Part of the debate – Senedd Cymru am 3:20 pm ar 7 Ionawr 2020.
Rwy'n falch o gael y cyfle hwn i roi datganiad ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2020-1.
Ar 16 Rhagfyr, gosodais gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru gerbron y Senedd. Cafodd y penderfyniad i osod y gyllideb ddrafft yn ystod y toriad ei gymryd gyda chytundeb y Pwyllgor Busnes a'r Pwyllgor Cyllid, ac fe hoffwn i fynegi fy niolch ar gofnod am gydweithrediad y ddau bwyllgor wrth gytuno ar y trefniadau anarferol.
Mae methiant Llywodraeth y DU i gyflawni o ran ei hadolygiad cynhwysfawr o wariant aml-flwyddyn yn golygu nad oes cyllideb gennym y tu hwnt i 2020-1. Yn lle hynny, fe gyflwynwyd cylch gwariant 'llwybr carlam' inni ym mis Medi, gan roi cynlluniau ar gyfer 2020-1 yn unig. O ganlyniad, ni allaf ond gosod cynlluniau refeniw a chyfalaf am un flwyddyn.
Er yr honiadau bod cyni wedi dod i ben, fe fydd cyllideb Llywodraeth Cymru yn 2020-1 bron £300 miliwn yn is mewn termau gwirioneddol o'i gymharu â 2010-11. Yn dilyn misoedd o ansicrwydd a gohirio'r gyllideb, mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi ei chynlluniau heddiw ar gyfer cyllideb ar 11 Mawrth, wythnos ar ôl inni drafod ein cyllideb derfynol yn y Siambr hon—enghraifft arall o ddiffyg rhagweladwyedd Llywodraeth y DU pan ddaw'n fater rheoli arian y genedl. Ond, er gwaethaf yr anhrefn hwn, rwy'n bwriadu bwrw ymlaen â'n cynlluniau ni i gyhoeddi'r gyllideb derfynol ar 25 Chwefror er mwyn rhoi'r sicrwydd a'r sefydlogrwydd sydd eu hangen ar wasanaethau cyhoeddus, busnesau a chymunedau Cymru, ac fe fyddaf i'n ceisio adlewyrchu unrhyw newidiadau sylweddol i'n cynlluniau ni mewn cyllideb atodol gynnar.
Cyn y Nadolig, fe ysgrifennais i at y Canghellor yn galw ar Lywodraeth y DU i gyflawni'r cynnydd cyson sydd ei angen o ran cyllido ein gwasanaethau cyhoeddus ni. Mae'r gyllideb yn gyfle cynnar i Lywodraeth y DU wireddu ei haddewid i roi diwedd ar gyni.
Rwy'n troi nawr at gonglfeini'r gyllideb hon a'r penderfyniadau ariannol sy'n cael eu gwneud yng Nghymru erbyn hyn. O 2019-20, fe gaiff tua £5 biliwn o refeniw treth lleol a datganoledig ei godi yng Nghymru a bydd yn aros yng Nghymru. Mae hyn yn rhoi'r gallu inni ystyried sut y gall ein polisïau treth gyfrannu at ein huchelgeisiau ehangach ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Yn unol â'r ymrwymiad yn ein maniffesto ni, ni fyddwn yn codi cyfraddau treth incwm Cymru yn 2020. Nid wyf yn bwriadu gwneud unrhyw newidiadau i gyfraddau na bandiau'r dreth trafodiadau tir, ond fe fyddaf yn parhau i gadw golwg arnyn nhw. Bydd cyfraddau'r dreth gwarediadau tirlenwi yn cynyddu yn unol â chwyddiant.
Am y tro cyntaf, ac yn unol â'r trefniadau rhagweld i'r tymor hwy, mae'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol wedi cynhyrchu ei rhagolwg annibynnol o refeniw yn sgil trethiant datganoledig i gyllideb Llywodraeth Cymru. Rwy'n diolch iddyn nhw am eu gwaith, ac fe gaiff yr Aelodau gyfle i glywed gan y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn uniongyrchol ddydd Iau mewn sesiwn friffio.
Gan droi at gronfeydd wrth gefn, rwyf wedi ceisio manteisio i'r eithaf ar gronfa wrth gefn newydd Cymru. Rwy'n bwriadu mynd ar ôl uchafswm y refeniw blynyddol o gronfa wrth gefn Cymru, sef £125 miliwn yn 2020-1.
Rwy'n troi nawr at fenthyca ar gyfer gwariant cyfalaf. Yn y Siambr hon, rwyf i a gweinidogion cyllid blaenorol wedi sôn dro ar ôl tro am ein dull ni o fenthyca. Fe fyddwn bob amser yn ceisio defnyddio'r ffurfiau rhataf o gyfalaf cyn symud ymlaen i ffynonellau eraill. Wrth bennu cynlluniau cyfalaf pendant ar gyfer y flwyddyn nesaf, rydym yn cadw at gynlluniau a gyhoeddwyd eisoes i fenthyca £125 miliwn o gyfalaf.
Byddaf i'n nodi nawr sut y bydd ein hadnoddau refeniw a chyfalaf cyfun yn cael eu defnyddio ledled y Llywodraeth. Bydd y gyllideb ddrafft yn mynd â buddsoddiad y Llywodraeth hon yn y GIG yng Nghymru i £37 biliwn ers 2016, sy'n brawf o'r flaenoriaeth yr ydym ni'n ei rhoi o hyd i'r gwasanaeth cyhoeddus a drysorir fwyaf yng Nghymru. Mae hon yn gyllideb hefyd sy'n cyrraedd lefel newydd o uchelgais yn y frwydr i ddiogelu dyfodol ein planed ni, sy'n cynnwys cymorth ar gyfer tai a thrafnidiaeth carbon isel a datblygiad coedwig genedlaethol i Gymru.
Rwy'n falch bod y bumed gyllideb hon—a'r un derfynol—yn y tymor Cynulliad hwn yn cyflawni'r addewidion o ran y gwariant allweddol a wnaed gennym ni i bobl Cymru yn 2016 ar brentisiaethau i bobl o bob oedran, gwella ysgolion, gofal plant, cymorth i fusnesau bach, triniaethau newydd ar gael yn gyflym, tai fforddiadwy a llawer mwy. Bydd cyfanswm ein buddsoddiad ni mewn iechyd a gofal cymdeithasol yn fwy nag £8.7 biliwn yn 2020-1, gyda chynnydd uwch na chwyddiant o fwy na £400 miliwn.