Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:57 pm ar 7 Ionawr 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 1:57, 7 Ionawr 2020

(Cyfieithwyd)

Llywydd, bydd yr Aelod wedi gweld y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol a gyhoeddwyd ddoe. Nid Brexit y mae'n ei ddadansoddi, mae'n dadansoddi Bil yr Undeb Ewropeaidd (Cytundeb Ymadael). Daw i'r casgliad nad yw'r Bil mewn cyflwr a fyddai'n caniatáu i'r Llywodraeth argymell i'r Cynulliad Cenedlaethol y dylai roi ei gydsyniad i'r Bil hwnnw, am y rhesymau a nodir ynddo. Bydd cyfle i drafod hynny yma ar lawr y Cynulliad Cenedlaethol a chawn weld lle mae barn y mwyafrif yn y Siambr hon yn gorffwys.