Part of the debate – Senedd Cymru am 3:16 pm ar 10 Rhagfyr 2019.
Diolch i chi, Andrew R.T. Davies, am y rhestr hir iawn yna o sylwadau ynglŷn â'r ymgynghoriad yr wyf i wedi ei lansio heddiw. Fe wnaf i fy ngorau i ateb eich holl gwestiynau. Mae'n rhaid imi ei alw ef i gyfrif am ddweud y drefn wrth Lywodraeth Cymru. Mae'n dda gweld Sefydliad Prydeinig yr Ysgyfaint yma yng Nghymru yn cydnabod y gwaith da yr ydym ni wedi bod yn ei wneud. Rwy'n falch iawn o'r cynllun, ond fe gafodd cynlluniau'r Torïaid yn Lloegr eu disgrifio gan Sefydliad Prydeinig yr Ysgyfaint fel cyfle a gollwyd gyda risg o golli tir. Felly, rwy'n dweud hynny ar fy union. Fodd bynnag, mae bron yn Nadolig, felly rwy'n falch iawn eich bod chi'n hapus i weithio gyda ni ynglŷn â hyn.
Yn sicr, rwy'n cofio papur David Melding, ac rwy'n hapus iawn i weithio gyda chi. Nid oes gennym yr holl atebion. Yn sicr, fe fydd yr ymgynghoriad hwn, rwy'n gobeithio, yn cyflwyno rhai ymatebion da iawn y gallwn ni fwrw ymlaen â nhw. Rydym wedi cael y rhaglen, rwy'n lansio'r ymgynghoriad arfaethedig heddiw, ac yna fe fydd gennym ni'r Ddeddf aer glân. Fe glywais i'r hyn a ddywedodd Andrew R.T. Davies am y Ddeddf, a'r ffaith nad ydym yn ei chynnig yn ystod y tymor Cynulliad hwn. Rwyf wedi ymrwymo i gynhyrchu Papur Gwyn cyn diwedd y tymor. Gwn ichi ddweud y byddwn ni'n rhoi'r bai ar Brexit. Wel, mae Brexit yn broblem enfawr i'm hadran i. Fe wyddoch fod fy adran i wedi mynd i'r afael yn llwyr â deddfwriaeth Ewropeaidd a chyllid a rheoleiddio, ac ati. Felly, mae wedi tynnu'r ffocws oddi ar bethau fel hyn. Hoffwn i'n fawr ddod â Deddf aer glân gerbron y tymor hwn, ond rwyf wedi ymrwymo i Bapur Gwyn.
Mae'n rhaid imi ddweud nad deddfwriaeth yw'r ateb i bopeth. Mae gennym ddulliau y gallwn eu defnyddio, ac rwy'n credaf ein bod wedi gwneud cynnydd sylweddol yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Un o'r pethau yr ydym ni wedi bod yn eu gwneud yn Llywodraeth Cymru, o ran ansawdd aer a gwella ansawdd aer, yw adeiladu sylfaen o dystiolaeth nad oedd gennym o'r blaen. Yn aml iawn, buom yn edrych tuag at Lywodraeth y DU am mai gan y rheini oedd y dystiolaeth i gyd. Ond, erbyn hyn rwy'n credu bod gennym yr argyfwng hinsawdd, mae gennym y materion bioamrywiaeth yr oeddech chi'n cyfeirio atyn nhw, ac ansawdd yr aer. Er bod yna orgyffwrdd, tri pheth gwahanol iawn yw'r rhain ac mae'n rhaid inni ddod â nhw at ei gilydd.
Rhai o'r pethau yr ydym ni wedi bod yn eu gwneud—. Fe fyddwch chi'n ymwybodol bod gan awdurdodau lleol bwerau ar hyn o bryd i gyflwyno parthau allyriadau isel, er enghraifft, a pharthau aer glân, felly mae hynny eisoes ar waith; nid oes angen mwy o ddeddfwriaeth arnyn nhw i allu gwneud hynny.
Roeddech chi'n cyfeirio at losgi gwastraff. Yn amlwg, nid fy nghyfrifoldeb i yw gwastraff, ond rwyf wedi cael sawl trafodaeth gyda Hannah Blythyn, y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol, ynglŷn â llosgi a'r hyn y gallwn ni ei wneud. Ac, wrth gwrs, rydym ni'n genedl gyfrifol. Mae'n rhaid ymdrin yn effeithiol â'r gwastraff na ellir ei ailgylchu mewn ffordd na fydd yn llygru'r amgylchedd nac yn allforio'r broblem honno. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn cymryd y cyfrifoldeb hwnnw. Felly, er bod llosgi deunydd gwastraff ar gyfer gwres a phŵer yn uchel iawn o ran hierarchaeth gwastraff statudol, os mynnwch chi—mae'n uwch na thirlenwi—rwyf i o'r farn ei fod yn gam trosiannol. Mae angen inni ddod o hyd i ddatrysiad ar gyfer symud oddi wrth blastigau untro, er enghraifft, a gwn fod y Gweinidog yn ystyried gwahardd neu gyfyngu ar rai cynhyrchion plastig untro.
Rydych chi'n codi pwynt pwysig iawn ynglŷn â choetir. Nid ydym wedi bod yn plannu'r niferoedd o goed y byddem wedi hoffi gwneud, ond unwaith eto, fe welwch chi gynnydd yn hyn, oherwydd rwy'n sicrhau bod hynny yn digwydd.
O ran hylosgi domestig, mae hwn yn faes diddorol iawn, oherwydd yn amlwg mae hynny'n digwydd dan do, dyna lle mae pobl yn byw, ac yn anffodus fe all yr aer gael ei lygru. Felly, fe ofynnwyd y cwestiwn imi, 'A ydych chi'n mynd i wahardd stofiau sy'n llosgi pren?' Nac ydym. Ond, yr hyn y mae angen ei ystyried yw'r tanwydd a ddefnyddir. Felly, er enghraifft, rydym yn ceisio gwahardd coed gwlyb oherwydd gwyddom yn amlwg fod yn rhaid i'r tân weithio hyd yn oed yn galetach i gynhyrchu'r gwres, felly mae angen i bobl ddefnyddio coed sych. Os yw pobl yn defnyddio pren gyda farnais neu baent arno, er enghraifft, fe all hynny'n amlwg gynyddu'r cemegau. Felly, rwy'n mynd i ymgynghori ar gynigion cyn bo hir i wahardd neu gyfyngu ar werthu coed gwlyb a glo traddodiadol hefyd, oherwydd gwyddom fod peth o'r glo carreg di-fwg o Gymru, er enghraifft, yn cael ei ystyried yn gynnyrch glân.
O ran canllawiau Sefydliad Iechyd y Byd (WHO), rwy'n gwybod eich bod chi wedi codi hyn gyda mi o'r blaen ac rwy'n credu imi ateb nad ydym yn gwybod eto a yw'n bosibl cyflawni canllawiau'r WHO ym mhobman ledled Cymru, na sut y gellid ei gyflawni o gwbl, mewn gwirionedd. Felly, rydym yn ystyried hynny. Rydym yn cydymffurfio â'r terfynau deddfwriaethol presennol ar gyfer deunydd gronynnol yng Nghymru, ond os edrychwch chi ar y canllawiau, rwy'n credu bod hynny tua 50 y cant yn fwy y mae angen inni edrych arno. Felly, mae hyn yn rhywbeth y byddwn ni'n ei ystyried yn ofalus iawn. Unwaith eto, fe fyddwn ni'n ymgynghori ar dargedau newydd ar gyfer deunydd gronynnol yng Nghymru, a bydd hynny'n rhoi ystyriaeth i ganllawiau'r WHO fel rhan o'r broses o ddatblygu Deddf aer glân i Gymru.
Eich cwestiwn olaf ynghylch trafnidiaeth—fe fyddwch chi'n ymwybodol y bydd Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth yn bwrw ymlaen â strategaeth drafnidiaeth a fydd yn canolbwyntio ar ardaloedd gwledig. Bydd hefyd yn cyflwyno'r Bil bysiau. Rwy'n cytuno'n llwyr, rydym eisiau gweld pobl yn newid eu hymddygiad, i ffwrdd o ddefnyddio'r car tuag at drafnidiaeth gyhoeddus, ond er mwyn i hynny ddigwydd, mae'n rhaid i'r drafnidiaeth gyhoeddus fod ar gael. Felly, unwaith eto, rwyf wedi bod yn cael trafodaethau gyda'r Gweinidog ynglŷn â phob agwedd ar hynny, o ran tacsis hefyd, er enghraifft, a defnyddio mwy o geir carbon isel. Felly, ar ôl i'r strategaeth gael ei chyhoeddi, byddwch chi'n gallu gweld y cysylltiad rhwng y rhain.