Cydraddoldeb yn y Gyfraith

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit (mewn perthynas â'i gyfrifoldebau fel 'swyddog cyfreithiol') – Senedd Cymru am 2:42 pm ar 7 Ionawr 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 2:42, 7 Ionawr 2020

Mae'n glir bod system gyfiawnder wan yn arwain at anghydraddoldeb drwyddi draw, ac mae anghydraddoldeb i'w weld yng Nghymru, yn ôl yr adroddiad gan gomisiwn Thomas, ac mae o'n sôn am orgynrychiolaeth pobl o leiafrifoedd ethnig fel troseddwyr yn y system gyfiawnder a diffyg cyfleusterau i fenywod a diffyg gwasanaethau iechyd ac iechyd meddwl tu mewn i'r system. Ac mae'r adroddiad yn sôn y gallai'r system gyfreithiol bresennol arwain at anfanteision difrifol i bobl Cymru ac, yn wir, fod hynny'n digwydd ar hyn o bryd—anfanteision nad ydy pobl yn Lloegr, yr Alban na Gogledd Iwerddon yn eu profi. Beth ydy eich gweledigaeth hirdymor chi ar gyfer dyfodol y system gyfiawnder yng Nghymru o ran creu cydraddoldeb? Dwi'n clywed y camau cyntaf dŷch chi'n mynd i gymryd, ond beth ydy eich gweledigaeth tymor hir chi?