Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:07 pm ar 7 Ionawr 2020.
Diolchaf i Delyth Jewell am hynna. Gofynnwyd i mi yn y pwyllgor ddoe, Llywydd, a oedd gen i unrhyw synnwyr o hierarchaeth ymhlith y gwrthwynebiadau i'r Bil a nodir yn y memorandwm. Roeddwn i'n amharod i'w rhoi nhw yn y math hwnnw o drefn, ond mae'n sicr yn annerbyniol, a dylai fod yn annerbyniol i bob Aelod o'r Cynulliad hwn, bod y Bil cytundeb ymadael yn rhoi'r grym i'r Ysgrifennydd Gwladol ddiwygio, drwy is-ddeddfwriaeth, y ddeddfwriaeth sylfaenol sydd wedi sefydlu'r Cynulliad Cenedlaethol Cymru hwn, ac a allai wneud hynny heb ein caniatâd ni o gwbl. Nawr, mae hwnnw'n rym cwbl annerbyniol. Ni ddylai fod yn y Bil hwn. Nid yw yno oherwydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru; mae yno, fel yr eglurodd Delyth Jewell, oherwydd protocol Iwerddon-Gogledd Iwerddon. Ni fyddai'n costio dim i Lywodraeth y DU ei gwneud yn eglur nad yw'n bwriadu defnyddio'r grym hwnnw o ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru, a dyna y dylai ei wneud.
Nawr, mae fy nghydweithiwr, y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit, wedi ysgrifennu ar fwy nag un achlysur ar yr union fater hwn at Mr Barclay, yr Ysgrifennydd Gwladol yn yr Adran dros Ymadael â'r Undeb Ewropeaidd. Bydd yn destun sgwrs yn y Cyd-bwyllgor Gweinidogion (Negodiadau’r UE) ddydd Iau. Mae gan unrhyw Lywodraeth sydd wedi ennill etholiad fandad, Llywydd, a dyna pam yr ydym ni'n derbyn ein bod ni'n gadael yr Undeb Ewropeaidd, ond nid yw mandad yn siec wag nac yn rhwydd hynt, ac nid yw'n iawn y dylai Llywodraeth gredu ei bod y tu hwnt i graffu a'r tu hwnt i her. Yn sicr, byddwn yn sicrhau bod yr her honno'n cael ei chyfleu'n gadarn i Lywodraeth y DU ar bob cyfle.