Part of the debate – Senedd Cymru am 2:56 pm ar 7 Ionawr 2020.
Rwy'n siŵr y bydd llawer o'r Aelodau yma yn rhannu fy mhryderon am y sefyllfa yn Iran. Er na fyddwn i mewn unrhyw ffordd yn amddiffyn y cadfridog a laddwyd, na'r gyfundrefn y mae'n ei gynrychioli, mae rhyfel hir a gwaedlyd yn bosibilrwydd gwirioneddol o ganlyniad i weithredoedd Arlywydd yr Unol Daleithiau. Gyda Phrif Weinidog y DU mor awyddus i sefydlu cytundeb masnach rydd gyda'r Unol Daleithiau, nid oes llawer o obaith y bydd y DU yn osgoi cael ei denu i wrthdaro a allai gael canlyniadau mwy na'r penderfyniad trychinebus i ymosod ar Irac, o ran anafiadau a mwy o ansefydlogrwydd yn y dwyrain canol. Mae Cymru yn darparu mwy na'i siâr o bersonél i'r lluoedd arfog. Bydd effaith unrhyw wrthdaro sy'n cynnwys milwyr ar lawr gwlad felly'n cael ei deimlo'n gryf iawn yng Nghymru, fel yr oedd hi gyda'r rhyfel yn erbyn Irac a'r gweithredu milwrol yn Affganistan. Rydym ni'n dal i ymdrin â chanlyniadau Anhwylder Straen wedi Trawma a digartrefedd yn sgil gwrthdaro blaenorol. Nid yw llawer iawn o'r cyn-filwyr wedi cael yr help y mae angen iddyn nhw ei gael gan eu Llywodraeth. Hoffwn i gael datganiad gan Lywodraeth Cymru yn amlinellu pa sylwadau sy'n cael eu cyflwyno i Lywodraeth y DU i ddadlau yn erbyn cymryd rhan mewn gwrthdaro. Yr hyn sydd ei angen ar hyn o bryd yw diplomyddiaeth dawel, bwyllog ac ystyrlon. Mae gan weithredoedd Trump, nad ydyn nhw'n ymddangos yn rhan o unrhyw gynllun, hefyd y potensial o ennyn rhyfel, a dylai hynny gael ei gondemnio. Felly, hoffwn i weld datganiad gan y Llywodraeth yn condemnio gweithredoedd byrbwyll a difeddwl Arlywydd yr Unol Daleithiau gan gyflwyno'r achos dros atebion heddychlon mor gryf ag y gallwch chi.
Yn ychwanegol at hynny, heddiw dedfrydwyd merch yn ei harddegau o Brydain a gafwyd yn euog o ddweud celwydd ynghylch cael ei threisio gan gang i bedwar mis yn y carchar, wedi'i ohirio am gyfnod o dair blynedd. Cafodd ddirwy hefyd o €140. Dywedodd ei bargyfreithiwr y bydd y teulu'n brwydro i wrthdroi'r gollfarn, a bydd yn mynd â'r achos i Lys Hawliau Dynol Ewrop. Cododd y sefyllfa hon oherwydd bod ei chŵyn i'r heddlu, ei bod wedi'i threisio gan gang, wedi cael ei thynnu'n ôl mewn datganiad a lofnodwyd ar ôl wyth awr o holi mewn gorsaf heddlu. Yn ystod yr wyth awr hynny, nid oedd ganddi gynrychiolaeth gyfreithiol ac ni chofnodwyd ei chyfweliadau. Mae amheuaeth gref fod rhywun wedi arddweud y datganiad iddi. Dywedwyd bod y cleisiau lluosog ar ei chorff yn gyson ag ymosodiad treisgar, yn ôl un arbenigwr. Credaf fod erchylltra wedi digwydd yn erbyn y ferch ifanc hon. Mae hyn o bosibl yn gamweinyddiad cyfiawnder. Nid yw'n unrhyw syndod ei bod wedi cael diagnosis o Anhwylder Straen Wedi Trawma a’i bod yn fregus yn feddyliol. Yn fyr, rwy'n ei chredu, ac rwyf wedi gwylltio ynghylch yr hyn sydd wedi digwydd. Mae cwmni teithiau'r DU a oedd wedi trefnu'r gwyliau gwaith ar gyfer y ferch hon bellach wedi rhoi'r gorau i bob trip i'r gyrchfan honno yn Cyprus. Mewn datganiad, fe ddywedon nhw:
Mae diogelwch ein cwsmeriaid yn bwysig iawn.
Felly, o ystyried y pryderon dilys ynglŷn â system gyfiawnder Cyprus a'r neges y mae'r digwyddiad hwn yn ei gyfleu i bobl a allai fod yn ymosodwyr, a yw Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi unrhyw gyngor i ddinasyddion Cymru a allai fod yn ystyried ymweld â'r ynys honno?