Gofal Cymdeithasol drwy Gyfrwng y Gymraeg

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:16 pm ar 7 Ionawr 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 2:16, 7 Ionawr 2020

Mae'r ffaith y gall bwrdd iechyd sy'n gweithredu o dan safonau'r iaith Gymraeg hyd yn oed ystyried symud claf dementia Cymraeg ei iaith i Loegr lle na fyddai gofal yn y Gymraeg, mae hynny yn brawf diamheuol fod safonau'r Gymraeg yn y maes iechyd yn gwbl, gwbl ddiffygiol. Dyma ddigwyddodd dros y Nadolig yn achos claf dementia oedrannus o Ynys Môn. Mae Plaid Cymru ac eraill wedi dadlau o'r cychwyn cyntaf fod y safonau iechyd yn llawer rhy wan. Onid ydy'r achos yma yn golygu bod yn rhaid cyflwyno safonau newydd, cadarn a hynny ar frys? Ac onid ydy'r achos yma hefyd yn profi diffyg dealltwriaeth am bwysigrwydd gofal yn y Gymraeg? Mae'r achos yn dangos bod y Gymraeg yn cael ei gweld fel rhywbeth ymylol neu ddymunol i'r gofal yn hytrach nag yn rhan hanfodol ohono fo o safbwynt diogelwch ac ansawdd bywyd yr unigolion. Beth ydych chi'n bwriadu ei wneud er mwyn gwreiddio'r egwyddor pwysig yma yn ein cyfundrefn gofal ac iechyd yng Nghymru?