Plannu Coed

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:38 pm ar 11 Rhagfyr 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mohammad Asghar Mohammad Asghar Conservative 1:38, 11 Rhagfyr 2019

(Cyfieithwyd)

Mae hanner fy nghwestiwn wedi'i ateb beth bynnag. Honnodd y Cydffederasiwn Diwydiannau Coedwigoedd yn ddiweddar fod lefel y cyllid ar gyfer plannu coed draean yn unig o'r lefel y dylai fod os yw Llywodraeth Cymru am gyrraedd ei thargedau sylfaenol. Aethant ymlaen i ddweud bod angen gwario miliynau o bunnoedd yn rhagor ar y gwaith o blannu coed os yw Cymru am gael unrhyw obaith o wireddu'r dyhead i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd. Weinidog, rydych newydd ddweud bod llawer iawn o waith yn mynd rhagddo ar hyn o bryd. A yw'r cyllid ar gael, a beth yw eich amserlen a'ch targedau ar gyfer cyflawni'r hyn rydych eisoes wedi'i addo—o leiaf 2,000 hectar y flwyddyn? Felly, pa mor hir y bydd hynny'n ei gymryd, a phryd y byddwch yn agosáu at y targed, sef 80 y cant yn llai ar hyn o bryd? Diolch.