Cefnogi'r Economi Wledig

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:53 pm ar 11 Rhagfyr 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 1:53, 11 Rhagfyr 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch. Mae'r sector bwyd-amaeth yn amlwg yn sector pwysig iawn i Lywodraeth Cymru ac i Gymru, ac mae'n bwysig iawn fod gennym y busnesau bach hyn, fel y cigyddion y cyfeirioch chi atynt, i gefnogi ein ffermwyr. Yn amlwg, gwn fod ffermwyr yn teimlo dan fygythiad ar hyn o bryd o ran cynhyrchu cig coch, er enghraifft, ac rwyf bob amser yn dweud, 'Os ydych am gefnogi ein ffermwyr, y ffordd i wneud hynny yw prynu'n lleol, gan y gwyddoch fod cig wedi'i gynhyrchu'n gynaliadwy ac nad yw wedi teithio milltiroedd lawer.'