Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:49 pm ar 7 Ionawr 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 1:49, 7 Ionawr 2020

(Cyfieithwyd)

Mae'n wych gwybod ei fod yn gwylio fy fideos yn eu holl wahanol ddimensiynau. [Chwerthin.] Yr hyn y byddaf yn ei ddweud wrtho yw hyn: mae gan y Llywodraeth hon ymrwymiad i adeiladu 20,000 o dai fforddiadwy yn ystod tymor y Cynulliad hwn. Mae hynny ddwywaith nifer y tai fforddiadwy a adeiladwyd yn ystod tymor diwethaf y Cynulliad, ac rydym ni'n ffyddiog y byddwn ni'n cyrraedd y ffigur hwnnw cyn i ni gyrraedd yr etholiadau ym mis Mai 2021.