Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:25 pm ar 7 Ionawr 2020.
Diolch i'r Aelod am hynna. Un o'n blaenoriaethau fydd buddsoddi mwy nag erioed o'r blaen yn y GIG yng Nghymru—£342 miliwn ychwanegol wedi ei ddynodi yn y gyllideb ddrafft a gyhoeddwyd ar 16 Rhagfyr i gryfhau gofal sylfaenol, er mwyn adeiladu ymhellach ar y nifer mwyaf erioed o feddygon a nyrsys sydd gennym ni yng Nghymru ac i ymateb i heriau poblogaeth hŷn.