1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:43 pm ar 7 Ionawr 2020.
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd yr wrthblaid—Paul Davies.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, o ystyried y problemau yr ydym ni wedi eu gweld yn ddiweddar, y mae'n ymddangos eu bod nhw'n tyfu a ddim yn gwella, a wnewch chi gytuno â mi nad yw Trafnidiaeth Cymru yn cyflawni dros bobl Cymru?
Wel, nid wyf i'n cytuno â'r Aelod bod y problemau'n gwaethygu. Mae miloedd yn fwy o seddi i gymudwyr ar gael yng Nghymru heddiw ers 15 Rhagfyr pan gyflwynwyd capasiti newydd i'r gwasanaeth. Gostyngodd prisiau tocynnau i deithwyr yng Nghymru gan 1.1 y cant ddechrau mis Ionawr er iddyn nhw godi 2.8 y cant dros ein ffin. Mae wedi bod yn flwyddyn gyntaf anodd i Trafnidiaeth Cymru, ond rwy'n credu bod y gornel wedi ei throi eisoes ac y bydd teithwyr yn parhau i weld y gwahaniaeth yn ystod 2020.
Wel, yn ddigon amlwg, nid ydym ni'n troi'r gornel honno. Gadewch i mi roi rhai o'i ffaeleddau i chi: roedd perfformiad o ran amser teithwyr a gollwyd trwy ganslo trenau yn waeth rhwng mis Gorffennaf a mis Tachwedd y llynedd na'r flwyddyn flaenorol; mae wedi ei chael hi'n anodd sicrhau cerbydau hirdymor; mae wedi methu â bodloni safonau'r Gymraeg ar sawl achlysur; ac rydym ni wedi gweld anhrefn ynghylch y broses adnewyddu ar gyfer pasys bws. Felly, mae'n amlwg yn methu, Prif Weinidog.
Nawr, wrth sôn am fethiannau trafnidiaeth, gadewch i ni edrych ar un arall o'ch methiannau o ran trafnidiaeth: mae'n ymddangos bod Maes Awyr Caerdydd yn mynd o ddrwg i waeth. Mae'r maes awyr wedi cyhoeddi colled o bron i £19 miliwn ar gyfer y flwyddyn ariannol ddiwethaf. Mae hyn bron dair gwaith yn uwch na'r flwyddyn flaenorol, ac eto mae eich Llywodraeth yn parhau i ymestyn y cyfleusterau benthyciad. Ac erbyn hyn, mae gwerth y maes awyr wedi gostwng yn sylweddol i £15 miliwn, prin draean o'r swm y'i prisiwyd yn 2014, y flwyddyn y cymerodd eich Llywodraeth chi reolaeth dros y maes awyr. Nawr, mewn cyferbyniad, ychwanegodd Maes Awyr Bryste fwy na 400,000 o deithwyr y llynedd, ychydig o dan draean o gyfanswm teithwyr Caerdydd yn 2019, gan gyhoeddi elw o £35 miliwn. Prif Weinidog, wrth i'r cadeirydd sy'n ymadael ddweud bod y maes awyr yn disgwyl colli 150,000 o deithwyr y flwyddyn nesaf, faint yn fwy o arian trethdalwyr ydych chi'n fodlon ei daflu at y maes awyr cyn i chi ddweud digon yw digon?
Wel, Llywydd, mae'n dda gweld bod y Blaid Geidwadol yng Nghymru, ar ddechrau blwyddyn arall, yn parhau i ymosod ar un o asedau hanfodol Cymru. Ers i'r maes awyr gael ei gymryd i berchnogaeth gyhoeddus, mae ei niferoedd teithwyr wedi cynyddu gan dros 70 y cant, cynyddodd ei drosiant £2.9 miliwn y llynedd dros y flwyddyn flaenorol. Gwn fod unrhyw dystiolaeth o lwyddiant yn peri siom i'r Blaid Geidwadol, ond dyna'r ffeithiau: mae nifer y teithwyr wedi cynyddu gan dros 70 y cant, a bu twf o dros 34 y cant mewn refeniw. Nawr, gadewch i ni obeithio bod gennym ni erbyn hyn Ysgrifennydd Gwladol Cymru a fydd yn siarad o blaid Maes Awyr Caerdydd, yn union fel y mae ASau Bryste wedi siarad o blaid y maes awyr hwnnw. Nawr, mae gennym ni Ddirprwy Weinidog yn Swyddfa Cymru sy'n credu mai datganoli'r doll teithwyr awyr i Gymru yw'r ateb cywir; gadewch i ni obeithio y gall berswadio ei Lywodraeth i wneud yr un peth. Yna, byddwn yn gweld y math o faes awyr yr ydym ni eisiau ei weld ar yr ochr hon, tra bod ei blaid ef ddim ond, yn llwyr erioed ddim ond wedi ceisio bychanu'r maes awyr, gwadu ei bwysigrwydd i economi Cymru, a byth ag unrhyw awgrym adeiladol i'w wneud amdano.
Prif Weinidog, mae'n amlwg nad ydych chi'n gwrando. Ond nid yw'n syndod nad ydych chi'n gwrando ar bobl Cymru: dydych chi ddim yn gwrando ynghylch Brexit, dydych chi ddim yn gwrando pan ddaw i'r maes awyr hwn. Nid yw pobl Cymru eisiau maes awyr cenedlaethol beth bynnag fo'r gost; maen nhw eisiau maes awyr sy'n cynnig dihangfa ddi-straen iddyn nhw. Dydyn nhw ddim eisiau i chi wastraffu'r arian y maen nhw'n gweithio'n galed amdano heb unrhyw ddiwedd mewn golwg.
Nawr, unwaith eto, Prif Weinidog, mae cymudwyr yn wynebu dechrau diflas i'r flwyddyn newydd, wrth i drenau gael eu hoedi, eu canslo neu hyd yn oed, yn anarferol, gadael yn gynnar. Y tro hwn, mae Trafnidiaeth Cymru yn rhoi'r bai ar brinder staff a hyfforddiant am yr oedi, ond, Prif Weinidog, yr un yw'r problemau, ond â gwahanol esgus bob tro. Fel Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, pryd ydych chi'n mynd i gymryd rheolaeth dros Trafnidiaeth Cymru, sy'n siomi pobl Cymru?
Llywydd, nid oes gan yr Aelod air da i'w ddweud am Gymru o gwbl. Beth bynnag fo'r gwasanaeth, mae ef eisiau ei fychanu. Mae'n sôn am yr hyn y mae pobl Cymru ei eisiau gan eu maes awyr. Mi ddywedaf wrthych chi yr hyn y mae ef ei eisiau: nid yw ef eisiau maes awyr o gwbl.
Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price.
Wrth i ni gychwyn blwyddyn newydd, hoffwn ddechrau, ar wahân i ddymuno blwyddyn newydd dda i chi, gyda'ch fideo diwedd blwyddyn. Na, nid yr un James Bond enwog, ond yr un lle'r ydych chi'n nodi eich llwyddiannau mwyaf yn eich blwyddyn gyntaf fel Prif Weinidog. Rydych chi wedi tynnu sylw, fel un o'r llwyddiannau hynny, at adeiladu bron i 480 o dai bob mis yn 2019. A allwch chi ddweud wrthym ni pa gyfran, yn fras, o'r cartrefi hynny a fyddai'n cael eu hystyried yn rhai fforddiadwy, ac a allwch chi ddweud a yw'r ffigur hwnnw o bron i 480 y mis yn uwch neu'n is na'r ffigur cyfatebol ar gyfer y tair blynedd blaenorol?
Diolch i'r Aelod, a blwyddyn newydd dda iddo fe, wrth gwrs, hefyd.
Mae'n wych gwybod ei fod yn gwylio fy fideos yn eu holl wahanol ddimensiynau. [Chwerthin.] Yr hyn y byddaf yn ei ddweud wrtho yw hyn: mae gan y Llywodraeth hon ymrwymiad i adeiladu 20,000 o dai fforddiadwy yn ystod tymor y Cynulliad hwn. Mae hynny ddwywaith nifer y tai fforddiadwy a adeiladwyd yn ystod tymor diwethaf y Cynulliad, ac rydym ni'n ffyddiog y byddwn ni'n cyrraedd y ffigur hwnnw cyn i ni gyrraedd yr etholiadau ym mis Mai 2021.
Wel, fel yr ydym ni'n ei ddweud fel rheol o dan yr amgylchiadau hyn, gallaf helpu'r Prif Weinidog, gan fod Gwasanaeth Ymchwil y Cynulliad, yn dyfynnu ystadegau eich Llywodraeth eich hun, yn dweud mai 552 a 574 y mis, yn y drefn honno, oedd y ffigurau cyfatebol ar gyfer 2016 a 2017. Roeddech chi hyd yn oed rhyw fymryn yn is nag yn 2018, felly nid yw'n ymddangos bod hynny'n rhywbeth, Prif Weinidog, i ymffrostio yn ei gylch—rydych chi'n mynd am yn ôl.
Un o'r llwyddiannau eraill yr ydych chi'n cyfeirio ato yn y fideo hwnnw yw plannu 14,000 o goed y dydd. Nawr, rwyf i wedi eich eich ceryddu ynghylch hanes gwael y Llywodraeth yn y maes hwn yn y gorffennol, felly mae unrhyw gynnydd i'w groesawu, ond onid y ffigur cyfunol yw hwn ar gyfer Cymru ac Uganda? Er ein bod ni'n amlwg yn croesawu gwaith arloesol rhaglen Cymru o Blaid Affrica, a allwch chi ddweud, yn fras, pa gyfran o'r 5 miliwn o goed hyn a blannwyd yng Nghymru? Ac a wnaethoch chi gyrraedd eich targed y llynedd o 2,000 hectar o goetir newydd y flwyddyn?
Wel, Llywydd, hoffwn fynd yn ôl at y ffigur tai am ennyd, oherwydd nid wyf i'n derbyn am eiliad bod dyblu nifer y cartrefi fforddiadwy sy'n cael eu hadeiladu yng Nghymru yn nhymor hwn y Cynulliad, rywsut, yn ddirywiad i berfformiad dros dymor diwethaf y Cynulliad—nid yw hynny'n wir, ac mae hwnnw'n darged y byddwn ni'n ei gyrraedd.
Mae angen i ni wneud mwy o ran plannu coed. Mae'r coed yr ydym ni'n eu plannu yn Uganda yn bwysig iawn—yn bwysig iawn fel ein cyfraniad at gynhesu byd-eang ac yn bwysig iawn yn y cyfraniad yr ydym ni'n ei wneud at yr ymdrechion y mae pobl leol yn y rhan honno o Uganda yn eu gwneud. Ond mae angen i ni wneud mwy. Mae angen i ni wneud mwy yma yng Nghymru—dyna pam yr ydym ni wedi ymrwymo i'r goedwig genedlaethol a dyna pam mae buddsoddiad sylweddol wedi ei neilltuo ar gyfer y goedwig genedlaethol yn y gyllideb ddrafft. Mae'n gyfraniad pwysig y gallwn ni ei wneud yma yng Nghymru at ddatgarboneiddio ac at fioamrywiaeth, a byddwn ni'n gwneud yn well ac yn gwneud mwy yn y dyfodol.
O ran tai, y cwbl yr oeddwn i'n ei wneud oedd gofyn i chi beth oedd y sefyllfa dros y flwyddyn ddiwethaf, blwyddyn gyntaf eich cyfnod yn y swydd, o'i chymharu â'r tair blynedd flaenorol o dan eich rhagflaenydd. Yr hyn sydd gennyf i'w ddweud wrthych chi yw eich bod chi wedi mynd am yn ôl, o ran y tair blynedd diwethaf.
O ran coed, nid ydych chi wedi gallu ei gadarnhau, ond rwy'n amau, unwaith eto, nad ydych chi wedi cyrraedd y targed ar gyfer coetir newydd yng Nghymru. Nid oes dim yn digwydd ar frys o dan y Llywodraeth hon. Y goedwig genedlaethol—ydy, mae wedi cael ei chyhoeddi, ond nid yw wedi cael ei gwireddu eto. Ni fydd y Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol yn cyhoeddi ei bapur cyflwr y genedl tan 2022—bedair blynedd ar ôl iddo gael ei greu; bydd y cwricwlwm cenedlaethol newydd yn cael ei weithredu flwyddyn yn ddiweddarach na'r disgwyl; ac nid yw'r trenau newydd, yr addawyd yn wreiddiol y bydden nhw mewn gwasanaeth y gwanwyn diwethaf, wedi ymddangos eto.
Wrth i ni gychwyn ein hunfed flwyddyn ar hugain o ddatganoli yng Nghymru, mae Cymru wedi blino ar gael ei rhedeg mewn modd mor araf. Onid oedd Alun Davies yn siarad ar ran y rhan fwyaf ohonom ni pan ddywedodd, wrth gyfeirio atoch chi, 'Roeddwn yn amlwg yn dymuno iddo fod yn fwy radical'?
Wel, Llywydd, mae unrhyw syniad y gallwch chi gyhoeddi coedwig genedlaethol a'i bod yn tyfu o'ch blaen chi yn chwerthinllyd fel awgrym. Mae'r goedwig genedlaethol yn rhaglen 20 mlynedd a bydd angen buddsoddiad arni dros y cyfnod maith hwnnw, a bydd yn ased cenedlaethol pwysig i Gymru.
Fframwaith adrodd y Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol yw'r un a argymhellwyd i ni gan bwyllgor y Cynulliad a ymchwiliodd iddo, felly y cwbl yr ydym ni'n ei wneud yw ymateb i'r cyngor y mae'r Cynulliad ei hun wedi ei roi i ni.
Llywodraeth yw hon, Llywydd, â rhaglen radical a fydd yn sicrhau bod y Cynulliad Cenedlaethol hwn yn cymryd rhan lawn a gweithredol drwy gydol gweddill y flwyddyn hon mewn ffordd heriol iawn. Wrth i ni gymryd camau i ddeddfu i ddod â bysiau o dan reolaeth gyhoeddus, i roi'r cwricwlwm cenedlaethol newydd ar y llyfr statud, i roi amddiffyniadau newydd i rentwyr preifat yma yng Nghymru ac i ddileu amddiffyniad cosb resymol, ar draws y Llywodraeth gyfan hon, byddwn yn cymryd camau y bydd y Cynulliad Cenedlaethol hwn yn rhan o'u cymryd. Mae'n rhaglen radical, mae'n rhaglen hynod ymroddedig a phrysur, ac rwy'n edrych ymlaen at weithio arni drwy gydol y flwyddyn i ddod.
Arweinydd Plaid Brexit, Mark Reckless.
Prif Weinidog, yn ogystal â dymuno blwyddyn newydd dda i chi, a gaf i ddiolch i chi, eich Llywodraeth a'ch plaid am yr hyn yr ydych chi wedi ei wneud i sicrhau Brexit? Fe wnaethoch chi gyflwyno cynllun ar gyfer Brexit mewn enw yn unig, ond pan y'i cynigiwyd i chi gan Theresa May, gan gynnwys undeb tollau, fe wnaethoch chi bleidleisio yn ei erbyn. Yn hytrach, eich dewis oedd gamblo y gallech chi gynllwynio ail refferendwm trwy berswadio pobl Prydain i ethol Jeremy Corbyn yn Brif Weinidog y DU. O edrych yn ôl, a ydych chi'n difaru hynny?
Llywydd, bydd gan yr Aelod ei fersiwn ei hun o hanes. Nid dyna fu un i, yn sicr. Er bod adeg pan oedd yn bosibl y gallem ni fod wedi rhoi'r penderfyniad ynghylch Brexit yn ôl yn nwylo'r bobl a'i gwnaeth ef yn y lle cyntaf, roeddwn i'n credu ei bod hi'n bwysig dros ben i ddangos unwaith eto yr hyn a ddywedasom fel plaid yn ein maniffesto yn 2016, ac a ddywedasom fel Llywodraeth yn 2016 yn y refferendwm—bod dyfodol Cymru yn well ei byd y tu mewn i'r Undeb Ewropeaidd. Tra bod posibilrwydd y gallai hynny fod wedi cael ei roi yn ôl i bobl mewn refferendwm, roedd yn bwysig iawn yn wir ein bod ni'n cefnogi'r posibilrwydd hwnnw. Mae'r posibilrwydd hwnnw ar ben. Bydd Llywodraeth newydd y DU yn mynd â ni allan o'r Undeb Ewropeaidd ddiwedd y mis hwn ac yn ysgwyddo'r cyfrifoldeb am y canlyniadau.
Nid wyf i'n siŵr a oes gan y Prif Weinidog hanes amgen yn y fan yna, ond rwy'n credu mai'r agosaf y daeth yn Nhŷ'r Cyffredin oedd pleidlais pan gafodd ei drechu er bod y Cabinet cyfan wedi ymatal arno. Rwy'n cofio eich Cwnsler Cyffredinol yn y fan yma yn dweud ei fod yn fodlon yn gyffredinol â'r cytundeb ymadael, ac efallai yr hoffai ddim ond ychydig o newidiadau a datganiad gwleidyddol nad oedd yn rhwymo, ond serch hynny, pleidleisiodd Llafur yn erbyn hynny. Cynigiwyd y trafodaethau undeb tollau i chi gan Theresa May a phenderfynasoch gamblo, ac enillodd fy mhlaid i yr etholiadau Ewropeaidd a ddilynodd ac enillodd y Ceidwadwyr yr etholiad cyffredinol a ddilynodd. Nawr rydym ni'n mynd i gael Brexit, ac nid Brexit mewn enw yn unig y dywedasoch chi eich bod ei eisiau. Felly, unwaith eto, diolchaf i chi am yr hyn yr ydych chi wedi ei wneud i gynorthwyo yn yr achos hwnnw.
Er gwaethaf canlyniad y refferendwm, er gwaethaf canlyniad etholiad y mis diwethaf, ac ni wnaethoch chi ateb y cwestiwn hwn yn gynharach—roeddwn i'n meddwl eich bod chi wedi gwneud hynny ddoe, ond a gaf i gadarnhau ar gyfer y cofnod mai eich bwriad yw parhau i bleidleisio yn erbyn Brexit pan fyddwn ni'n ystyried y cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil ymadael yn ddiweddarach y mis hwn? Ac wrth i chi bennu eich trywydd parhad Corbyn, a ydych chi'n bwriadu newid unrhyw beth oherwydd sut y pleidleisiodd pobl? A ydych chi wedi dysgu unrhyw wersi o bleidlais y mis diwethaf?
Llywydd, bydd yr Aelod wedi gweld y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol a gyhoeddwyd ddoe. Nid Brexit y mae'n ei ddadansoddi, mae'n dadansoddi Bil yr Undeb Ewropeaidd (Cytundeb Ymadael). Daw i'r casgliad nad yw'r Bil mewn cyflwr a fyddai'n caniatáu i'r Llywodraeth argymell i'r Cynulliad Cenedlaethol y dylai roi ei gydsyniad i'r Bil hwnnw, am y rhesymau a nodir ynddo. Bydd cyfle i drafod hynny yma ar lawr y Cynulliad Cenedlaethol a chawn weld lle mae barn y mwyafrif yn y Siambr hon yn gorffwys.