Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:32 pm ar 11 Rhagfyr 2019.
Na; na, ni fuaswn yn cytuno â hynny. Ymgynghoriad ydoedd, ac fel y dywedaf, mae swyddogion Llywodraeth Cymru o adran y Gweinidog wrthi’n adolygu'r 1,100 o ymatebion a gawsom. Gwn fod adolygiad cychwynnol o'r ymatebion wedi datgelu bod rhai aelodau o'r cyhoedd wedi mynegi pryderon am effaith y polisïau ar eu cymunedau—credaf fod hynny'n amlwg yn rhywbeth y mae angen edrych arno—yn ogystal â'r diwydiant ynni adnewyddadwy. Maent hefyd wedi cyflwyno eu safbwyntiau, ac maent wedi gofyn am gael gwared ar y dull gofodol, er mwyn caniatáu iddynt ddatblygu yn unrhyw le. Wel, yn amlwg, mae Llywodraeth Cymru yn dangos arweinyddiaeth, drwy gyflwyno'r FfDC hwn, a fydd yn sicrhau ein bod yn gallu cyrraedd ein targedau ar gyfer ynni adnewyddadwy. Ond, fel y dywedaf, ymgynghoriad ydoedd, ac mae'r ymatebion yn cael eu hadolygu ar hyn o bryd.