2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit (mewn perthynas â'i gyfrifoldebau fel 'swyddog cyfreithiol') – Senedd Cymru ar 7 Ionawr 2020.
4. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda swyddogion cyfatebol yn Llywodraeth y DU ynghylch rôl Goruchaf Lys y DU yn y dyfodol? OAQ54885
Wel, nid wyf wedi trafod hyn yn benodol gyda swyddogion cyfraith Llywodraeth y DU, ond dylent fod yn gwbl sicr o ymrwymiad cryf Llywodraeth Cymru i annibyniaeth y Goruchaf Lys. Roeddwn hefyd yn croesawu eisteddiad cyntaf y llys yng Nghaerdydd yr haf diwethaf, ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr at eisteddiadau'r llys yma yng Nghymru yn y dyfodol.
Mae'n siŵr y byddwch wedi clywed cyn arweinydd y Blaid Geidwadol, lai na phythefnos yn ôl, yn honni bod y farnwriaeth yn 'ystumio' y gyfraith, ac rwy'n dyfynnu, 'i gael y canlyniad y maen nhw eisiau ei gyflawni.' Adleisiwyd hyn, yn anffodus, gan wleidyddion Torïaidd eraill sy'n ymddangos eu bod yn paratoi i geisio tanseilio annibyniaeth y farnwriaeth—rwy'n siŵr nad oedd yn gysylltiedig â phenderfyniad y Goruchaf Lys bod penderfyniad Llywodraeth Boris Johnson i addoedi'r Senedd yn anghyfreithlon. Ond, pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda Gweinidogion y DU ynghylch y syniad y dylid newid y broses benodi ar gyfer ynadon newydd i'r Goruchaf Lys i'w gwneud yn fwy gwleidyddol ac felly'n llai annibynnol ar y weithrediaeth?
Wel, mae Deddf 2005 a sefydlodd y Goruchaf Lys yn nodi'n glir iawn y sail ar gyfer penodi ustusiaid y Goruchaf Lys. Ailystyriwyd hynny gan y Llywodraeth Geidwadol yn 2013, a'u dewis doeth oedd peidio â dilyn y camau gweithredu y mae'r rheini fel Michael Howard wedi bod yn eu hybu yn y wasg. Fe'm trawyd gan ei sylw ei fod wedi dweud mai gwleidyddion etholedig, atebol ddylai lunio'r gyfraith, gan anghofio'r ffaith, wrth gwrs, ei fod yn eistedd yn Nhŷ'r Arglwyddi ac nad yw wedi'i ethol. Gan anghofio hefyd, ar ôl llunio'r gyfraith, ei bod yn ddyletswydd ar wleidyddion, yn enwedig efallai, i ufuddhau i'r gyfraith, sef yr union sefyllfa yr oedd ymyriad y Goruchaf Lys—y mae'n cyfeirio ati yn ei chwestiwn—yn bwriadu ei datrys. Holl ddiben ymyriad y Goruchaf Lys oedd galluogi'r Senedd i eistedd nes cael ei gohirio'n briodol, gan roi i aelodau etholedig, atebol, yn iaith Michael Howard, yr hawl barhaus i lunio cyfreithiau a dwyn y Llywodraeth i gyfrif.
Rwyf eisiau bod yn glir iawn ein bod wedi ymrwymo fel Llywodraeth yma yng Nghymru i annibyniaeth lwyr y Goruchaf Lys, ac nad ydym yn ystyried y mathau o gynigion yr oedd Michael Howard yn eu hystyried yn ddim mwy na cham sylweddol iawn yn ôl. Nid yw hynny, gyda llaw, yn golygu na fyddem yn cefnogi unrhyw ddiwygio ar y Goruchaf Lys. Unwaith eto, rwyf wedi cyfeirio sawl gwaith at y ddogfen 'Diwygio ein Hundeb'. Mae hynny'n amlinellu'r newidiadau y credwn y byddai'n ddefnyddiol eu gweld yn y Goruchaf Lys i sicrhau y caiff buddiannau cyfraith Cymru eu hadlewyrchu yn y llys, ac rwy'n falch o ddweud bod Y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru yn dod i gasgliad tebyg yn ei gyfres o argymhellion.