Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:31 pm ar 7 Ionawr 2020.
Wel, Llywydd, bydd y Deyrnas Unedig yn gadael yr Undeb Ewropeaidd ar 31 Ionawr, a bydd busnesau yn canfod wedyn bod Brexit ymhell o fod drosodd, oherwydd, am fisoedd a blynyddoedd i ddod, byddwn yn parhau i weld yr angen i negodi cytundebau masnach rydd a threfniadau eraill, gyda'r Undeb Ewropeaidd a chyda rhannau eraill o'r byd. Mae gen i ofn bod unrhyw un sy'n credu y bydd sicrwydd wedi disodli ansicrwydd ar 1 Chwefror yn mynd i gael ysgytiad trist iawn.