Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit (mewn perthynas â'i gyfrifoldebau fel 'swyddog cyfreithiol') – Senedd Cymru am 2:52 pm ar 7 Ionawr 2020.
Yn gyntaf, gwn pa mor bwysig yw hyn i'r Aelod, fel y mae hi'n nodi yn ei chwestiwn. Ers 2007, mae prosiectau a gefnogwyd gan gronfeydd strwythurol yr UE ym Merthyr Tudful, er enghraifft, wedi creu dros 1,000 o swyddi a dros 300 o fusnesau newydd. Gwn fod ystad ddiwydiannol Lawntiau yn Rhymni, er enghraifft, wrth inni siarad, yn cael cymorth gwerth dros £1 miliwn o arian yr UE. Dyna un enghraifft o'r budd y mae arian yr UE wedi'i sicrhau ledled Cymru.
Fel y dywedodd y Prif Weinidog yn ei ateb yn gynharach, rydym yn dal i aros am gynigion gan Lywodraeth y DU. Nid yw hwn yn fater o ni'n mynd allan o'n ffordd i geisio gwrthdaro â Llywodraeth y DU. Rydym yn awyddus i ddod o hyd i ffordd o weithio gyda Llywodraeth y DU i gael cyllid UE arall i Gymru, ond rhaid i hynny fod ar sail cyfranogiad gwirioneddol a gwir gytundeb ar draws pedair Llywodraeth y DU, nid ar sail ateb y mae Llywodraeth y DU yn ceisio ei orfodi. Rhaid parchu'r setliad datganoli o ran hynny, barn a leisiwyd gan y Senedd hon ar fwy nag un achlysur.
Mae ymgynghoriad y bwriadwn ei gyflwyno, a lywiwyd gan waith y Pwyllgor y mae Huw Irranca-Davies wedi bod yn ei gadeirio yn ymwneud â hyn, a'r cyfan a ddywedaf i yw: rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth y DU yn derbyn y cynnig y mae'r Prif Weinidog, yr wyf i ac mae eraill wedi'i wneud i gyflwyno'r cynigion y bydden nhw'n hoffi eu gweld ac yna i gydweithio â ni er mwyn cadw at y ffin ddatganoli a chyflawni'r ymrwymiadau a wnaed i bobl yng Nghymru—na ddylen nhw golli ceiniog o ganlyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd.