Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:43 pm ar 7 Ionawr 2020.
Wel, nid wyf i'n cytuno â'r Aelod bod y problemau'n gwaethygu. Mae miloedd yn fwy o seddi i gymudwyr ar gael yng Nghymru heddiw ers 15 Rhagfyr pan gyflwynwyd capasiti newydd i'r gwasanaeth. Gostyngodd prisiau tocynnau i deithwyr yng Nghymru gan 1.1 y cant ddechrau mis Ionawr er iddyn nhw godi 2.8 y cant dros ein ffin. Mae wedi bod yn flwyddyn gyntaf anodd i Trafnidiaeth Cymru, ond rwy'n credu bod y gornel wedi ei throi eisoes ac y bydd teithwyr yn parhau i weld y gwahaniaeth yn ystod 2020.