Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:52 pm ar 11 Rhagfyr 2019.
Diolch am eich ateb, Weinidog. Rwy'n siŵr eich bod yn ymwybodol mai dydd Sadwrn diwethaf oedd Dydd Sadwrn y Busnesau Bach. Roeddwn i, fel llawer o Aelodau eraill y Cynulliad, allan yn ymgyrchu dros fusnesau lleol. Ymwelais â Neil James, cigydd lleol bach yng nghefn gwlad Sir Fynwy, y mae ei deulu wedi bod yn cefnogi ffermwyr Cymru ac yn cyflenwi cynnyrch lleol ers y 1950au. Enwebir y busnes yn aml ar gyfer gwobrau'r Gynghrair Cefn Gwlad, ac nid yw eleni'n eithriad. Rydym yn sôn yn aml yn y Siambr hon am gefnogi busnesau lleol, ond pa gefnogaeth benodol rydych chi—a dylwn ychwanegu, Gweinidog yr economi hefyd, gan fod hwn yn amlwg yn faes trawsbynciol—yn ei darparu i gwmnïau bach, yn enwedig busnesau gwledig fel Neil James, fel y gall pobl mewn ardaloedd gwledig barhau i brynu'n lleol, cefnogi busnesau lleol a chefnogi cadwyni cyflenwi lleol, siopau lleol, ac wrth gwrs, y gymuned ffermio sydd y tu ôl i'r holl gadwyni cyflenwi lleol hynny?