Cynhyrchu Ynni yn Ynys Môn

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:30 pm ar 11 Rhagfyr 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 1:30, 11 Rhagfyr 2019

(Cyfieithwyd)

Cyfarfûm â’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol y mis diwethaf, i drafod y polisïau ynni drafft yn y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol, gan gynnwys y rheini sy’n effeithio ar Ynys Môn. Daeth ymgynghoriad y FfDC i ben ar 15 Tachwedd. Mae swyddogion wrthi'n adolygu'r 1,100 o ymatebion a gafwyd, a bydd Llywodraeth Cymru yn ymateb i'r ymgynghoriad yn y gwanwyn.