Rôl Goruchaf Lys y DU yn y Dyfodol

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit (mewn perthynas â'i gyfrifoldebau fel 'swyddog cyfreithiol') – Senedd Cymru am 2:45 pm ar 7 Ionawr 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jenny Rathbone Jenny Rathbone Labour 2:45, 7 Ionawr 2020

(Cyfieithwyd)

Mae'n siŵr y byddwch wedi clywed cyn arweinydd y Blaid Geidwadol, lai na phythefnos yn ôl, yn honni bod y farnwriaeth yn 'ystumio' y gyfraith, ac rwy'n dyfynnu, 'i gael y canlyniad y maen nhw eisiau ei gyflawni.' Adleisiwyd hyn, yn anffodus, gan wleidyddion Torïaidd eraill sy'n ymddangos eu bod yn paratoi i geisio tanseilio annibyniaeth y farnwriaeth—rwy'n siŵr nad oedd yn gysylltiedig â phenderfyniad y Goruchaf Lys bod penderfyniad Llywodraeth Boris Johnson i addoedi'r Senedd yn anghyfreithlon. Ond, pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda Gweinidogion y DU ynghylch y syniad y dylid newid y broses benodi ar gyfer ynadon newydd i'r Goruchaf Lys i'w gwneud yn fwy gwleidyddol ac felly'n llai annibynnol ar y weithrediaeth?