10. Dadl Fer: Mynd i'r afael â heriau gofal yr unfed ganrif ar hugain

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:55 pm ar 11 Rhagfyr 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Julie Morgan Julie Morgan Labour 5:55, 11 Rhagfyr 2019

(Cyfieithwyd)

Fodd bynnag, gwn fod Vikki yn canolbwyntio ar oedolion yn ei chyfraniad, ond credaf nad yw pobl yn aml yn sylweddoli mai plant sy'n achosi’r gost fwyaf. Rydym yn ceisio gostwng nifer y plant sy'n rhaid eu gosod mewn gofal, ond diogelwch yw'r sylfaen ar gyfer gostwng y niferoedd hynny. Mae'n rhaid inni gefnogi teuluoedd a chymunedau yn well, ac adeiladu ymatebion a fydd yn ein galluogi i wrthdroi’r tueddiad, a phan fydd angen i blant gael eu gosod mewn gofal mae angen inni sicrhau bod darpariaeth ar gael yn agos at eu cartref.  

Nawr, ar fater adnoddau, soniodd Vikki am y grŵp rhyngweinidogol ar dalu am ofal cymdeithasol sy'n edrych ar yr heriau ar gyfer y dyfodol. Mae bob amser wedi bod yn well gennym weld Cymru'n rhan o ddull o weithredu ar draws y DU i sicrhau nad yw pobl yn wynebu costau gofal mawr yn ddiweddarach mewn bywyd, ac fe welwn beth a ddaw yn sgil yr etholiad yr wythnos hon yn hynny o beth. Ond os bydd methiant polisi yn parhau ar lefel y DU, mae'r grŵp rhyngweinidogol yn gweithio i ddatblygu ateb a wnaed yng Nghymru sy'n iawn ar gyfer anghenion gofal yr unfed ganrif ar hugain. Dim ond rhan o'r ateb yw adnoddau ychwanegol, er mor bwysig ydynt, a soniodd Vikki Howells am yr argymhellion a ddeilliodd o waith Gerry Holtham; rydym yn edrych ar hynny yn y grŵp rhyngweinidogol. 

Ond tuedd fyd-eang arall yw effaith technoleg ac mae sut y bydd hyn yn effeithio ar ofal cymdeithasol yn faes pwysig iawn. Credaf fod yn rhaid i ofal cymdeithasol bob amser fod yn ymdrech gynhenid ​​wyneb yn wyneb, ond ar yr un pryd, bydd y defnydd priodol o dechnoleg yn dod yn bwysicach er mwyn diwallu anghenion gofal. Ac yn amlwg byddai'n ffôl ceisio rhagweld newidiadau technoleg ymhell yn y dyfodol; yn hytrach, rôl y Llywodraeth yn y maes yw annog a chynorthwyo darparwyr gofal cymdeithasol i wneud y defnydd gorau o dechnoleg sydd eisoes yn bodoli, a hefyd eu helpu i feddwl yn greadigol am y dyfodol. 

Gwn fod Vikki Howells wedi crybwyll yr economi sylfaenol, ac yn sicr mae hynny'n rhywbeth rydym yn gefnogol iawn iddo yn Llywodraeth Cymru. Fel y dywedodd, mae'r gronfa a sefydlwyd wedi cefnogi nifer o ffyrdd arloesol o fynd i'r afael â gofal cymdeithasol, ac roeddwn yn falch iawn o ymweld â rhai o'r rheini pan gyhoeddwyd y rhai diwethaf. Ac rwy'n falch iawn o glywed am nodau uchelgeisiol cyngor Rhondda Cynon Taf, yn enwedig y cynllun Cadw’n Iach yn y Cartref y gwn amdano hefyd, sy'n dda iawn. 

Hoffwn ddweud am un o'r pethau sy'n ein hwynebu yn y dyfodol, sef newid hinsawdd sydd, yn amlwg, yn un o'r heriau mwyaf sy'n ein hwynebu. Mae’n argyfwng hinsawdd a boed yn dywydd mwy eithafol neu fewnfudo i'r DU wedi'i yrru gan y caledi y bydd newid hinsawdd yn ei achosi mewn rhannau eraill o'r byd, mae angen inni gyrraedd sefyllfa lle gall gwasanaethau cyhoeddus yma addasu, ac mae hynny'n cynnwys gofal cymdeithasol. Mae angen i ni weithio hefyd fel y gall y cannoedd o ddarparwyr gofal cymdeithasol yng Nghymru gefnogi'r uchelgais cyffredinol o symud yn gyflym i fod yn garbon niwtral, sy'n bwysig iawn yn fy marn i pan feddyliwn am y nifer enfawr o staff sydd gennym yn gweithio yn y system gofal cymdeithasol, a llawer ohonynt fel unigolion. 

Yn 2020, rwyf hefyd yn bwriadu cyflwyno cynllun cenedlaethol ar gyfer gofalwyr. Siaradodd Vikki yn rymus am gyfraniad gofalwyr. Ledled Cymru, ceir tua 370,000 o ofalwyr di-dâl o bob oed sy'n cefnogi rhywun annwyl sy'n hŷn, yn anabl neu'n ddifrifol wael heb gael eu talu i wneud hynny. Maent yn cyfrannu'n aruthrol at gymdeithas Cymru, a chredaf ei bod yn bwysig dweud bod mwyafrif llethol y gofalwyr hynny’n falch o'i wneud ac eisiau ei wneud, ac yn gofalu am rywun annwyl, a dylem wneud ein gorau glas i'w cynorthwyo i wneud hynny. Ond rydym yn gwybod o adroddiadau a gafwyd ar ofalwyr eu bod yn ei chael hi’n anodd, ac yn aml maent yn wynebu llawer o anawsterau. Ond rwy'n credu ei bod mor bwysig ein bod yn cydnabod y rôl hynod bwysig y mae gofalwyr yn ei chwarae, darparu cefnogaeth iddynt a galluogi pobl hefyd i gael bywyd ar wahân i ofalu. Byddaf yn gweithio gyda'r grŵp cynghori gweinidogol ar ofalwyr a rhanddeiliaid eraill yn 2020 i ddatblygu cynllun cenedlaethol ar gyfer gofalwyr yn 2020. 

I orffen, hoffwn wneud dau bwynt arall. Dylai'r system gofal cymdeithasol yng Nghymru yn y dyfodol fod yn system gytbwys. Bydd darparwyr annibynnol yn parhau i fod yn rhan allweddol o'r system, ac mae gennym ddarparwyr annibynnol gwych yng Nghymru, ac rydym yn ddibynnol arnynt. Ac mae rhai ohonynt ar flaen y gad yn eu hymarfer. Fel Llywodraeth, rydym am i ddarparwyr annibynnol o ansawdd uchel chwarae rhan allweddol. Ond byddwn hefyd yn cefnogi awdurdodau lleol sydd am ddod â mwy o ddarpariaeth o dan eu rheolaeth uniongyrchol. Rydym hefyd eisiau gweld cydweithfeydd yn chwarae mwy o ran mewn marchnad ofal gytbwys, fel y crybwyllodd Vikki Howells. Yn y flwyddyn newydd rwy'n bwriadu darparu datganiad sy'n gosod fframwaith ar gyfer ailgydbwyso gofal cymdeithasol. 

Yn olaf, felly, yn y pen draw, rwy’n credu bod y ddadl hon yn ymwneud yn y bôn â'r pwynt pwysig iawn a wnaeth Vikki: sut y gallwn dyfu capasiti a gallu'r gweithlu i fanteisio ar y cyfleoedd ac ymateb i'r heriau sydd o'n blaenau. Rwy'n ymwybodol iawn o'r heriau y mae gweithwyr gofal cymdeithasol proffesiynol yn eu hwynebu wrth ddarparu gofal o ansawdd uchel sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn ar sail gyson. Mae adrannau gwasanaethau cymdeithasol a darparwyr gofal cymdeithasol yn llawn o bobl ymroddedig, medrus a gweithgar. Galwedigaeth yw gofal cymdeithasol i lawer iawn o bobl, nid swydd yn unig. Yr hyn sy'n rhaid inni ei wneud yw gwella statws y gweithlu—soniodd Vikki Howells am y drefn gofrestru rydym yn ei chyflwyno. Mae angen inni fynd i’r afael â’r gwahaniaeth rhwng cyflogau a grybwyllwyd ganddi hefyd. Mae hi wedi sôn am y cynnydd a wnaethom ar gontractau dim oriau, ac rwy'n credu bod hwn yn ôl pob tebyg yn un o'r materion cwbl allweddol y mae'n rhaid inni roi sylw iddynt. Rhaid i'n prif sylw fod ar gynyddu capasiti a gallu'r gweithlu. Yn fwyaf arbennig, rwyf am i weithwyr cymdeithasol gael amser i uniaethu â phobl a gofalu amdanynt. Yn yr un modd, ni chaiff gweithlu'r dyfodol ei alluogi i wynebu'r her sydd o'n blaenau os yw, fel y dywedais, ar gyflog isel ac yn ansefydlog. Fel Llywodraeth rydym yn canolbwyntio ar waith teg, ac mae gofal cymdeithasol ar y blaen yn y datblygiadau hyn. 

I gloi, rydym yn dweud weithiau yn ein dadleuon nad yw'r status quo yn opsiwn; ni fu hynny erioed yn fwy gwir am ofal cymdeithasol wrth edrych allan ar weddill yr unfed ganrif ar hugain. Mewn sawl ffordd, rydym mewn lle da, ond mae llawer o waith i'w wneud. Rwy'n credu ein bod yn gwybod i ba gyfeiriad rydym eisiau mynd, ond diolch yn fawr i Vikki Howells am godi'r cwestiwn hwn yn y Siambr heno, ac edrychaf ymlaen at weithio ar draws y Senedd i ateb yr heriau hyn yn yr amser sydd i ddod. Diolch.