Tâl ac Amodau Gweithwyr Fferm

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:03 pm ar 11 Rhagfyr 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Michelle Brown Michelle Brown Independent 2:03, 11 Rhagfyr 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch am eich ateb, Weinidog. Hoffwn drafod amodau gwaith yn fanylach, gan y gall ffermydd fod yn lleoedd peryglus i weithio, ac er bod cryn dipyn o gynnydd wedi'i wneud o ran diogelwch mewn sectorau eraill fel adeiladu, mae'r un gwelliant—. Mae llawer iawn o farwolaethau'n dal i ddigwydd ar ffermydd Prydain. Mae’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch wedi adrodd bod chwech o bobl wedi’u lladd ar ffermydd Cymru eleni, gyda chyfartaledd pum mlynedd o bump o bobl y flwyddyn. Nawr, rwy'n siŵr y byddwch yn cytuno â mi fod marwolaeth un unigolyn yn ormod, ond a fyddech hefyd yn cytuno, wrth i 2019 ddirwyn i ben, y dylai helpu i wella diogelwch ar gyfer gweithwyr fferm fod yn un o weledigaethau'r Llywodraeth hon ar gyfer 2020, ac efallai mai'r flwyddyn nesaf fydd y flwyddyn y byddwch yn canolbwyntio ar leihau nifer marwolaethau gweithwyr fferm i ddim?