Plannu Coed

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:37 pm ar 11 Rhagfyr 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 1:37, 11 Rhagfyr 2019

(Cyfieithwyd)

Wel, o ran rhethreg, ni chredaf y gallaf gystadlu â Phlaid Brexit. Soniais am blannu coed ddoe pan lansiais yr ymgynghoriad ar gyfer y cynllun aer glân. Fi fydd y cyntaf i gyfaddef nad ydym wedi bod yn plannu'r nifer o goed y buaswn yn dymuno'u gweld ac y bydd eu hangen arnom os ydym am gyrraedd ein targedau datgarboneiddio. Mae llawer iawn o waith yn mynd rhagddo ar hyn o bryd, ac wedi bod yn mynd rhagddo, buaswn yn dweud, dros y flwyddyn ddiwethaf, ar nifer y coed y gallwn eu plannu. Credaf ein bod wedi plannu dros 16 miliwn o goed yn ystod y tair blynedd diwethaf. Ailstocio oedd llawer o hynny; mae angen i ni edrych ar ardaloedd newydd. Fe fyddwch yn gwybod am ymrwymiad maniffesto’r Prif Weinidog i gael coedwig genedlaethol, ac mae fy swyddogion wedi bod yn canolbwyntio ar hynny dros yr ychydig fisoedd diwethaf a byddaf yn darparu mwy o wybodaeth am y goedwig genedlaethol pan fyddwn yn dychwelyd yn y flwyddyn newydd.

Credaf mai'r hyn y bydd y goedwig genedlaethol yn ei wneud yw y cyflymu ailgoedwigo, ond bydd hefyd yn edrych tuag at eraill. Ni allwn wneud hyn ar ein pen ein hunain. Ni all Llywodraeth Cymru wneud hyn ar ein pen ein hunain. Mae arnom angen i eraill ein helpu, a bydd hynny'n rhan o'r goedwig genedlaethol.