Part of the debate – Senedd Cymru am 2:55 pm ar 7 Ionawr 2020.
Gweinidog, a gaf i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog Iechyd ynghylch y gost i'r GIG yng Nghymru o reoli plâu yn ein hysbytai? Yn ôl gwybodaeth a gafwyd gan y BBC, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg wedi talu bron £94,000 yn ystod y pedair blynedd diwethaf i'w gontractwr i ymdrin â'r pla, gwariodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe fwy na £52,000, a Bwrdd Iechyd Addysgu Powys dros £51,000, ac nid oedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn cadw unrhyw gofnod o'i ddata ynghylch rheoli plâu yno. A gawn ni ddatganiad gan y Gweinidog Iechyd ar yr hyn y mae'n ei wneud i sicrhau cysondeb o ran cadw cofnodion ar draws y byrddau iechyd yng Nghymru, a pha gamau y mae'n bwriadu eu cymryd o ran cadw costau yn ein hysbytai ar gyfer glanhau a chadw'n rhydd o lygod mawr a phryfed?