Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:04 pm ar 11 Rhagfyr 2019.
Cytunaf yn llwyr fod un farwolaeth, yn amlwg, yn un farwolaeth yn ormod, ac rydym wedi gweld gormod o farwolaethau ar ein ffermydd, yn sicr yn ystod y tair blynedd a hanner ers i mi fod yn y swydd. Mae'n rhywbeth sy'n fy nigalonni'n fawr, ac maent yn lleoedd peryglus. Mae'n rhaid i bobl barchu eu gweithleoedd mewn perthynas â hynny. Mae un neu ddau o gynlluniau ar waith yng Nghymru rwyf bob amser yn fwy na pharod i'w cefnogi. Yn Sioe Frenhinol Cymru, rydym bob amser yn gwneud gwaith ar hyn ac mae'n rhywbeth rwyf am barhau i ganolbwyntio arno, yn amlwg. Mae'n rhaid i mi ddweud, yn fy mhortffolio, y diwydiant pysgota hefyd, rwy'n credu, unwaith eto, gwn ein bod wedi rhoi rhywfaint o arian fel y gellir defnyddio offer i geisio sicrhau bod pobl yn ymwybodol o'r peryglon ac i helpu i'w diogelu.