Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:07 pm ar 11 Rhagfyr 2019.
Roedd cwestiwn 10 i fod i gael ei ofyn gan Dawn Bowden, nad yw'n bresennol. [Torri ar draws.]—Rwy'n siarad nawr. Tynnwyd cwestiwn 11 yn ôl. Roedd cwestiwn 12 i fod i gael ei ofyn gan Jayne Bryant, nad yw'n bresennol. Daw hynny â'ch sesiwn gwestiynau i ben, Weinidog. A gadewch i hyn fod yn wers i'r holl Aelodau sy'n cyflwyno cwestiynau, fod y Gweinidog Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig yn arbennig o effeithlon wrth ateb cwestiynau, a gallai pob cwestiwn fod wedi'i ofyn a'i ateb heddiw. Nawr, dyna'r her i'r Gweinidog nesaf.