Tâl ac Amodau Gweithwyr Fferm

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:05 pm ar 11 Rhagfyr 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Janet Finch-Saunders Janet Finch-Saunders Conservative 2:05, 11 Rhagfyr 2019

(Cyfieithwyd)

Wrth gwrs, cafodd gweithwyr fferm yn yr Alban hwb cadarnhaol yr wythnos hon gan y byddant yn cael codiad cyflog o 3 y cant. Yma yng Nghymru, cynigiodd y panel cynghori ar amaethyddiaeth y dylai isafswm cyfraddau tâl ar gyfer gweithwyr amaethyddol gynyddu 1.8 y cant ar draws yr holl fandiau cyflog. [Torri ar draws.] Daeth yr ymgynghoriad ar hyn i ben ar 16 Hydref 2019 ac ni fydd unrhyw grynodeb o'r ymatebion yn cael ei gyhoeddi. Nawr, rwy'n croesawu'r ffaith bod ein gweithwyr fferm yn mynd i gael mwy—[Torri ar draws.] Onid ydynt—?