Y Gronfa Ffyniant Gyffredin

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit (mewn perthynas â'i gyfrifoldebau fel 'swyddog cyfreithiol') – Senedd Cymru am 2:51 pm ar 7 Ionawr 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Dawn Bowden Dawn Bowden Labour 2:51, 7 Ionawr 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch, Cwnsler Cyffredinol, am yr ateb hwnnw, ac rwy'n credu ei bod yn glir o'r cwestiynau i'r Prif Weinidog ein bod yn parhau i fod â diddordeb penodol yn swyddogaeth y gwledydd datganoledig wrth ddarparu'r gronfa ffyniant gyffredinol sydd wedi'i haddo ers tro. Rwy'n credu ei bod yn ddiddorol ein bod eisoes wedi gweld blaenoriaethau'r Torïaid, gyda Russell George yn awgrymu bod cymorth yn symud allan o'r Cymoedd—fel yr oeddem ni wedi rhybuddio ar stepen y drws fyddai'n digwydd os nad yw'r gronfa ffyniant gyffredinol yn cael ei datganoli i ni yng Nghymru. Fodd bynnag, rwy'n un o sawl Aelod o'r Cymoedd yn y Senedd hon sy'n llwyr werthfawrogi pwysigrwydd buddsoddi cyfalaf yn ein seilwaith a buddsoddi yn sgiliau ein pobl a byddwn ni eisiau i hynny barhau. Felly, gan gofio'r hyn yr ydych chi eisoes wedi'i ddweud, pryd yr ydych chi'n rhagweld y bydd trefniadau cyfreithiol ar gyfer y trefniadau ariannu newydd yn debygol o fod ar gael i graffu arnyn nhw?