Tâl ac Amodau Gweithwyr Fferm

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:06 pm ar 11 Rhagfyr 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 2:06, 11 Rhagfyr 2019

(Cyfieithwyd)

Wel, gan ddychwelyd at y cwestiwn ynghylch cyflogau ein ffermwyr a’n gweithwyr fferm, fel y dywedaf, sefydlwyd y panel cynghori ar amaethyddiaeth gan Lywodraeth Cymru ar ôl i Fwrdd Cyflogau Amaethyddol Llywodraeth y DU ar gyfer Cymru a Lloegr gael ei ddiddymu. Cefais ychydig o gyngor yr wythnos diwethaf gan y panel, ac rwy'n ddiolchgar iawn am eu gwaith manwl, ond, yn anffodus, gall y cyhoeddiad hwyr am yr isafswm cyflog cenedlaethol a'r cyfraddau cyflog byw cenedlaethol ar gyfer 2020 oherwydd yr etholiad cyffredinol olygu y bydd angen i'r panel ailedrych ar yr isafswm cyflog amaethyddol. Rwyf am sicrhau bod gennym dâl ac amodau teg a phriodol ar gyfer ein gweithwyr amaethyddol yma yng Nghymru.