1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 7 Ionawr 2020.
8. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer y gwasanaeth iechyd dros y deuddeg mis nesaf? OAQ54880
Diolch i'r Aelod am hynna. Un o'n blaenoriaethau fydd buddsoddi mwy nag erioed o'r blaen yn y GIG yng Nghymru—£342 miliwn ychwanegol wedi ei ddynodi yn y gyllideb ddrafft a gyhoeddwyd ar 16 Rhagfyr i gryfhau gofal sylfaenol, er mwyn adeiladu ymhellach ar y nifer mwyaf erioed o feddygon a nyrsys sydd gennym ni yng Nghymru ac i ymateb i heriau poblogaeth hŷn.
Prif Weinidog, ddoe, fe wnaethoch chi honni'n ffyddiog mewn cynhadledd i'r wasg fod cynlluniau ar gyfer ysbytai a byrddau iechyd i ymdopi â phwysau dros gyfnod y gaeaf yn dal eu tir. Fe wnaethoch chi hyd yn oed dynnu sylw at y ffaith bod eich Llywodraeth wedi darparu £30 miliwn—y mae croeso mawr iddo—yn gynharach nag erioed yn y flwyddyn i helpu byrddau iechyd i baratoi ar gyfer y gaeaf. Fodd bynnag, rwy'n credu o fewn tua hanner awr i'ch cynhadledd i'r wasg, cyhoeddodd fy mwrdd iechyd lleol, Hywel Dda, eu bod wedi profi mwy o gynnydd mewn achosion na welwyd o'r blaen—rydym ni wedi bod yn y sefyllfa hon o'r blaen, onid ydym ni, dîm—ac y byddent yn canslo pob llawdriniaeth ar gleifion mewnol ymhob un o'u hysbytai er lles diogelwch cleifion. Mae hyn yn frawychus. Dyma ddiwedd ar lawdriniaethau dewisol ym mwrdd iechyd Hywel Dda ar hyn o bryd.
Prif Weinidog, mae'n gwbl amlwg nad oedd y rhethreg a gyflwynoch chi i'r wasg wedi'i seilio ar ffeithiau, neu nad ydych chi eich hun yn gwbl ymwybodol o'r sefyllfa bresennol yn ein hysbytai yma yng Nghymru. Prif Weinidog, pryd y bydd eich Llywodraeth yn derbyn bod angen arweiniad cryf gan GIG Cymru oherwydd bod y pwysau hyn dros y gaeaf i'w gweld—coeliwch neu beidio—bob gaeaf? Ac rydym ni wedi bod yn y sefyllfa hon o'r blaen. Unwaith eto, mae'r bobl yn fy etholaeth yn gorfod aros yn ddiddiwedd am lawdriniaethau pen-glin, llawdriniaethau clun, pob math o lawdriniaethau dewisol. Ymddengys nad oes diwedd iddo.
Wel, Llywydd, yn anffodus, nid oes gan yr Aelod lawer o wybodaeth am y cynlluniau yn Hywel Dda, oherwydd ynghyd â'r holl fyrddau iechyd eraill yng Nghymru, ychydig iawn o lawdriniaethau a drefnwyd ar gyfer yr wythnos hon, oherwydd yr wythnos hon yw'r wythnos brysuraf o ran derbyniadau heb eu cynllunio i'n hysbytai. Bob blwyddyn, fel y dywed, mae'n gwbl ragweladwy, ac oherwydd hynny, cynlluniwyd ar ei gyfer gan y bwrdd iechyd lleol hwnnw.
Nawr, mae hi wedi bod yn bythefnos brysur iawn a heriol iawn yn y gwasanaeth iechyd yma yng Nghymru, ond mae'r system wedi bod yn gydnerth oherwydd y cynlluniau y mae'r byrddau iechyd lleol, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru a'r buddsoddiad ychwanegol, wedi eu rhoi ar waith. Fy nealltwriaeth i yw y bydd rhywfaint o lawdriniaethau a oedd wedi'u cynllunio wedi ailddechrau yn Hywel Dda heddiw, ac rwyf eisiau diolch ar goedd i staff y bwrdd iechyd hwnnw a staff ledled Cymru am eu hymdrechion mawr tra bu'r Cynulliad hwn yn cael egwyl dros y Nadolig a'r flwyddyn newydd i ymdrin â'r galwadau digynsail, ac i'w cydweithwyr yno ym maes gofal cymdeithasol yn ardal bwrdd iechyd Hywel Dda a oedd, ddoe a thros y penwythnos, yn gweithio'n ddi-baid i sicrhau, ble bynnag yr oeddent yn gallu helpu i symud cleifion i'r gymuned, eu bod yn mynd ymhell y tu hwnt i'r hyn y byddai disgwyl iddynt ei wneud fel arfer i helpu i wneud hynny. Dyna pam mae'r system wedi bod yn gydnerth, oherwydd ymrwymiad aruthrol y bobl sy'n gweithio ynddi, ac rwy'n credu ei bod hi'n dda iawn cael y cyfle i ddweud ar goedd cymaint yr ydym ni'n gwerthfawrogi hynny y prynhawn yma.
Diolch i'r Prif Weinidog.