Cydraddoldeb yn y Gyfraith

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit (mewn perthynas â'i gyfrifoldebau fel 'swyddog cyfreithiol') – Senedd Cymru am 2:43 pm ar 7 Ionawr 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 2:43, 7 Ionawr 2020

Wel, rŷn ni fel Llywodraeth, wrth gwrs, yn galw am ddatganoli pwerau dros gyfiawnder yma i Gymru, fel ein bod ni'n gallu darparu gwasanaeth cyfiawnder sydd yn gymwys i bob elfen o gymdeithas yma yng Nghymru, a sicrhau—wnaeth Siân Gwenllian sôn am rôl menywod a sôn am leiafrifoedd ethnig yn y system gyfiawnder—bod darpariaeth wahanol ar gael i fynd i'r afael â'r sialensiau yn y ddau cohort hynny. Er enghraifft, rŷn ni wedi bod yn glir iawn, fel Llywodraeth, ein bod ni ddim yn credu bod digon o gyfleusterau yma i fenywod yng Nghymru. Dŷn ni ddim eisiau gweld carchar i fenywod, ond rŷn ni eisiau gweld darpariaeth amgen mewn canolfannau lle mae'n bosib i fenywod gadw cysylltiad â'u teuluoedd ac â'u plant, er enghraifft. Mae gormod o fenywod yn y system garchar yn gyffredinol a buasai cael darpariaeth amgen yma yng Nghymru yn gallu'n helpu ni i ddelio gyda rhai o'r sialensiau pwysig hynny.

Mae argymhellion pwysig hefyd yn yr adroddiad, gyda llaw, ynglŷn â mynediad i'r gyfraith drwy'r Gymraeg yn y system gyfiawnder. Mae pennod 11 yn frith o argymhellion ynglŷn â darpariaeth well drwy gyfrwng y Gymraeg yn ein llysoedd ni, yn ein haddysg gyfreithiol ni, yn llysoedd y crwner ac ati. Felly, mae hyn yn rhan bwysig o agenda'r comisiwn, ac yn un o'r pethau y bydd pwyllgor y Cabinet y mae'r Prif Weinidog wedi'i sefydlu yn edrych arno'n gynnar.