Bil yr Undeb Ewropeaidd (Cytundeb Ymadael)

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:06 pm ar 7 Ionawr 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Delyth Jewell Delyth Jewell Plaid Cymru 2:06, 7 Ionawr 2020

(Cyfieithwyd)

Diolchaf i'r Prif Weinidog am yr ateb yna. Cawsom drafodaeth ddiddorol yn y pwyllgor materion allanol ddoe ynglŷn â'r memorandwm cydsyniad deddfwriaethol ar gyfer y Bil hwn, pryd y gwnaethoch chi esbonio eich syniadau ar hynny yn eglur iawn. Nawr, rwyf i wedi darllen y memorandwm ers hynny, ac rwy'n cytuno yn gyffredinol gyda'ch dadansoddiad. Mae Plaid Cymru yn derbyn bod Brexit yn mynd i ddigwydd, ond nid yw hynny'n golygu y dylai Boris Johnson gael rhwydd hynt i orfodi beichiau niweidiol ar Gymru, i wanhau hawliau gweithwyr nac i ddileu craffu seneddol.

Rwy'n pryderu'n arbennig am y diffyg cyfyngiad ar y grym y mae protocol Iwerddon-Gogledd Iwerddon yn ei roi i'r Ysgrifennydd Gwladol, gan y byddai'n caniatáu iddo, mewn egwyddor, ddiwygio Deddf Llywodraeth Cymru heb ganiatâd y Senedd hon. Felly, Prif Weinidog, a allwch chi fy sicrhau y bydd eich Llywodraeth yn ei gwneud yn gwbl eglur i Lywodraeth y DU, yng nghyfarfod y Cyd-bwyllgor Gweinidogion (Negodiadau’r UE) ddydd Iau, fod hyn yn hollol annerbyniol ac yn mynnu bod y Bil yn cael ei ddiwygio fel na ellir byth defnyddio'r grym penodol hwn?