Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:09 pm ar 7 Ionawr 2020.
A ydych chi'n derbyn bod gennym ni bellach Lywodraeth Geidwadol y DU sydd â mwyafrif, mwyafrif pendant, a mandad eglur i sicrhau bod Brexit yn digwydd? Ac ar y sail honno, yn hytrach na chwyno a cheisio cael yr hen ddadleuon a oedd, a bod yn blaen, yn digwydd cyn yr etholiad cyffredinol, onid yw'n hen bryd i chi a'ch Llywodraeth symud ymlaen, ymuno â thîm y DU, a batio ar yr un ochr â Llywodraeth y DU i gael y cytundeb Brexit gorau posibl wrth i ni adael yr Undeb Ewropeaidd? Rwy'n falch ein bod ni'n gadael yr Undeb Ewropeaidd ar 31 Ionawr, dyna'r hyn y pleidleisiodd pobl Cymru drosto ac mae'n bryd i ni ei weithredu ac i ni gael Llywodraeth Cymru sy'n cefnogi'r weledigaeth honno hefyd.