Plannu Coed

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:39 pm ar 11 Rhagfyr 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 1:39, 11 Rhagfyr 2019

(Cyfieithwyd)

Felly, dychwelaf at yr hyn a ddywedais yn fy ateb i David Rowlands. Ni all Llywodraeth Cymru wneud hyn ar ein pen ein hunain. Mae arnom angen i eraill ein helpu i wneud hyn. Mae arnom angen i eraill ddarparu cyllid. Mae arnom angen i eraill ddarparu tir. Rhoesom gyllid sylweddol tuag at ein cyfnod mynegi diddordeb ar gyfer cynlluniau coed a choetiroedd mewn perthynas â Glastir. Mae cyllid ar gael hefyd drwy brosiectau’r cynllun rheoli cynaliadwy. Yn ein hymgynghoriad 'Ffermio Cynaliadwy a’n Tir', un peth y credaf fod pawb yn cytuno arno yw y gallai ffermwyr geisio plannu mwy o goed ar eu tir efallai, ac yn sicr, ymddengys eu bod yn awyddus iawn i wneud hynny pan fyddwn yn bwrw ymlaen â'r cynllun hwnnw.

Rwy'n gwneud llawer iawn o waith gyda Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae bwrdd CNC eisoes wedi cymeradwyo rhaglen ambarél i greu coetiroedd, gyda chyllid ar gael. Bydd honno'n ymgorffori cynlluniau a phrosiectau newydd a rhai sy'n bodoli eisoes.