Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:30 pm ar 7 Ionawr 2020.
Diolch am y diweddariad yna. Un ffactor sydd wedi achosi llawer o ansicrwydd i fusnesau yng Nghymru yw Brexit. Nawr, mae eich plaid chi newydd ymladd etholiad cyffredinol ar sail polisi o wrthwynebu Brexit. Efallai eich bod wedi sylwi, Prif Weinidog, na wnaeth y strategaeth hon weithio'n dda iawn i chi. A dweud y gwir, gadewch i ni fod yn onest, cafodd Llafur gweir go iawn. Nid yn unig y cawsoch chi eich curo; cawsoch eich dinistrio. Ond, er hyn, rwy'n gweld eich bod chi'n dal i sôn am wrthwynebu Brexit yn y fan yma yn y Cynulliad. Onid yw'n amlwg, er lles busnesau Cymru, bod angen i chi chwarae eich rhan nawr i roi diwedd ar yr ansicrwydd a chefnogi Bil Brexit Llywodraeth y DU.