn a'r ymgynghoriadau a gynhelir? Oherwydd credaf fod hwn yn faes pwysig, sef deall sut yn union y byddwch chi'n ymdrin â'r eitem benodol hon.
Yn ogystal â hynny, fel y clywsom yn y datganiad busnes, ceir problem fawr ynghylch llosgi yng Nghymru, a'r deunydd gronynnol sy'n deillio o hynny. Mae'n ymddangos bod cytundeb trawsbleidiol ar y mater penodol hwn ymhlith fy nghyd-Aelodau o etholaeth Sir Fynwy, yr Aelod dros Abertawe, neu'r Barri ym Mro Morgannwg yn fy rhanbarth i. A wnewch chi dynnu sylw heddiw at sut y bydd y strategaeth aer glân, neu'r cynllun, fel yr ydych chi wedi ei gyflwyno ef, yn ymdrin ac yn mynd i'r afael â rhai o'r pryderon yn y maes penodol hwn ynghylch llosgi?
Rydych wedi crybwyll bioamrywiaeth a phwysigrwydd creu diwylliant bioamrywiaeth yma yng Nghymru. Rydym yn gwybod, ysywaeth, bod ymdrechion Llywodraeth Cymru o ran plannu coed wedi taro ymhell iawn oddi wrth y nod. Sut y gallwn ni fod yn hyderus y bydd y cynllun penodol hwn, wrth iddo sôn am gynyddu bioamrywiaeth ledled Cymru, mewn gwirionedd yn gallu cyflawni'r gwelliannau y soniwch amdanynt yn y maes penodol hwn?
Hefyd, rydych chi'n sôn am grŵp arbenigol—cafodd panel arbenigol ei sefydlu i edrych ar ymyriadau mewn lleoliadau domestig, ac, mewn gwirionedd, mae'n sôn am ddiddymu allyriadau o ffynonellau domestig yn gyfan gwbl. A wnewch chi ein goleuo ni ynglŷn ag union natur yr ymyriadau hynny, oherwydd mae'n ddatganiad beiddgar iawn? A pha ymyriadau fydd y Llywodraeth yn ceisio eu cyflawni, oherwydd rwy'n tybio bod yr wybodaeth honno gennych chi, gan fod gennych banel o arbenigwyr, yn amlwg, yn rhoi cyngor ichi yn y maes penodol hwnnw?
Siomedig iawn, yn ôl yr hyn a ddeallaf i, yw nad yw Llywodraeth Cymru yn cefnogi gwneud gwelliannau i safonau Sefydliad Iechyd y Byd o ran ansawdd aer, dim ond i safonau'r UE yn unig, er eich bod yn cyfeirio'n fyr at hynny yn eich datganiad—y byddwch yn cael eich arwain, yn hytrach na dweud y byddwch chi'n dymuno gwireddu'r targedau hynny mewn gwirionedd. A wnewch chi egluro imi pam na wnewch chi osod y targed ymestynnol iawn hwnnw sydd gan Sefydliad Iechyd y Byd i chi eich hun, yn hytrach na thargedau'r UE, yr ydych chi'n anelu atyn nhw?
Rydym i gyd yn gefnogol i ragor o drafnidiaeth gyhoeddus, ond ceir rhaniad eglur iawn rhwng cefn gwlad a'r trefi. Mewn nifer o achosion, mewn mannau gwledig, yn anffodus, nid oes trafnidiaeth gyhoeddus ar gael o gwbl. Felly, fe fyddai'n dda iawn cael gwybod sut y byddwch chi'n llunio'r maes polisi a fydd yn galluogi'r gwelliannau hynny lle mae trafnidiaeth gyhoeddus yn bodoli fel bod hwnnw'n ddewis gwerth chweil yn hytrach na defnyddio ceir preifat, heb gosbi pobl mewn mannau gwledig, lle, yn aml iawn, yr unig ddull o drafnidiaeth sydd ganddyn nhw yw defnyddio'r cerbyd modur preifat sydd wedi ei barcio wrth y tŷ.
Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig nawr, yn amlwg, fel yr oeddech chi'n dweud, fod pobl yn cymryd rhan yn yr ymgynghoriad hwn ac, yn y pen draw, ein bod ni'n gweld ymateb gan y Llywodraeth sy'n mapio dyfodol y maes arbennig hwn. Ni allwn barhau i gael ystadegau gan Iechyd Cyhoeddus Cymru sy'n tynnu sylw at y ffaith bod rhwng 1,400 a 2,000 o farwolaethau cynamserol y flwyddyn yn gysylltiedig ag ansawdd aer gwael. Rwy'n cyfeirio'n ôl at y datganiad agoriadol a wnes i yn y datganiad hwn ynglŷn â sut mae'r anghydraddoldebau—. Os ydych yn byw mewn ardal dlawd, mae yna siawns o 60-66 y cant y byddwch chi'n marw o anhwylderau anadlol, o'i gyferbynnu â siawns o 11 y cant os ydych chi'n byw mewn maestref goediog. Mae hwnnw'n anghydraddoldeb na allwn ni ei oddef na chaniatáu iddo barhau.
Yn ei bapur ar adnewyddu trefol, a gyflwynodd ryw 18 mis yn ôl, nododd fy nghyd-Aelod David Melding pa mor uchelgeisiol yw Ceidwadwyr Cymru yn y maes polisi penodol hwn, a sut y byddem ni'n barod i weithio gyda Llywodraeth Cymru i greu parthau aer glân mewn lleoliadau trefol a mannau diogel o amgylch ysgolion. Felly erbyn 2021, ni fyddwn ni'n trafod hyn o hyd, bydd gennym gamau gweithredu, a gallwn gyfeirio at ardaloedd yng Nghymru a all fod yn batrymau o ragoriaeth, yn hytrach na'r ystadegau hynny a ddefnyddiais yn fy sylwadau agoriadol, sy'n dangos, mewn gwirionedd, fod ansawdd yr aer wedi dirywio yng Nghymru 5 y cant yn ddiweddar, o'i gymharu â rhannau eraill o'r DU, lle mae wedi gwella 5 y cant.