– Senedd Cymru am 3:20 pm ar 7 Ionawr 2020.
Eitem 4 ar yr agenda yw'r ddadl ar ddatganiad am gyllideb ddrafft 2020 i 2021, ac rwy'n galw ar y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd, Rebecca Evans.
Rwy'n falch o gael y cyfle hwn i roi datganiad ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2020-1.
Ar 16 Rhagfyr, gosodais gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru gerbron y Senedd. Cafodd y penderfyniad i osod y gyllideb ddrafft yn ystod y toriad ei gymryd gyda chytundeb y Pwyllgor Busnes a'r Pwyllgor Cyllid, ac fe hoffwn i fynegi fy niolch ar gofnod am gydweithrediad y ddau bwyllgor wrth gytuno ar y trefniadau anarferol.
Mae methiant Llywodraeth y DU i gyflawni o ran ei hadolygiad cynhwysfawr o wariant aml-flwyddyn yn golygu nad oes cyllideb gennym y tu hwnt i 2020-1. Yn lle hynny, fe gyflwynwyd cylch gwariant 'llwybr carlam' inni ym mis Medi, gan roi cynlluniau ar gyfer 2020-1 yn unig. O ganlyniad, ni allaf ond gosod cynlluniau refeniw a chyfalaf am un flwyddyn.
Er yr honiadau bod cyni wedi dod i ben, fe fydd cyllideb Llywodraeth Cymru yn 2020-1 bron £300 miliwn yn is mewn termau gwirioneddol o'i gymharu â 2010-11. Yn dilyn misoedd o ansicrwydd a gohirio'r gyllideb, mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi ei chynlluniau heddiw ar gyfer cyllideb ar 11 Mawrth, wythnos ar ôl inni drafod ein cyllideb derfynol yn y Siambr hon—enghraifft arall o ddiffyg rhagweladwyedd Llywodraeth y DU pan ddaw'n fater rheoli arian y genedl. Ond, er gwaethaf yr anhrefn hwn, rwy'n bwriadu bwrw ymlaen â'n cynlluniau ni i gyhoeddi'r gyllideb derfynol ar 25 Chwefror er mwyn rhoi'r sicrwydd a'r sefydlogrwydd sydd eu hangen ar wasanaethau cyhoeddus, busnesau a chymunedau Cymru, ac fe fyddaf i'n ceisio adlewyrchu unrhyw newidiadau sylweddol i'n cynlluniau ni mewn cyllideb atodol gynnar.
Cyn y Nadolig, fe ysgrifennais i at y Canghellor yn galw ar Lywodraeth y DU i gyflawni'r cynnydd cyson sydd ei angen o ran cyllido ein gwasanaethau cyhoeddus ni. Mae'r gyllideb yn gyfle cynnar i Lywodraeth y DU wireddu ei haddewid i roi diwedd ar gyni.
Rwy'n troi nawr at gonglfeini'r gyllideb hon a'r penderfyniadau ariannol sy'n cael eu gwneud yng Nghymru erbyn hyn. O 2019-20, fe gaiff tua £5 biliwn o refeniw treth lleol a datganoledig ei godi yng Nghymru a bydd yn aros yng Nghymru. Mae hyn yn rhoi'r gallu inni ystyried sut y gall ein polisïau treth gyfrannu at ein huchelgeisiau ehangach ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Yn unol â'r ymrwymiad yn ein maniffesto ni, ni fyddwn yn codi cyfraddau treth incwm Cymru yn 2020. Nid wyf yn bwriadu gwneud unrhyw newidiadau i gyfraddau na bandiau'r dreth trafodiadau tir, ond fe fyddaf yn parhau i gadw golwg arnyn nhw. Bydd cyfraddau'r dreth gwarediadau tirlenwi yn cynyddu yn unol â chwyddiant.
Am y tro cyntaf, ac yn unol â'r trefniadau rhagweld i'r tymor hwy, mae'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol wedi cynhyrchu ei rhagolwg annibynnol o refeniw yn sgil trethiant datganoledig i gyllideb Llywodraeth Cymru. Rwy'n diolch iddyn nhw am eu gwaith, ac fe gaiff yr Aelodau gyfle i glywed gan y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn uniongyrchol ddydd Iau mewn sesiwn friffio.
Gan droi at gronfeydd wrth gefn, rwyf wedi ceisio manteisio i'r eithaf ar gronfa wrth gefn newydd Cymru. Rwy'n bwriadu mynd ar ôl uchafswm y refeniw blynyddol o gronfa wrth gefn Cymru, sef £125 miliwn yn 2020-1.
Rwy'n troi nawr at fenthyca ar gyfer gwariant cyfalaf. Yn y Siambr hon, rwyf i a gweinidogion cyllid blaenorol wedi sôn dro ar ôl tro am ein dull ni o fenthyca. Fe fyddwn bob amser yn ceisio defnyddio'r ffurfiau rhataf o gyfalaf cyn symud ymlaen i ffynonellau eraill. Wrth bennu cynlluniau cyfalaf pendant ar gyfer y flwyddyn nesaf, rydym yn cadw at gynlluniau a gyhoeddwyd eisoes i fenthyca £125 miliwn o gyfalaf.
Byddaf i'n nodi nawr sut y bydd ein hadnoddau refeniw a chyfalaf cyfun yn cael eu defnyddio ledled y Llywodraeth. Bydd y gyllideb ddrafft yn mynd â buddsoddiad y Llywodraeth hon yn y GIG yng Nghymru i £37 biliwn ers 2016, sy'n brawf o'r flaenoriaeth yr ydym ni'n ei rhoi o hyd i'r gwasanaeth cyhoeddus a drysorir fwyaf yng Nghymru. Mae hon yn gyllideb hefyd sy'n cyrraedd lefel newydd o uchelgais yn y frwydr i ddiogelu dyfodol ein planed ni, sy'n cynnwys cymorth ar gyfer tai a thrafnidiaeth carbon isel a datblygiad coedwig genedlaethol i Gymru.
Rwy'n falch bod y bumed gyllideb hon—a'r un derfynol—yn y tymor Cynulliad hwn yn cyflawni'r addewidion o ran y gwariant allweddol a wnaed gennym ni i bobl Cymru yn 2016 ar brentisiaethau i bobl o bob oedran, gwella ysgolion, gofal plant, cymorth i fusnesau bach, triniaethau newydd ar gael yn gyflym, tai fforddiadwy a llawer mwy. Bydd cyfanswm ein buddsoddiad ni mewn iechyd a gofal cymdeithasol yn fwy nag £8.7 biliwn yn 2020-1, gyda chynnydd uwch na chwyddiant o fwy na £400 miliwn.
Rydym wedi ceisio amddiffyn llywodraeth leol bob amser rhag effeithiau gwaethaf cyni. Gan gyflawni'r ymrwymiad i'r setliad gorau posibl, fe fydd awdurdodau lleol yn cael £200 miliwn yn ychwanegol drwy setliad refeniw a chyfalaf y flwyddyn nesaf. Bydd hyn yn dod â buddsoddiad gan Lywodraeth Cymru mewn cyllid refeniw craidd ac ardrethi annomestig, i'w gwario ar ddarparu gwasanaethau allweddol, gan gynnwys ysgolion a gwasanaethau cymdeithasol, i bron £4.5 biliwn. Mae hyn yn golygu cynnydd mewn termau gwirioneddol i bob awdurdod lleol, ac fe gaiff hyn ei gydnabod gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn setliad cyllid eithriadol o dda. Rwy'n ddiolchgar i Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru am eu hymgysylltiad cadarnhaol â Gweinidogion ac am y cydweithrediad a ddangoswyd wrth reoli amserlen heriol ar gyfer cyllideb y flwyddyn hon.
Drwy'r setliad llywodraeth leol a thrwy ein cyllideb addysg ni o £1.8 biliwn, mae'r gyllideb ddrafft yn cefnogi'r genhadaeth genedlaethol am system addysg o safon fyd-eang, sy'n cynnwys mwy na £200 miliwn i'n seilwaith addysgol ni. Llywydd, gyda'r arian newydd i lywodraeth leol a'r arian ychwanegol yr ydym yn ei roi i ysgolion a gofal cymdeithasol drwy ffrydiau ariannu eraill, rydym wedi llwyddo i gyfateb y cyllid ychwanegol a'r hyn a gawsom yn y cylch gwariant o ran ysgolion a gofal cymdeithasol yn Lloegr, ac rydym wedi mynd ymhellach na hynny.
Rydym wedi cyflawni hyn er gwaethaf y baich oherwydd prinder y cyllid a roddwyd gan Drysorlys y DU. Rwyf wedi diweddaru'r Aelodau cyn hyn ar y diffyg o £36 miliwn a gawsom ni'r flwyddyn hon oherwydd i Lywodraeth y DU fethu â thalu'r costau cynyddol yn llawn sy'n ein hwynebu ni o ran pensiynau yn y sector cyhoeddus. Bydd y diffyg hwnnw'n codi i tua £50 miliwn yn 2020-1. Mae hyn yn gwbl groes i egwyddorion Trysorlys y DU ei hunan fel y nodir yn ei 'Ddatganiad o bolisi cyllido', ac mae'n dileu £50 miliwn y gallwn i fod wedi ei ddyrannu fel arall i'n gwasanaethau cyhoeddus ni.
Rydym yn cydnabod swyddogaeth hanfodol yr awdurdodau lleol wrth ddarparu gwasanaethau ataliol. Mae atal wedi bod wrth wraidd y gwaith ar ein wyth blaenoriaeth drawsbynciol, sef y blynyddoedd cynnar, gofal cymdeithasol, tai, cyflogadwyedd a sgiliau, iechyd meddwl gwell, datgarboneiddio, tlodi a bioamrywiaeth. Dyma'r meysydd lle mae ymyrraeth gynnar o fantais fawr inni, ac yn hanfodol ar gyfer cyflawni canlyniadau hirdymor. Drwy'r dull gweithredu newydd, rydym wedi gweithio ledled y Llywodraeth, a'r tu allan i ffiniau gweinidogol traddodiadol, i fanteisio i'r eithaf ar ein cyfraniad cyfunol i'r meysydd blaenoriaeth hyn. O ganlyniad, rydym yn dyrannu cyllid newydd yn ogystal â'r mesurau presennol, i helpu i ddiogelu dyfodol ein planed ni a mynd i'r afael â thlodi.
Rydym yn gwybod nad oes her fwy yn wynebu'r Llywodraeth, cyrff cyhoeddus, busnesau a sefydliadau'r trydydd sector a chymunedau ledled Cymru na newid hinsawdd. Dyna pam, yn y gyllideb gyntaf ers ein datganiad ni am argyfwng hinsawdd, rydym yn dyrannu pecyn newydd o £140 miliwn o gyllid cyfalaf i gefnogi ein huchelgeisiau ni o ran datgarboneiddio ac amddiffyn ein hamgylchedd ardderchog.
Gan ddefnyddio cyngor Pwyllgor y DU ar Newid Hinsawdd, rydym ni'n buddsoddi yn y meysydd lle y gallwn gael yr effaith fwyaf posibl ar ein hamgylchedd ni. Mae hyn yn cynnwys buddsoddi mewn teithio llesol a fflyd o fysiau trydan, dulliau newydd o adeiladu cartrefi, gwella ein safleoedd pwysicaf yn ecolegol, a datblygu coedwig genedlaethol a fydd yn ymestyn o un pen y wlad i'r llall. Fel y gwnaeth WWF Cymru ei gydnabod, mae'r buddsoddiad ychwanegol hwn yn gam cadarnhaol ar ein taith ni tuag at Gymru sy'n wyrddach.
Llywydd, mae'r gyllideb ddrafft hon hefyd yn diogelu'r buddsoddiadau sylweddol parhaus yr ydym ni'n eu gwneud i gefnogi ein cynllun cyflawni carbon isel. Mae hyn yn cynnwys buddsoddiadau yn ein prif fuddsoddiad ni o £738 miliwn ym Metro De Cymru a'r £20 miliwn ychwanegol yr ydym ni'n ei fuddsoddi'r flwyddyn hon ym Metro Gogledd Cymru. Rydym hefyd yn gwneud gwelliannau o ran effeithlonrwydd ynni mewn 25,000 o gartrefi drwy gynlluniau Nyth ac Arbed. Drwy fuddsoddi £240 miliwn yn y rhaglen hon ers 2010, rydym wedi gallu tynnu miloedd o aelwydydd ar incwm isel allan o dlodi tanwydd.
Y peryglon ffisegol mwyaf a ddaw yn sgil newid hinsawdd yw stormydd cynyddol enbyd, llifogydd ac erydu arfordirol. Yn y gyllideb hon rydym yn ymrwymo £64 miliwn i ddiogelu cymunedau rhag effeithiau mwyaf difrifol newid hinsawdd.
O ran mesurau ehangach, rydym yn ystyried ymgyrch gyfathrebu gyhoeddus hefyd ynglŷn â'r hinsawdd a'r argyfwng ecolegol, a chynulliad o ddinasyddion, ac fe fyddwn ni'n dweud rhagor am hyn wrth i'n cynlluniau ni gael eu datblygu yn ystod y flwyddyn.
Gan adeiladu ar y camau traws-lywodraethol presennol, sef cyfanswm o fwy nag £1 biliwn, rydym yn dyrannu £19 miliwn yn ychwanegol mewn pecyn o fesurau sy'n cael eu hanelu yn benodol i helpu rhai o'r bobl sy'n fwyaf agored i niwed sy'n byw mewn tlodi yn ein cymunedau ni. Mae hyn yn cynnwys arian newydd i ymestyn argaeledd y grant amddifadedd disgyblion ar gyfer gwisg ysgol a hanfodion eraill mewn ysgolion, cyllid parhaus i fynd i'r afael â thlodi am gyfnod, yn ogystal ag ymestyn cyllid i'r rhaglen i gyfoethogi gwyliau'r ysgol.
Mae ein gwaith blaenoriaeth ym meysydd iechyd meddwl a'r blynyddoedd cynnar wedi darparu cyllid ychwanegol hefyd ar gyfer y dull ysgol gyfan, i ddarparu cwnsela a chymorth emosiynol yn yr ysgol, yn ogystal ag arian ychwanegol ar gyfer Dechrau'n Deg, gan ganiatáu i'r rhaglen gael ei hymestyn i 3,500 yn ychwanegol o blant.
Mae tai o ansawdd da yn ganolog i gefnogi pobl mewn tlodi. Ynghyd â chyfalaf ychwanegol o £175 miliwn y flwyddyn hon, fe fyddwn ni wedi buddsoddi mwy na £2 biliwn mewn tai fforddiadwy yn ystod y tymor Cynulliad hwn. Ac mae hwnnw'n fuddsoddiad sylweddol sy'n cael ei groesawu gan Gartrefi Cymunedol Cymru.
Gan adeiladu ar y camau a gymerwyd gennym yn ystod y blynyddoedd diwethaf a'r 'gwiriwr siwrnai' a ddatblygwyd gan gomisiynydd cenedlaethau'r dyfodol, rydym wedi cyhoeddi, am y tro cyntaf, gynllun i wella'r gyllideb, sy'n nodi sut yr ydym ni'n bwriadu cymryd camau parhaus i ymgorffori gofynion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 ym mhroses y gyllideb. Rwy'n croesawu datganiad y comisiynydd y dylid canmol Cymru am fod ar flaen y gad o ran symud tuag at gyllidebu ar gyfer llesiant.
Er bod cyni parhaus a orfodir ar lefel y DU yn tanseilio ein gallu ni i roi'r buddsoddiad y mae ein gwlad ni'n ei haeddu, rwy'n falch o gyflwyno cyllideb sy'n parhau i fuddsoddi yn ein gwasanaethau cyhoeddus hanfodol gan gefnogi ein dyheadau ni ar gyfer Cymru sy'n fwy cyfartal, yn fwy llewyrchus ac yn fwy gwyrdd. Diolch ichi.
Wel, mae'n rhaid imi ddweud, roedd gennym ni obeithion mawr am y gyllideb hon, oherwydd, wrth gwrs, gwyddom fod Boris Johnson eisoes wedi dechrau cyflawni yn ôl ei addewid i ddod â chyni i ben a gwneud buddsoddiad ychwanegol sylweddol yn bosibl i'r economi a'r gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. [Torri ar draws.] Ac rwy'n clywed y cleber, ond o ganlyniad mae Llywodraeth Cymru wedi cael £600 miliwn ychwanegol, sy'n golygu bod y grant bloc i Gymru ar gyfradd uwch nag erioed.
Ac, wrth gwrs, yn ogystal â hynny, mae gan Lywodraeth Cymru y pŵer i amrywio lefelau treth incwm hefyd, a allai, wrth gwrs, fod yn offeryn grymus, yn ein barn ni, i greu economi o drethiant isel, i annog busnesau i ymsefydlu yma, a chreu'r swyddi crefftus sydd eu hangen ar bobl. Felly, yng ngeiriau un cyn-Brif Weinidog, 'You've never had it so good'. Ni fu pethau erioed yn well arnoch chi. Mae cyfle euraidd yn y gyllideb hon, cyfle euraidd i fuddsoddi ym mlaenoriaethau pobl, i ysgogi economi sy'n fwy deinamig, i ddarparu ar gyfer pobl sy'n gweithio, ac adeiladu ar gyfleoedd i Gymru fel y'u cyflwynir wrth inni adael yr Undeb Ewropeaidd.
Ond, rwy'n ofni mai cyfle yw hwn y mae'r Gweinidog Cyllid wedi ei golli. Roedd yna gyfle i fod yn llawn dychymyg, ond rydych chi wedi dewis y dinod. Roedd yna gyfle i ymateb i'r her a bod yn uchelgeisiol dros ein gwlad, y cyfan yr ydym ni wedi ei weld yw eich bod chi'n eistedd yn ôl. Roedd yna gyfle i fod yn radical, rydych chi wedi glynu at yr hen ddull aflwyddiannus a fu gan Lywodraethau Cymru yn y gorffennol.
Nawr, o ran yr economi, un o'r rhwystrau mwyaf i dwf a buddsoddiad, yn enwedig yn y De, yw'r diffyg capasiti ar rwydwaith ein ffyrdd ni. Y llynedd, fe gafodd ffordd liniaru'r M4 ei diddymu gan y Prif Weinidog, yn groes i gyngor annibynnol, ar ôl gwario £144 miliwn o arian y trethdalwyr yn barod, ac fe wnaeth hynny heb unrhyw ddewis amgen i'r tagfeydd cronig a'r llygredd aer a welwn ni yn y De. Ac fel y dywedodd Prif Weinidog arall yn ddiweddar, mae Twneli Brynglas fel 'ffroenau'r Ddraig Gymreig' wedi cael eu blocio. Maen nhw'n rhwystro buddsoddiad i'r gorllewin o Gasnewydd, gan lusgo economi'r De i lawr yn gyfan. Mae Prif Weinidog Cymru hyd yn oed wedi dweud, pe bai Llywodraeth y DU yn darparu'r cyllid i ariannu'r prosiect hwn yn llawn, ar gost o dros £1 biliwn, y byddai'n gwrthod derbyn yr arian hwnnw. Wel, mae hynny'n ofnadwy.
Ac, wrth gwrs, nid yn y De y mae'r problemau. Maen nhw yn y Gogledd hefyd, ac yn wir yn y Gorllewin. Collwyd y cyfle i uwchraddio'r A55, a buddsoddi yn y gwaith o ddeuoli'r A40. Nawr, fe ddywedir wrthym mai un o'r rhesymau dros beidio â bwrw ymlaen â'r buddsoddiad mawr yng nghapasiti'r ffyrdd yw oherwydd yr argyfwng newid hinsawdd. Ac eto, rydym ni ar drothwy, Prif Weinidog—rwy'n gweld eich bod chi'n gwrando—rydym ni ar drothwy chwyldro o ran ceir trydan, a anwybyddwyd gan eich penderfyniad chi pan wnaethoch y penderfyniad i ddiddymu'r M4. Ac wrth gwrs, fe wyddom ni i gyd fod y dystiolaeth yn awgrymu, pe byddech yn lleihau'r tagfeydd, y byddech chi'n lleihau'r llygredd aer hefyd. Ac yn eironig—. Ydw, rwy'n fodlon derbyn ymyriad.
Tybed a allai egluro rhywbeth ym maniffesto ei blaid ei hun, lle'r oedd yn dweud pe byddai yna Lywodraeth Geidwadol i Gymru, fe fyddai'n cyflawni ffordd liniaru'r M4. Ond, o ran yr A55, roedd y maniffesto'n dweud, heb unrhyw eglurhad, 'Fe fyddwn ni'n uwchraddio'r A55' yn y Gogledd.
Roeddem ni'n glir iawn ein bod ni'n awyddus i weithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau gwelliannau mewn gwahanol rannau o rwydwaith ein ffyrdd, gan gynnwys ar yr A55 a'r M4.
Ond, er gwaethaf y rhethreg a glywn ni gan Lywodraeth Cymru ynglŷn â newid hinsawdd, pan fyddwch chi'n edrych ar y mathau o drafnidiaeth a fuddsoddir ynddyn nhw, mewn gwirionedd y math sy'n llygru fwyaf—sef awyrennau. Yn eironig, fe welwn ni, eleni, fod £4.8 miliwn eto wedi cael ei roi i faes awyr Caerdydd sy'n eiddo i'r wladwriaeth, yn ychwanegol i fenthyciad o fwy na £21 miliwn, ac mae hynny ar ben y benthyciad o £36 miliwn a roddwyd eisoes. Wrth gwrs, y llynedd, fe welsom ni'r colledion mwyaf a wnaeth y maes awyr hwn erioed—dros £18.5 miliwn, o'i gymharu â llai na £1 miliwn yn ystod blwyddyn lawn olaf perchenogaeth breifat y maes awyr yn ôl yn 2012. Ac wrth gwrs, fe glywsom ni eisoes yn ystod y cwestiynau i'r Prif Weinidog fod gwerth llyfr net y maes awyr wedi gostwng i lawer yn is nag oddeutu'r £50 miliwn a dalwyd gan Lywodraeth Cymru am y maes awyr.
A gymerwch chi ymyriad?
Wrth gwrs y cymeraf i ymyriad.
Fe wrandewais i ar yr hyn a ddywedwyd gennych—rwy'n gwrando bob amser ar eich cyfraniadau chi â diddordeb mawr, fel y gwyddoch. Beth yw eich dewis amgen chi o ran y maes awyr?
Fe wnaethom ni gynhyrchu glasbrint manwl iawn ynglŷn ag awyrennau yn ôl yn 2013, a oedd yn mynegi ein safbwynt ni ar yr hyn sydd angen ei wneud o ran y diwydiant awyrennau. Fe anfonaf i gopi ohono atoch.
Y gwir amdani yw hyn: fe ddylai'r Gweinidogion yma yn y Siambr hon wynebu ffeithiau—nid oes gennych chi'r arbenigedd angenrheidiol i wneud llwyddiant o'r fenter hon a dylid ei dychwelyd i'r sector preifat cyn gynted ag y bo modd. Dyma ragor o dystiolaeth i ategu'r honiad a wnaeth eich Dirprwy Weinidog chi dros yr Economi a Thrafnidiaeth nad yw Llywodraeth Cymru yn gwybod beth mae'n ei wneud ynglŷn â'r economi. [Torri ar draws.] Rwy'n hapus i ildio i'r cyn Brif Weinidog.
Rwy'n ddiolchgar i'r Aelod gyferbyn. Dau beth yn unig. Yn gyntaf, ei atgoffa bod y maes awyr, pan oedd dan berchnogaeth breifat, ar fin cau, ac fe ddywedwyd hynny wrthyf i gan y perchenogion ar y pryd. Yr unig ffordd o ymdrin â hynny oedd ei brynu—ei gymryd i berchnogaeth gyhoeddus. Yn ail, os yw'n dweud na ddylai'r Llywodraeth fuddsoddi mewn hedfan, a yw hynny'n golygu ei fod ef o'r farn y dylai'r maes awyr—ac wrth gwrs maes awyr Ynys Môn, sydd bellach yn rhan o'r un grŵp—gau?
Rwy'n credu eich bod wedi talu mwy nag y dylech chi am faes awyr os oeddech yn credu ei fod ar fin cau, gan wastraffu degau o filiynau o bunnoedd o arian trethdalwyr.
Nawr, os caf i droi—oherwydd mae'n rhaid imi fwrw ymlaen—at ardrethi busnes. Wrth gwrs, rydym wedi colli'r cyfle i fynd i'r afael â'r ffaith mai gan Gymru y mae'r amgylchedd ardrethi busnes lleiaf cystadleuol yn y DU gyfan, gan drethu busnesau cymaint fel eu bod yn gorfod gadael y stryd fawr. Does dim rhyfedd mai gennym ni y mae'r gyfradd uchaf o siopau gwag ar y stryd fawr yn y Deyrnas Unedig. Ac wrth gwrs, yn lle gwneud hynny, ein barn ni yw y dylech chi fod yn manteisio ar y cyfle i leihau trethi ar fusnesau, i'w denu nhw'n ôl i'r stryd fawr, inni allu gwella cyfleoedd yng nghanol ein trefi.
O ran y GIG, fe'i disgrifiwyd gan y Gweinidog cyllid fel y gwasanaeth cyhoeddus a drysorir fwyaf gennym. Rydym ninnau'n cytuno'n llwyr, a dyna pam ein bod ni'n falch iawn o weld rhywfaint o fuddsoddiad ychwanegol yn cyrraedd ein GIG o'r diwedd. Ond, ni ddylem byth adael i'r cyhoedd anghofio mai Prif Weinidog Cymru oedd wrth y llyw pan gafwyd yr unig doriadau a welwyd erioed mewn cyllideb i'r GIG yn holl hanes y Deyrnas Unedig. Mae'n gywilyddus mai Llywodraeth Lafur, Llywodraeth Lafur—nid oes unrhyw Brif Weinidog Ceidwadol wedi torri cyllideb y GIG erioed—Llywodraeth Lafur yn y fan hon a wnaeth y penderfyniad i wneud hynny. Ac wrth gwrs, y Gweinidog Iechyd bryd hynny yw'r Prif Weinidog nawr sy'n eistedd o'n blaenau ni yn y Siambr hon heddiw. Does dim rhyfedd bod perfformiad y GIG yng Nghymru y tu ôl i berfformiad Lloegr mewn llawer o fesurau amrywiol. Ac a yw hi'n unrhyw syndod fod gennym gynifer o ymyriadau wedi'u targedu yn achos llawer o fyrddau iechyd yng Nghymru? Ac wrth gwrs, mae gennym ni'r enghraifft glasurol yn fy ardal i o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, sydd wedi bod yn rhan o fesurau arbennig ers bron pum mlynedd bellach ac sy'n dangos dim ond y mymryn lleiaf o welliant. Mewn gwirionedd, mewn rhai ardaloedd, mae'n dangos arwyddion o waethygu.
Nawr, os caf i droi at addysg, dim ond am ychydig eiliadau. Yn ôl yr NASUWT—nid swyddfa friffio'r Ceidwadwyr Cymreig, yr NASUWT, undeb athrawon uchel ei pharch yma yng Nghymru—mae ysgolion yng Nghymru'n parhau i gael eu tanariannu ar gyfradd o tua £645 y disgybl y flwyddyn o'u cymharu ag ysgolion yn Lloegr. [Torri ar draws.] Rwy'n gwybod eich bod chi'n herio hynny, ond nid ydych chi erioed wedi anfon—. Rwy'n fodlon derbyn ymyriad, ydw.
[Anhyglyw.]—y £300 miliwn hwn y flwyddyn y cawsom ni ein hamddifadu ohono gan y Llywodraeth Dorïaidd, sy'n dod i gyfanswm o £4 biliwn, pe byddem ni wedi cael hwnnw, a ydych chi'n credu y byddai'r arian hwnnw wedi unioni rhai o'r diffygion a nodwyd gennych?
Rwy'n credu mai'r hyn sy'n rhyfeddod i mi yw bod Cymru yn derbyn £1.20 am bob £1, ac eto i gyd mae'n gwario £645 yn llai ar bob disgybl yn flynyddol. Ni ellir esgusodi'r tanariannu hwn o gwbl. Efallai y byddech chi'n dymuno ei amddiffyn, Mick, ond nid wyf i'n mynd i'w amddiffyn, ac fe fyddaf i'n herio eich Llywodraeth chi i'r eithaf er mwyn i ni weld chwarae teg rhwng Cymru a Lloegr fel y gall ein plant ni gael yr un cyfleoedd ag a gaiff y plant dros y ffin yn Lloegr.
Llywodraeth leol—fe wyddom ni fod yna elfennau cryf o ffrindgarwch wedi bod ar rai setliadau llywodraeth leol. Rydym wedi gweld awdurdodau lleol yn y Gogledd yn cael setliadau sy'n is nag awdurdodau lleol yn y De, ac mae hi'n ymddangos mai lliw gwleidyddol eich awdurdod lleol chi sy'n effeithio ar gyfran yr arian ychwanegol y gallech chi ei gael. [Torri ar draws.] Unwaith eto, rwy'n gallu clywed y cwyno ac rwy'n hapus iawn i roi rhywfaint o wybodaeth i'r Siambr am hyn.
Beth am gymharu setliad y flwyddyn hon. Beth am gymharu setliad y flwyddyn hon. Rwyf wedi cymryd llawer o—. Nid oes gennyf i lawer o amser ar ôl—[Torri ar draws.] Os caf i gyfeirio at setliad y flwyddyn hon, y setliad drafft arfaethedig. Mae'r cynnydd mewn cyllid yn amrywio o 3 y cant yn Sir Fynwy sy'n cael ei rhedeg gan y Ceidwadwyr i 5.4 y cant y drws nesaf yng Nghasnewydd Lafur—dau awdurdod lleol sydd y drws nesaf i'w gilydd. Ac rydym ni'n gwybod bod y codiadau cyfartalog ar gyfer y Gogledd yn llawer gwaeth nag y maen nhw yn y De.
Felly, a gaf i annog y Llywodraeth i ystyried cyflwyno cyllid gwaelodol fel y gallwn unioni rhai o'r gwahaniaethau hyn? Oherwydd, a bod yn onest, mae'n annerbyniol bod rhai rhannau—[Torri ar draws.] Nid oes yna gyllid gwaelodol yn ei le ar gyfer y flwyddyn hon. Os caf i gywiro eich cyd-Aelodau yn y Cabinet, nid ydych chi wedi cyhoeddi cyllid gwaelodol ar gyfer y flwyddyn hon, fel y gwyddoch chi'n dda, Gweinidog cyllid. Ond, fe fydd yn ddiddorol gweld beth fyddai'r cyllid gwaelodol hwnnw ac efallai y gwnewch chi roi mwy o gig ar yr esgyrn a dweud ychydig wrthym ni am hyn.
Roeddech chi'n sôn am rywfaint o'r pwysau sydd ar faterion gofal cymdeithasol. Rydych chi wedi sôn am y gronfa gofal integredig, er enghraifft, yn eich datganiad chi. Yr hyn na wnaethoch chi yw diystyru treth gofal cymdeithasol o unrhyw fath, y gwyddom fod eich plaid chi wedi ei hystyried o'r blaen i ryw raddau. Efallai y gwnewch chi roi ychydig mwy o wybodaeth inni ynghylch a ydych chi'n dymuno trethu pobl o ran gofal cymdeithasol, oherwydd fe hoffem gael rhywfaint o sicrwydd nad ydych chi am gynyddu baich trethiant ar bobl Cymru i dalu am hwnnw.
O ran yr amgylchedd, rydym wedi clywed bod hyn yn un o'ch blaenoriaethau chi ac eto i gyd nid ydych hyd yn oed yn gallu sefydlu rhwydwaith addas o bwyntiau i wefru cerbydau trydan yma yng Nghymru. Ni sydd â'r enw gwaethaf yn y Deyrnas Unedig gyfan. Beth ar y ddaear ydych chi'n ei wneud? Rydych chi wedi cael rhywfaint o arian yn swm canlyniadol i fformwla Barnett ar gyfer gwella'r rhwydwaith ac eto i gyd ni allwch gynnig digon o wefru ar y daith rhwng y Gogledd a'r De i yrru car trydan i fyny ac i lawr ein ffyrdd ni. Nid yw hyn yn dderbyniol ac mae angen gwella pethau.
Felly, i gloi, Llywydd, os caf i, rwy'n gresynu, er gwaethaf y cyfleoedd mawr a ddaw yn sgil y gyllideb newydd hon sydd ar gael ichi, eich bod chi'n parhau i fethu â rhoi sylw i flaenoriaethau'r bobl yma yng Nghymru. Nid ydym yn gweld y gwelliannau ym mherfformiad y GIG sy'n angenrheidiol i bobl a chleifion eu gweld nhw. Nid ydym yn eich gweld chi'n mynd i'r afael â'r tanariannu yn ein hysgolion yng Nghymru ac nid ydym yn eich gweld chi'n cau'r bwlch hwn rhwng Cymru a Lloegr o ran y gwariant sydd ar bob disgybl. Nid ydym yn gweld yr uchelgais sydd ei angen arnom i gefnogi busnesau i wella twf a chyfoeth ein cenedl. Ac rydym yn gweld syrthni llwyr, a dweud y gwir, o ran yr agenda newid hinsawdd. Rwy'n mawr hyderu y byddwch chi'n ystyried y pethau hyn ac yn newid y gyllideb hon cyn y daw hi yn ei hôl i'r Siambr fel y gallwn ni ymdrin â blaenoriaethau pobl wrth inni gyflawni Brexit fel cenedl.
Beth sydd gennym ni yn y gyllideb yma yn syml iawn, dwi'n ofni, ydy cyfle wedi cael ei golli. Oes, mae yna ragor o arian ar gael i wario ar wasanaethau cyhoeddus. Ydyn, mi rydyn ni mewn sefyllfa lle mae pob pennawd, dwi'n credu, o wariant y Llywodraeth yn gweld cynnydd. Ac ar ôl degawd o dorri parhaus yn y mwyafrif llethol o feysydd, ydy, mae hynny yn rhyddhad. Ond, beth sydd yn fy siomi i a ni ar y meinciau yma fwy na dim ydy diffyg arwydd bod y Llywodraeth Lafur yma yn barod i ddefnyddio'r cyfle yma i newid cyfeiriad gwirioneddol, i newid diwylliant mewn unrhyw ffordd sylweddol neu i feddwl yn wirioneddol yn yr hir dymor. Beth sydd gennym ni yma ydy cyllideb arall sy'n rheoli ond yn dangos, mewn gwirionedd, dim dychymyg nac arloesedd.
Mae'r gyllideb hon yn gweld y pwrs yn dechrau agor, ond nid yw'r Llywodraeth Lafur hon yn agored i feddwl yn wahanol, i bob golwg, i roi ystyriaeth arloesol o ran sut y mae penderfyniadau'r gyllideb heddiw yn effeithio ar y dyfodol, ac yn hynny o beth rwy'n golygu'r tymor canolig i'r hirdymor.
Nawr, mae cyhoeddiadau diweddar gan Lywodraeth y DU wedi cael eu clodfori gan rai fel rhai sy'n nodi diwedd ar gyni. Rydym wedi clywed yr honiad hwnnw eto heddiw, er, yn anffodus, bod y rhan fwyaf o'r asesiadau yr wyf i wedi eu darllen yn awgrymu bod hwn yn fwy tebygol o fod yn rhyddhad dros dro. Ond pe byddai'n ddim ond cam dros dro hyd yn oed oddi wrth y math o gyni a ysgogir gan ideoleg, y toriadau dwfn—gadewch inni roi ei enw iawn iddo—dros y degawd diwethaf, yna'r hyn y dylem fod yn ei weld yn y gyllideb hon yw cyfle i fuddsoddi nawr i gael gwasanaethau a fydd yn fwy cynaliadwy yn y dyfodol. Fe fyddaf i'n edrych ar dri maes yn bennaf: iechyd, cyllid llywodraeth leol, ac, mewn gwirionedd, y ffordd y dylai cyllid iechyd a llywodraeth leol fod yn rhyngweithio gyda'i gilydd yn well, a'r newid yn yr hinsawdd.
Ni allaf i yn fy myw weld arwydd yn y gyllideb hon o Lywodraeth sy'n mynd i'r afael o ddifrif â'r argyfwng hinsawdd a ddatganwyd ganddi, ac a ddatganodd y Cynulliad hwn—y Senedd gyntaf yn unrhyw fan yn y byd i wneud hynny—gyda'r brys gwirioneddol y mae'n ei haeddu. Yn wir, roedd yr argoelion yn peri rhywfaint o ofid yn syth ar ôl y datganiad hwnnw gan y Llywodraeth pan ddywedodd y Prif Weinidog nad oedd ef yn credu bod datgan argyfwng yn yr hinsawdd yn bolisi newydd i'r Llywodraeth hon nac, yn wir, i'r Cynulliad Cenedlaethol hwn, oherwydd mae'r egwyddorion amgylcheddol sydd wedi bod yn bwysig ar draws y Siambr hon ac ar hyd cyfnod datganoli yn cael eu crynhoi yn y penderfyniad hwnnw. Ond siawns nad oes raid i ddatganiad mor gofiadwy, os yw'n golygu unrhyw beth, gael ei weld yn drobwynt arwyddocaol. Ac er bod y Prif Weinidog, rwy'n credu, yn ddiweddarach yn yr un sesiwn, wedi dweud y byddai ef yn cefnogi rhai ymatebion arloesol i newid hinsawdd—ansawdd a rheoli dŵr, diogelu bioamrywiaeth a chynefinoedd lleol unigryw ac yn y blaen—y gwir amdani yw, os ydym ni'n dymuno camu ymlaen o ddifrif yn ein penderfyniad ni i fynd i'r afael â'n cyfrifoldebau amgylcheddol, fe ddylid gweld yr edefyn hwnnw'n rhedeg yn amlwg drwy'r gyllideb hon i gyd, ond nid yw hynny i'w weld.
Rwyf eisoes wedi crybwyll fod yna gynnydd mewn cyllidebau adrannol yn gyffredinol. Ond o edrych ar gyllideb yr amgylchedd, ynni a materion gwledig, y cynnydd mewn termau gwirioneddol yw 0.7 y cant yn unig—rwy'n credu bod Mike Hedges o'r meinciau Llafur wedi mynd ar ôl y Gweinidog mewn cyfarfod arbennig o'r Pwyllgor Cyllid cyn y Nadolig ynglŷn â'r mater hwn. A chan edrych ar wariant cyfalaf, gan ymrwymo £140 miliwn yn unig i brosiectau amgylcheddol fel y £29 miliwn a glustnodwyd ar gyfer bysiau trydan, er enghraifft, er bod hynny i'w groesawu ynddo'i hun, mae'n amlwg nad yw'n mynd i hybu'r math o newid cyfeiriad y mae cynifer yn edrych tuag at y Llywodraeth am yr arweiniad arno y dyddiau hyn.
Rwy'n gofyn i'r Gweinidog: ble mae'r dystiolaeth o newid dull gwirioneddol? A oes gennych fformwla, hyd yn oed, efallai y gwnewch chi ateb hynny, i ganfod beth yw effaith penderfyniadau gwariant ym maes newid hinsawdd? A ydych chi'n gwybod hyd yn oed pa effaith y byddwch chi'n ei chael yn sgil yr elfennau o wariant ar atal newid hinsawdd sydd gennych chi yno? Ymhle mae'r dystiolaeth o newid yn niwylliant y Llywodraeth sy'n rhedeg drwy fesurau i atal newid hinsawdd, ar draws yr adrannau? Ac er bod y Llywodraeth yn dweud bod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol yn cael ei defnyddio fel canllaw yn ei phroses gyllidebu, ers pryd y mae deddfwriaeth wedi bod yn ddim ond canllaw? Mae atal newid trychinebus yn yr hinsawdd gymaint â phosibl, gan gynnal rhan Cymru yn y gwaith hwnnw i'r eithaf, mor ddifrifol ag y gallai fod o ran yr angen i ganolbwyntio ar fesurau ataliol yn hytrach na dim ond ar reoli gwariant tymor byr. Ac yn union fel y mae'r gyllideb hon yn ddiffygiol o ran ei phwyslais ar yr ataliol o ran yr amgylchedd, rwy'n credu ei bod hi'n parhau yn druenus o ddiffygiol o ran gwariant ataliol mewn meysydd eraill hefyd. Fe wnes i gyfarfod ag aelodau o Gymdeithas Genedlaethol y Prifathrawon, amser cinio heddiw, fel y gwnaeth Aelodau eraill hefyd, fe wn. Roedden nhw'n tynnu sylw at gynnydd annigonol, yn eu barn nhw, o ran addysg, ac yn enwedig o ran anghenion dysgu ychwanegol. Rwyf i'n cytuno: mae gan ariannu ysgolion arbennig yn ddigonol, er enghraifft, botensial ataliol enfawr o ran cyllidebau addysg ehangach, o ran gofal cymdeithasol, a hyd yn oed o ran y gyllideb iechyd. Rwy'n gofyn, os caf i, ar hyn o bryd, pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud o'r symiau canlyniadol a allai ddod i Gymru yn sgil y cyhoeddiadau diweddar ar wariant ar gyfer addysg gynradd yn Lloegr yn benodol? Dyna gwestiwn sy'n dod yn uniongyrchol oddi wrth gynrychiolwyr yr NAHT wrth iddyn nhw wneud cais am gyllid newydd ar gyfer y sector hwn.
Ond fe drof i at iechyd nawr, os caf i.
Mae'n gonsyrn difrifol i fi bod agwedd y Llywodraeth yma at gyllido iechyd yn canolbwyntio gormod ar y swm o arian sydd yn mynd i'r NHS heddiw, er mor bwysig ydy hynny, wrth gwrs, a dim digon ar sut i wneud gwasanaethau iechyd a gofal yn fwy cynaliadwy yn yr hirdymor. Mae yna fwriad i gynyddu'n sylweddol yr arian refeniw sy'n mynd i iechyd, ac ar yr arwyneb, pwy fyddai'n anghytuno efo hynny?
Y broblem, wrth gwrs, ydy bod y rhan fwyaf o'r holl arian ychwanegol sydd ar gael ar gyfer 2020-21 yn mynd i'r NHS—cynnydd o £341 miliwn, 2.6 y cant mewn termau real. Gallwn ni ddim anwybyddu'r ffaith bod cynyddu'r gyllideb iechyd o hyd ar draul meysydd eraill yn gwanhau'r meysydd hynny, ac mae hynny, yn ei dro, yn gallu ychwanegu at gostau'r NHS yn y pen draw—mae o'n gylch dieflig. Yn wir, mae gwariant iechyd wedi cynyddu drwy'r blynyddoedd o lymder o ryw 16 y cant mewn termau real, tra bod cyllidebau eraill wedi gostwng tua'r un faint. Os cariwn ni ymlaen heb wneud y buddsoddi, a heb wneud penderfyniadau polisi arloesol, ataliol fel y dylem ni rŵan, parhau i gynyddu gwnaiff y darn o gacen gyllidol sydd angen ei roi i iechyd, a rŵan, siawns, wrth i'r cyfyngiadau ariannol lacio rhywfaint, ydy'r amser i wneud y math yna o newid arloesol.
Felly, pan dwi'n gweld symiau pitw yn cael eu clodfori yn y gyllideb, yn y datganiad ar 16 Rhagfyr—£2.7 miliwn i helpu plant cynradd i fod yn heini ac iach; £5.5 miliwn i raglen Pwysau Iach, Cymru Iach; pan mae diabetes, a llawer ohono fo yn gysylltiedig â gordewdra, yn costio rhyw 10 y cant o holl gyllideb yr NHS—gallaf i ddim peidio â meddwl, er enghraifft, ein bod ni'n colli tric enfawr mewn methu buddsoddi arian iechyd a lles mewn isadeiledd gweithgarwch corfforol a chwaraeon er mwyn ein gwneud ni'n genedl iachach yn yr hirdymor.
Dwi'n gweld cyfeiriadau at ryw £190 miliwn ar fesurau iechyd ataliol yn y gyllideb yma. Mae hynny ond ychydig dros 2 y cant o gyfanswm y gwariant ar iechyd. Mae'n rhaid i'r geiriau cynhesach sydd y dyddiau yma ar yr agenda ataliol gael eu match-io efo arian hefyd. Mae'r un peth yn wir am iechyd meddwl, lle mae yna dal diffyg gwariant ataliol yn y gyllideb yma, dwi'n meddwl, yn enwedig ar bobl ifanc. Hefyd, wrth gwrs, dŷn ni'n methu meddwl yn yr hirdymor drwy barhau i beidio â chefnogi'n ddigonol y ddarpariaeth gofal cymdeithasol a gofal sy'n cael ei ddarparu gan ein hawdurdodau lleol ni. Oes, mae yna gynnig i gynyddu cyllidebau llywodraeth leol i ryw £184 miliwn, ond mi oedd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ei hunain yn dweud y byddai angen £254 miliwn, a hwnnw i sefyll yn llonydd. Mae'r costau yn gysylltiedig â chyflogau'n pwyso yn drwm, mae'r pwysau'n dod o wasanaethau cymdeithasol a gwasanaethau plant hefyd wedi cynyddu yn arw, a dŷn ni'n gwybod os ydy llywodraeth leol ddim yn cael y gefnogaeth angenrheidiol ar gyfer darparu gofal cymdeithasol, yr NHS sydd yn talu yn y pen draw—cylch dieflig unwaith eto.
Mi allwn i fynd ymlaen i sôn am gymaint o feysydd lle mae rheolaeth fyrdymor yw'r thema yma yn hytrach nag arloesedd hirdymor. Felly, yr iaith Gymraeg, fel enghraifft arall. Dŷn ni i gyd yn gallu cytuno ynglŷn â'r nod o filiwn o siaradwyr Cymraeg. Pam felly gostwng y gyllideb i'r iaith Gymraeg yn benodol?
Llywydd, er ein bod ni wedi clywed heddiw bod disgwyl cyllideb gyntaf y Llywodraeth Geidwadol newydd ar 11 Mawrth, gwnaf sylw am hynny yn sydyn—enghraifft arall ydy ohonom ni'n gorfod newid ein trefniadau ni oherwydd mympwyon Llywodraeth San Steffan. Cyllideb yn y fan honno'n penderfynu ar wariant yn fan hyn ar ôl i ni gwblhau'r broses gyllidol yn fan hyn. Mae yna ffordd amgen i ddelio â hyn, drwy gymryd y cyfrifoldeb ein hunain. Ond dŷn ni'n gwybod, oherwydd rhagolygon am arafu yn yr economi, addewid i beidio â chynyddu treth incwm, yswiriant gwladol na threth ar werth, ac ati, sgôp bychan sydd yna i gynyddu gwariant cyhoeddus ymhellach. Mae'r ansicrwydd economaidd ynghlwm â gadael yr Undeb Ewropeaidd yn rhan o'r broblem, wrth gwrs.
Ond i gloi, dydyn ni ddim heddiw yn sôn am gynigion gan y Llywodraeth i newid cyfraddau trethiant yng Nghymru, ond efo'r pwrs cyhoeddus yn debyg o fod o dan bwysau sylweddol a chynyddol i ddarparu'r mathau o wasanaethau y mae pobl yn eu mynnu, a hynny mewn cyd-destun economaidd ansicr, mae'r drafodaeth ar sut gallwn ni ddefnyddio'n pwerau trethiant cyfyngedig yn mynd i orfod dod, dwi'n meddwl, yn elfen mwy amlwg o drafodaethau cyllideb mewn blynyddoedd i ddod.
Rwy'n llongyfarch y Gweinidog Cyllid ar ei chyllideb a'r broses a ddefnyddiwyd ganddi. Rwy'n nodi, yn union o'r hyn y mae Rhun newydd ei ddweud, fod ei sylwadau'n weddol fwyn wrth geryddu Llywodraeth y DU am y newidiadau yn amseriad ei chyllidebau a'r modd y cafodd hynny ei gyfathrebu. Mae'n gwrthgyferbynnu â'r hyn a glywsom ni'n gynharach yn Senedd yr Alban, lle mae'n ymddangos y cafwyd ffrae wirioneddol ddifrifol ynghylch yr amharch llwyr i Senedd yr Alban, mae'n ymddangos, a'r risgiau difrifol a thrychinebus y bydd y newid mewn amseriad yn arwain atynt. Mae'n ymddangos eu bod nhw'n disgwyl i'w cyllideb nhw ddod ar ôl un y DU ond cyn 11 o fis Mawrth, sef eu dyddiad cyfreithiol nhw ar gyfer ariannu llywodraeth leol. Felly, ni wn yn iawn sut y maen nhw'n mynd i ddatrys hynny, ond ymddengys bod yr hyn yr ydym ni'n ei wneud yn y fan hon yn fwy synhwyrol ac yn llai o ddrama na'r hyn yr ydym ni'n ei weld yn y fan honno.
Sylwaf fod y Gweinidog Cyllid yn dweud y bydd yn darparu'r sicrwydd a'r sefydlogrwydd y mae ar wasanaethau cyhoeddus Cymru eu hangen nhw drwy wneud hyn, ac yna fe gawn ni gyllideb y DU ar 11 o fis Mawrth. Gan ei bod hi'n dod â'r £125 miliwn o gronfa wrth gefn Cymru, a gaf i ofyn, a yw hwnnw'n ddull gweithredu safonol wrth symud ymlaen neu a yw hynny wedi ei ysbrydoli gan ei gwybodaeth hi bod cyllideb y DU am ddod yn ddiweddarach ac, efallai, yn disgwyl y bydd symiau canlyniadol Barnett pellach i ddod i'r amlwg ar ôl 11 o fis Mawrth?
Rwyf wedi beirniadu'r Gweinidog Cyllid o'r blaen am ei phwyslais hi ar gwyno am gyni pan nad yw'n cwyno am Brexit. Fe gawsom ni dipyn yn llai o hynny heddiw. Ond fe wnes i nodi neges drydar gan adran wleidyddiaeth BBC Cymru am 11 o'r gloch neithiwr yn dweud,
Rhaid i Lywodraeth y DU ysgwyddo'r cyfrifoldeb, meddai @fmwales, ac fe wnes i glicio drwyddi i weld pa stori yr oedd yn cyfeirio ati neu beth oedd yn credu y dylen nhw fod yn cymryd cyfrifoldeb amdano, ac nid oedd yna unrhyw stori y tu ôl iddi. Dim ond sylw cyffredinol o berthnasedd oedd hwn. Nid oeddwn i'n yn siŵr at beth yr oedd yn ceisio cyfeirio.
Ond rwy'n credu mai'r hyn y mae pobl Cymru yn awyddus i'w glywed yw'r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud gyda'r dulliau sydd ar gael iddi. Wrth gwrs, nid yw'r holl ysgogiadau ganddi hi. Wrth gwrs, cafwyd cyfnod o wariant cyhoeddus a oedd yn llai na'r trywydd cwbl anghynaladwy a oedd yn ei ddilyn o'r blaen, ond o ystyried y defnydd sydd gennym ni, sut ydym ni am ei dorri a beth yw ein blaenoriaethau ni? Ac rwy'n siŵr imi weld golwg braidd yn hiraethus ar wyneb y Prif Weinidog o ran y gyllideb y mae ei Weinidog Cyllid ef yn ei chyflwyno, sy'n rhoi llawer mwy o arian i lawer mwy o wahanol feysydd nag y llwyddodd ef i'w wneud pan oedd yn y swydd honno.
Credaf fod angen inni edrych nid yn unig ar y gymhariaeth â 2010, y mae'r Gweinidog Cyllid bob amser mor awyddus i'w wneud, ond ar beth yw'r cynnydd yr ydym ni'n ei weld y flwyddyn hon. Mae yna gwyno am y £36 miliwn neu'r £50 miliwn nad yw'n dod drwodd ar gyfer pensiynau. Ond ymhle yn y datganiad hwn y mae cyfeiriad at yr hyn fydd swm canlyniadol cyffredinol Barnett, yr arian ychwanegol sydd gennym ni i'w wario yng Nghymru'r flwyddyn nesaf oherwydd y penderfyniadau a gymerwyd gan Lywodraeth y DU a chan y gwelliant cymharol yn yr economi o'i gymharu â'r trywydd anghynaladwy yr oeddem ni arno o ran gwariant o'r blaen?
Nid wyf i'n gweld yn y gyllideb hon yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei gyfleu am ei blaenoriaeth graidd, yn enwedig o ran y meysydd mwyaf o wariant. Rydym yn clywed llawer o gondemnio gan y Ceidwadwyr, ond roeddwn i'n teimlo, ychydig o flynyddoedd yn ôl, o leiaf, fod rhywfaint o gysondeb o fewn beirniadaeth y Ceidwadwyr o wariant Llywodraeth Cymru, a oedd, o'i gymharu â Lloegr, wedi torri'r gwariant ar iechyd. Fe welais i ymateb y Prif Weinidog i'r awgrym fod toriad wedi bod, ond, yn sicr, o'i gymharu â Lloegr, yng Nghymru rydym ni neu Lywodraeth Cymru wedi dewis gweithredu cyni drwy fod yn llai hael gydag iechyd a bod yn fwy hael gyda llywodraeth leol na'r hyn sydd wedi digwydd yn Lloegr. A dyna'r gyllideb a'r penderfyniad ariannol mwyaf a gafodd ei wneud o bell ffordd. Eto i gyd, y flwyddyn hon, pan ddaw'r cyfyngiadau i ben, pan fydd gennym ni arian sylweddol i'w ddosbarthu, mae'r swm a drosglwyddir yn ganrannol bron yr un faint i iechyd ac i lywodraeth leol. Felly, o hynny, ni allaf i benderfynu ymhle y mae blaenoriaethau Llywodraeth Cymru. Ac rwy'n sylwi bod gostyngiadau wedi bod, ond mae'r gostyngiadau sydd wedi cael eu gwneud o ran llywodraeth leol yn Lloegr yn fwy o lawer na'r rhai sydd wedi cael eu gwneud o ran llywodraeth leol yng Nghymru. Rwy'n gofyn a oes yna gyfleoedd pellach i sicrhau arbedion effeithlonrwydd yng Nghymru sydd wedi cael eu gwneud yn Lloegr. Rwy'n derbyn y sylwadau a wneir ynghylch gofal cymdeithasol a'r rhyngweithio â'r GIG. Credaf ei fod yn sylw teg, ond nid yw'n esbonio'r holl wahaniaeth yn y dull a ddefnyddiwyd.
Ac fe fyddwn i'n gofyn pam, yng Nghymru, y mae cynghorwyr yn cael eu talu, rwy'n credu, £13,868 eleni? Y flwyddyn nesaf, a fydd hynny'n fwy na £14,000? Pam nad yw'r cynghorau'n cael gwneud arbedion yn y maes hwnnw? Pan oeddwn i'n gwasanaethu yn fy nghyngor lleol yn Lloegr a oedd yn wynebu gostyngiadau mawr mewn gwariant oherwydd cyni, un o'r pethau cyntaf a wnaed oedd torri lwfansau cynghorwyr yn llawer is na'r rhai sydd gennym ni yng Nghymru. Eto i gyd, mae gennym ni 22 o gynghorau o hyd, ac rydym yn dal i fod â nifer llawer mwy o gynghorwyr sy'n cael swm sylweddol iawn o arian. Onid yw hwnnw'n faes lle dylem ni fod yn chwilio am arbedion ynddo?
Mae'r Llywodraeth yn sôn llawer am flaenoriaethu newid hinsawdd. Rwy'n cofio cyllideb gyntaf y Cynulliad hwn, lle'r oeddwn i'n gwisgo sawl het, ac fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru ostyngiadau sylweddol iawn yn ei gwariant ar brosiectau newid hinsawdd. Yr hyn yr wyf yn ei ofyn i'r Prif Weinidog a'r Gweinidog Cyllid yw: a gawn ni wybod, er mwyn gallu cymharu, faint y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ei wario nawr o'i gymharu â'r hyn yr oedd yn ei wario bryd hynny? Gallaf gofio'r fanllef o brotest, a chafodd cyfran fechan o'r toriadau hynny eu hepgor. Ble rydym ni arni nawr o'i gymharu â phryd hynny, ac a allwn ni geisio ystyried hynny ar sail gymaradwy, o ran cyfalaf a refeniw fel ei gilydd?
Roeddwn i'n teimlo bod Rhun wedi gwneud sylw da iawn ynghylch blaenoriaethu gwariant ar newid hinsawdd, ac rwy'n pryderu'n fawr nad ydym yn gwybod beth fydd budd cymharol y gwahanol fathau o wariant. Felly, rydym wedi cael buddsoddiad mewn teithio llesol, yn y fflyd o fysiau trydan, dulliau o adeiladu tai; beth yw'r enillion cymharol o ran yr effaith y gallwn ei chael o ran gollyngiadau yn sgil gwariant yn y meysydd amrywiol hyn? Bysiau trydan—fe fyddwn i wrth fy modd yn gweld mwy ohonyn nhw, yn anad dim oherwydd yr effaith ar ansawdd aer, ond maen nhw'n ddrud iawn, a cheir tystiolaeth weddol dda fod inswleiddio cartrefi ac edrych ar yr effeithlonrwydd ynni yn ffordd effeithiol iawn o leihau allyriadau gyda gwariant cymharol fychan. Ond mae gennym ni'r goedwig genedlaethol hon i Gymru—mae'n swnio'n beth rhagorol, rydym ni'n gwario swm penodol ar hynny, rydym ni'n gwario swm penodol ar blannu coed yn Uganda hefyd. Beth yw'r enillion cymharol o wariant yn y meysydd hynny? Siawns na ddylai Llywodraeth Cymru fod yn buddsoddi mewn ymchwil i geisio deall hynny, gan edrych ar yr arferion gorau mewn mannau eraill, ac o wneud y cymariaethau hynny, wybod bod yr arian, o leiaf, yn cael ei wario yn y ffordd fwyaf effeithiol posibl, yn hytrach nag ystyried ei wario ar ymgyrch gyfathrebu fel y gallwn ni ymgyrchu yn ôl i'r rhai sy'n ymgyrchu inni wneud mwy dros newid hinsawdd. Yr hyn y mae angen inni ei wneud yw ystyried pa fesurau sydd fwyaf effeithiol ar gyfer y swm o arian sydd ar gael, ac rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn gwthio i'r cyfeiriad hwnnw.
Rwy'n dymuno'n dda iddyn nhw gyda'r gyllideb, ac edrychwn ymlaen yn y Pwyllgor Cyllid ddydd Iau i edrych yn fanylach ar hyn gyda gwahanol grwpiau diddordeb, ac rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn cymryd sylw o'r hyn a ddywedir gan y rhain. Rwy'n gobeithio hefyd y bydd yn meithrin proses gyllidebol well a mwy effeithiol i'r dyfodol. Rwy'n credu bod y broses hon sydd gennym ni ar gyfer gwario yn Senedd Cymru yn well nawr na'r un a oedd ganddyn nhw yn San Steffan. Nid wyf wedi fy narbwyllo ei bod ar gyfer treth eto, ond rwy'n gobeithio y gall y Pwyllgor Cyllid a Llywodraeth Cymru gydweithio i edrych ar y cynlluniau tymor canolig ar y ffordd orau inni redeg cyllidebau yn y lle hwn yn y dyfodol. Diolch.
A gaf i, wrth agor fy sylwadau, ddiolch i Lywodraeth Cymru, hyd yn oed gyda'r anawsterau o fethu â llwyddo i gwblhau setliad hirdymor amlflwydd, hyd yn oed gyda'r anawsterau o orfod aros tan fis Mawrth, ar ôl inni gyflawni ein cyllideb derfynol ni, ac yna gyflwyno cyllideb atodol i gynnwys yr hyn y mae Llywodraeth y DU yn ei wneud—yn wyneb y cyfan, hyd yn oed, dyma'r tro cyntaf mewn degawd imi weld dau arweinydd fy nghyngorau lleol i yn gwenu? [Chwerthin.] Ac rwy'n dymuno diolch ichi am hynny, oherwydd mae wedi bod yn ddiflas iawn, ac mae wedi bod yn ddigalon oherwydd, flwyddyn ar ôl blwyddyn—roedd yn ddiddorol yn dilyn sylwadau Mark. Nid y rhyngweithiadau iechyd a gofal cymdeithasol yn unig mo'r rhain, ac rydym wedi rhoi arian i ofal cymdeithasol. Rydym wedi ei godi i £30 miliwn, rydych chi'n ei godi i £40 miliwn nawr, ac mae hynny'n rhagorol i'w weld ac yn y blaen, ac fe gaiff hynny effaith ar wariant cyffredinol ar iechyd a gofal cymdeithasol. Ond, mewn gwirionedd, y swyddogion cynllunio a'r swyddogion datblygu economaidd a'r swyddogion safonau amgylcheddol a'r swyddogion teithio llesol, ac yn y blaen—dyna'r rhai sy'n cael eu gorlethu, yn y cefndir. Nid oes llawer ohonynt i'w cael erbyn hyn. Ni chawsant eu chwalu'n llwyr, ni chollwyd un mewn 10—rwy'n tybio mai un mewn pedwar, pump, chwech, saith o bob 10 sydd wedi mynd erbyn hyn.
Felly, mae hyn yn gyfle nawr o leiaf i arweinwyr yr awdurdodau lleol godi eu pennau a meddwl nid yn unig am ofal cymdeithasol, ond gofyn yn gyffredinol, 'Beth yw'r blaenoriaethau ar hyn o bryd, wrth symud ymlaen?' Mae'n dal i fod yn anodd, oherwydd, er gwaethaf hyn, rydym ni'n dal i fod mewn cyfnod anodd iawn. Rydym yn mynd i'r afael â phethau ar ôl 10 mlynedd o doriadau diddiwedd mewn awdurdodau lleol. Nid yw'n fater o agor y llifddorau yn sydyn a disgwyl i bopeth lifo; mae pethau wedi mynd ar goll yn y cyfnod yna, yn y degawd hwn o gyni. Ond rwy'n cael sgyrsiau gwirioneddol ddiddorol nawr gydag arweinwyr cynghorau ynghylch meysydd i fuddsoddi ynddyn nhw, yn hytrach na gofyn 'O ble y cawn ni £30 miliwn arall o doriadau, neu hyn, y llall neu'r arall, yn yr awdurdod lleol?'
Ond rwyf i am fyfyrio hefyd, yn fy sylwadau agoriadol, ar y ffaith ein bod ni'n anghofio weithiau beth yr ydym ni wedi llwyddo i'w wneud hyd yn oed yn y cyfnod anodd hwn, y degawd hwn o gyni y buom ynddo. Rydym wedi gallu cyflawni rhai ymrwymiadau sylweddol a gyflwynwyd gennym ym maniffesto 2016. Rydym wedi cyflwyno ychydig yn llai na £600 miliwn i ariannu prentisiaethau o ansawdd, yn wir, 100,000 o brentisiaethau o ansawdd, yng Nghymru. Fe wn i fod hynny'n digwydd yn fy etholaeth i gyda chyflogwyr lleol, lle'r wyf i'n siarad â phobl ifanc neu bobl ar ochr y caeau chwarae sy'n dweud, 'Mae gan fy nghrwt i waith mewn prentisiaeth dda i lawr y ffordd mewn gweithgynhyrchu oherwydd y cyllid hwnnw a roddodd Llywodraeth Cymru, ein Llywodraeth ni yng Nghymru.'
Ynglŷn â'r ardrethi—fe wn i nad yw'r rhyddhad ardrethi ar fusnesau bach yn cyrraedd pob man, ond, rwy'n dweud wrthych chi, ei fod yn mynd ffordd bell mewn cymunedau fel Pontycymer a Bro Ogwr a hyd yn oed ym Maesteg. Nid stryd fawr y Bont-faen ydyn ni, nid stryd fawr Trefynwy. Ni yw'r rhai lle ceir trosiant isel ac ni ddaw cymaint â hynny o bobl i siopa, a dyma'r rhai sy'n cael budd o'r eithriadau hyn yr ydym ni wedi gallu eu rhoi. Dyma nhw. Dyna pam maen nhw'n gallu parhau i fasnachu. Oherwydd, a bod yn onest, dydy nhw byth yn mynd i allu ennill $1 miliwn, ar y strydoedd hyn, ond yr hyn y maen nhw yn ei wneud yw rhoi gwasanaeth lleol gwirioneddol dda, gwerthiant lleol, cefnogaeth leol yn y stryd fawr honno ar gyfer stryd fawr leol sy'n hyfyw, ac mae'r cymorth o ychydig yn llai £600 miliwn ar gyfer ardrethi busnes wedi bod yn help gwirioneddol.
A hefyd y £100 miliwn sydd wedi mynd tuag at safonau ysgolion, gan wella safonau ysgolion—mae yna chwyldro tawel yn digwydd yma ym myd addysg yng Nghymru, ac rydym wedi llwyddo i wneud hynny ac roedd hynny'n rhan o'n hymrwymiad ni.
Ac wrth gwrs y gronfa triniaethau newydd—£80 miliwn i'r gronfa triniaethau newydd. Erbyn hyn, mae hyn yn cwtogi amseroedd aros am gyffuriau newydd o 90 diwrnod, fel yr oedd, i ddim ond 10 diwrnod. Ac rwy'n awyddus i sôn yn fyr am un maes lle'r hoffwn i ein gweld ni'n mynd ymhellach hefyd. Ydym, rydym wedi cyflwyno £200 miliwn ar gyfer darparu gofal plant i rieni sy'n gweithio. Rydym wedi cyflawni hyn yn gynt nag y bwriadwyd. Ond, fel y dywedaf o hyd wrth y Llywodraeth, pe bai gennyf i lath hud a digonedd o arian, fe fyddwn i'n rhoi ystyriaeth i holl dirwedd y ddarpariaeth gofal plant. Mae arian yma ar gyfer Dechrau'n Deg—rwy'n cydnabod hynny. Mae arian ar gyfer mentrau eraill gyda phobl ifanc. Ond edrychwch chi ar y peth yn ei gyfanrwydd, o addysg y blynyddoedd cynnar a'r ddarpariaeth gofal plant sy'n mynd drwodd. Pe byddai mwy o arian ar gael i mi, pe byddai gennym fwy o arian yn sydyn yn y blynyddoedd nesaf, yna byddwn yn dymuno ei weld yn mynd i'r blynyddoedd cynnar hynny ac i'r plant a'r bobl ifanc hynny, y tu hwnt i'r cynnig gofal plant ond yn ehangach i hynny.
Ond rydym eisoes wedi gwneud pethau mawr o fewn y gyllideb hon. Rydym eisoes wedi edrych ar y blynyddoedd pontio allweddol hynny yn saith ac yn 11 oed, ac rydym wedi rhoi cyllid ychwanegol y tu cefn i'r rhain. Nawr, mae hynny'n mynd i wneud gwahaniaeth enfawr, oherwydd gwyddom nad Dechrau'n Deg yn unig yw hyn, nid y ddarpariaeth blynyddoedd cynnar iawn yn unig yw hyn, ond bydd hyn hefyd wrth iddyn nhw bontio wedyn i'r ysgol drws nesaf, ac wrth iddyn nhw drosglwyddo i'r ysgol fawr hefyd, fe wnaiff hynny wahaniaeth gwirioneddol.
Ac mae pethau gwych o fewn hyn hefyd. Pethau fel—. Ni fydd hyn yn cyffroi pawb, ond credaf fod y cysyniad wrth wraidd coedwig genedlaethol yn un uchelgeisiol iawn. Fe hoffwn i ddweud yn syml, wrth ei sbarduno—ac fe wn i y bydd y Gweinidog yn ymwybodol iawn o hyn—ei bod yn rhaid inni gydymffurfio â'r syniad mai honno yw'r goeden addas i'r fan honno, felly nid gweld gostyngiadau carbon yn unig yr ydym ni, rydym yn gweld enillion o ran bioamrywiaeth ar yr un pryd yn yr holl lecynnau sydd gennym ni.
Mae llawer o bethau da yn hyn, ond wrth gloi hoffwn ofyn cwpl o bethau allweddol. Roeddwn i'n siomedig o weld Darren yn llwyr ddiystyru unrhyw ddyfodol o gwbl i unrhyw arian ychwanegol o fewn gofal cymdeithasol yng Nghymru. [Torri ar draws.] Na, rwy'n ystyried bod—. Rwyf am orffen fy mhwynt. Mae'n ymddangos eich bod chi'n—. Roeddwn i'n gweld hwnnw'n gam yn ôl, oherwydd rydym wedi bod yn aros am y Papur Gwyrdd ar ofal cymdeithasol yn Llundain ers amser maith. A ydych chi'n diystyru hynny, gan ei bod hi'n swnio felly i mi, yn wir?
A gaf i wneud fy mhwynt yn gwbl glir i chi, oherwydd nid wyf i'n credu eich bod chi wedi talu digon o sylw, croesewais y buddsoddiad ychwanegol y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud ym maes gofal cymdeithasol, ond fe ddywedais yn glir fod fy mhlaid yn dymuno gwybod pa un a oedd Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyflwyno treth gofal cymdeithasol yma yng Nghymru. Nid yw'n rhywbeth y byddem ni'n ei argymell, ac yn sicr fyddwn ni ddim yn mynd i etholiadau nesaf y Cynulliad yn ei argymell. Os hoffech chi wneud hynny, byddem yn gwerthfawrogi rhywfaint o eglurder yn ei gylch. Nid ydym wedi cael unrhyw eglurder gennych, felly rhowch rywfaint o eglurder i ni.
Wel, unwaith eto—. Llywydd, rwy'n gallu gweld bod yr amser yn drech na mi. Unwaith eto, rwy'n wirioneddol siomedig, oherwydd bod y methiant i symud ymlaen—[torri ar draws.]
Gadewch iddo barhau, Darren Millar, os gwelwch yn dda.
Oherwydd bod methiant Llywodraethau olynol, ond gan gynnwys y Llywodraeth Geidwadol bresennol, i allu sicrhau consensws yn San Steffan yn golygu y bydd yn rhaid i ni wneud penderfyniadau llawn dychymyg, creadigol ac anodd ynghylch sut yr ydym yn ariannu nid dim ond iechyd, ond iechyd a gofal cymdeithasol gyda'i gilydd. Un o'r penderfyniadau, Darren, y bydd yn rhaid i ni ei wneud fel gwladweinwyr aeddfed cyfrifol yw pa un a ydym ni'n credu bod digon o arian yn y system i roi'r telerau a'r amodau y mae pobl yn eu haeddu ar y rheng flaen er mwyn darparu gofal cymdeithasol fforddiadwy ac o safon uchel. Nawr, os nad ydych chi'n fodlon cael y drafodaeth honno, yna mae arnaf i ofn—[torri ar draws.] Yna, mae arnaf i ofn eich bod chi'n anwybyddu cenedlaethau o bobl.
Nid wyf i'n credu bod angen codi trethi i wneud hynny.
Felly, mae'n drueni bod y wleidyddiaeth wrth arwain at etholiad nesaf—[torri ar draws.] Rydych yn gwneud yn union yr un fath ag y mae Llywodraethau Ceidwadol olynol wedi ei wneud—
Bydd angen i chi gloi eich sylwadau yn awr. Rydych chi wedi cael saith munud.
Yn wir. Rwy'n ymddiheuro, Llywydd. Roedd yn grwydriad diddorol. Ymddiheuraf.
Diolch. Rwy'n symud ymlaen at y siaradwr nesaf.
Diolch yn fawr iawn.
Angela Burns.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Diolch. Mae'r gyllideb ddrafft wedi cyhoeddi cynnydd o fwy na £400 miliwn yn y gyllideb iechyd a gofal cymdeithasol ar gyfer 2020-1, ac rwy'n amlwg yn croesawu hynny. O ystyried bod hyn yn golygu bod cyfanswm o ryw £8.7 biliwn o fuddsoddiad mewn iechyd a gofal cymdeithasol, sef bron i hanner cyllideb Cymru, felly mae'n fwy hanfodol byth bod yr arian hwn yn cael ei ddwyn i gyfrif yn briodol a'i fod yn darparu iechyd a gofal cymdeithasol effeithiol i bobl Cymru.
Fodd bynnag, mae'n rhaid i mi ddweud nad yw atebolrwydd erioed wedi bod yn gryfder i Lywodraeth Cymru. Er bod y Llywodraeth yn dweud y bydd yn canolbwyntio ar ofal cymdeithasol ac iechyd meddwl yng nghyllideb 2020-1, mae gennym y nesaf peth i ddim manylion am sut y bydd y gyllideb yn cefnogi ac yn gwella'r modd y caiff y GIG ei redeg o ddydd i ddydd.
Gweinidog, yn naratif cyllideb ddrafft 2020-1, mae Llywodraeth Lafur Cymru yn honni:
'Mae buddsoddi yn ein Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) a'n gwasanaethau cymdeithasol wrth wraidd ein cynlluniau gwario', gan amlinellu bod £37 biliwn wedi'i fuddsoddi ers 2016. Ac eto, er gwaethaf yr holl fuddsoddiad hyn, mae'r ffigurau diweddaraf yn dangos y perfformiad gwaethaf mewn hanes o ran amseroedd aros mewn adrannau damweiniau ac achosion brys am yr ail fis yn olynol; bu oddeutu 23,000 o gleifion yn aros am fwy na phedair awr ym mis Tachwedd 2019 a bu bron i 6,000 yn aros am fwy na 12 awr; ni chyrhaeddwyd targed ymateb gwasanaeth ambiwlans Cymru ar gyfer galwadau coch; ac nid yw Cymru wedi cyrraedd ei tharged ar gyfer 95 y cant o gleifion sy'n cael diagnosis o ganser i ddechrau triniaeth o fewn 62 diwrnod ers 2008. Ie, 2008, Gweinidog. Mae'n rhaid i mi ofyn: a yw'r llwybrau canser brys a'r rhai nad ydynt yn rhai brys a unwyd yn ddiweddar i un targed 62 diwrnod yn ymarfer taflu llwch i'r llygaid? Nid yw'r targed o 95 y cant o gleifion yn aros llai na 26 wythnos i gael eu hatgyfeirio i driniaeth wedi ei gyrraedd, a dyma'r gwaethaf ers mis Medi 2017. Mae pedwar o'r saith Bwrdd Iechyd yng Nghymru mewn mesurau arbennig neu ymyrraeth wedi'i thargedu—y lefel uchaf posibl o ymyrraeth gan Lywodraeth Cymru. Ac mae gwasanaethau Betsi Cadwaladr wedi bod mewn rhyw fath o fesurau arbennig am dros bedair blynedd a hanner—yn hwy nag unrhyw fwrdd iechyd arall yn y DU, a disgwylir iddo barhau mewn mesurau arbennig yn y tymor canolig o leiaf. A chawsom y profiad Cwm Taf, a dyna'r cwbl a ddywedaf am hynny.
Felly, Gweinidog, mae Betsi Cadwaladr wedi cael bron i £83 miliwn gan Lywodraeth Cymru ar gyfer cymorth ymyrryd a gwella a miliynau lawer mewn meysydd eraill. Sut byddwch chi'n sicrhau bod rhagor o arian yn cyflawni'r newidiadau sydd eu hangen yn ddybryd ar gleifion yn y gogledd? A fydd y gyllideb yn cael ei defnyddio'n syml i ateb y diffyg rhagamcanol o £35 miliwn yn y flwyddyn ariannol hon? A gaiff ei wario ar fwy o ymgynghorwyr £2,000 y dydd? Byddem ni'n dwlu ar glywed yr hyn sydd gennych i'w ddweud ynghylch sut y gall yr arian hwn yn y gyllideb gefnogi Betsi Cadwaladr.
Mae prinder gweithlu, Gweinidog, hefyd yn rhemp yn y gwasanaeth iechyd. Er bod y Gweinidog iechyd yn gweithredu ar hyn o bryd, mewn ffordd gyfyng mae hynny. Rydym ni mewn argyfwng. Mae'r Coleg Nyrsio Brenhinol wedi amlinellu bylchau difrifol yn y gweithlu nyrsio, gan nodi bob wythnos bod nyrsys yng Nghymru yn rhoi oriau ychwanegol i'r GIG gwerth 976 o nyrsys amser llawn. Mae hwnnw'n ystadegyn brawychus. Gwariodd GIG Cymru £63.8 miliwn y llynedd ar nyrsys asiantaeth—cynnydd sylweddol o 24 y cant. Er bod y Gweinidog iechyd wedi cyhoeddi mwy o leoedd hyfforddi i nyrsys yn ddiweddar, bydd hyn ymhell o fod yn ddigon i ateb yr hyn sydd ei angen arnom, ac nid yw'n ymdrin â nyrsys pediatrig, nyrsys ardal, nyrsys anableddau dysgu, ac nid yw'n ymdrin ychwaith â'r prinder cronig sydd gennym o weithwyr proffesiynol perthynol i ofal iechyd. O gofio bod yr holl ymdrech i ddarparu gofal iechyd yng Nghymru yn ymwneud â gwasanaethau yn y gymuned, yr hyn sydd ei angen arnom yw mwy o ffisiotherapyddion, therapyddion galwedigaethol, rheolwyr gofal cronig a'r gweddill ohono. Nid oes gen i unrhyw syniad sut y bydd y gyllideb hon yn cefnogi hynny.
Felly, Gweinidog, a wnewch chi amlinellu i ni sut y byddwch chi'n sicrhau bod y gyllideb yn cefnogi'r cynllunio gweithlu hwnnw, a sut y bydd yn sicrhau, yn ogystal â recriwtio'r staff sydd eu hangen arnom ni heddiw, ein bod hefyd yn hyfforddi'r niferoedd priodol ar gyfer yfory? Mae'n rhaid i mi ddweud y byddai'n esgeulus i mi beidio â thynnu sylw at y ffaith fod 42 y cant o feddygon teulu yn dweud ei fod yn anghynaliadwy yn ariannol i redeg practis. Pan ofynnwyd pam mae rhedeg practis yn anghynaliadwy, dywedodd 82 y cant o feddygon teulu nad oes digon o arian craidd. Gweinidog, a wnewch chi ddweud wrthyf i sut y bydd y gyllideb hon yn cefnogi'r meddygon teulu? Oherwydd ni allwn fforddio colli unrhyw un ohonyn nhw.
Nawr, o ran y gweiddi ar draws arferol o'r meinciau cefn, mae gen i restr faith iawn, mewn gwirionedd, y byddwn i'n hynod hapus i'w rhannu—rywbryd arall, gan fod fy amser bron ar ben—gyda'r Gweinidog iechyd, o'r hyn y byddai'r Ceidwadwyr Cymreig yn ei wneud. Mae gennym ni restr hir a chlir iawn o sut y byddem ni yn cefnogi ein GIG a'n gwasanaethau cymdeithasol.
Hoffwn i gloi ar un nodyn cyflym iawn, am ofal cymdeithasol. Mae'n un o'r heriau mwyaf yr ydym ni'n eu hwynebu. Mae gennym ni ateb clir iawn ynghylch sut y gallwn ni wneud hynny. Efallai na fydd yr un fath â'r ffordd yr ydych chi'n meddwl y dylem ni ariannu a rheoli gwasanaethau cymdeithasol, ond mae gennym ni gynllun ac mae wedi ei nodi'n glir iawn ym maniffesto'r Ceidwadwyr. Felly, yn hytrach na dim ond gweiddi a sgrechian a dweud nad oes gennym ni unrhyw syniad, ac nad oes gennym ni gynllun, a gaf i anfon copi o'n maniffesto i'ch swyddfa, Mr Irranca-Davies? A gobeithio y bydd yn taflu rhywfaint o oleuni i chi.
Yn sicr, ni fyddaf yn cymryd amser y Siambr drwy ailadrodd pwyntiau y mae pobl wedi'u gwneud, ond hoffwn ymhelaethu arnyn nhw, ac rwy'n credu bod angen i mi ddechrau trwy ddweud bod llawer ym mholisi Llywodraeth Cymru sy'n anhygoel o anodd anghytuno ag ef mewn gwirionedd. Yn sicr, nid ydym yn anghytuno ag ymrwymiadau yn ymwneud â newid yn yr hinsawdd, ac yn sicr nid ydym yn anghytuno â'r polisïau sy'n ymwneud â gofal iechyd darbodus, ond cefais fy magu bob amser i edrych ar yr hyn y byddai pobl yn ei wneud yn hytrach na'r hyn yr oedden nhw'n ei ddweud. Ac mae yna ddywediad yn y Gymraeg, onid oes, 'Diwedd y gân yw'r geiniog'? A'r hyn sy'n peri rhwystredigaeth, fel y mae Rhun ap Iorwerth eisoes wedi ei nodi, yw i ba raddau y mae gennym ni Lywodraeth sydd weithiau'n gallu cyflwyno polisi sy'n swnio'n arloesol, ond sydd wedyn yn methu â gwneud y pethau mwyaf sylfaenol i sicrhau bod y polisi hwnnw yn digwydd. Hoffwn i ddweud ychydig mwy i ymhelaethu ar yr hyn y mae Rhun wedi ei ddweud, ac i raddau i gefnogi'r hyn y mae Angela Burns newydd ei ddweud am y gyllideb iechyd a gofal cymdeithasol.
Mae'n ddiffiniad ystrydebol o wallgofrwydd i ddal ati i wneud yr un peth a disgwyl cael canlyniad gwahanol. Nawr, nid oes neb yn mynd i gwyno am wariant ychwanegol ar iechyd, ond oni bai ein bod yn chwalu'r gweithio ar wahân rhwng iechyd a gofal cymdeithasol, bydd y pwysau hynny'n codi dro ar ôl tro. Rwy'n siŵr nad yw'n syndod i Lywodraeth Cymru bod y gaeaf yn dod bob blwyddyn, a'n bod yn canfod ein hunain bob blwyddyn, un ffordd neu'r llall—weithiau mewn un bwrdd iechyd, weithiau mewn un arall—mewn argyfwng gwirioneddol. Dyma beth sydd gennym ni yn Hywel Dda. Rydym ni newydd gael y datganiad i'r wasg heddiw yn dweud eu bod yn parhau i ohirio llawdriniaethau nad ydynt yn hanfodol. Nawr, os nad ydym yn gwneud dim mwy na pharhau i bentyrru mwy o adnoddau i'r gyllideb iechyd ei hun—a gallaf weld pam mae hynny'n demtasiwn i'r Llywodraeth, oherwydd, wrth gwrs, mae honno'n gyllideb maen nhw yn ei rheoli; wel, y dylen nhw ei rheoli—os byddwn yn parhau i wneud hynny, ni fyddwn yn newid y problemau sylfaenol. Rydym ni ym Mhlaid Cymru wedi gwneud rhywfaint o waith ymchwil i hyn, ac am £470 miliwn y flwyddyn, sy'n swnio yn arian mawr, ond o gyllideb iechyd o £8 biliwn, nid yw'n fawr ddim, gallem ni ddarparu gofal cymdeithasol am ddim yn y wlad hon i bawb sydd ei angen. Nawr, oni fyddai hynny'n gam tuag at ryddhau'r broblem honno sydd gennym ni lle nad yw pobl yn gallu mynd i mewn i'r lleoliadau gofal sydd eu hangen arnynt? [Torri ar draws.] Rwyf yn fodlon iawn i dderbyn ymyriad.
Diolch ichi am hynna, Helen Mary. Rwy'n credu bod hynna'n swnio'n sylw diddorol iawn yr ydych chi newydd ei wneud, a byddai gen i ddiddordeb mawr mewn trafod hynny ymhellach gyda chi, oherwydd mae angen i ni ddod o hyd i ateb i hyn. Mae gennych chi un ffordd o ddatrys y mater hwn, rydym ni wedi dod o hyd i ffordd arall, rwy'n siŵr bod gan Lafur—yn rhywle—ffordd arall, ac efallai bod hynny'n rhywbeth y gallwn ni i gyd ddod at ein gilydd i'w drafod.
Wel, wrth gwrs, dywedodd y Gweinidog iechyd a gwasanaethau cymdeithasol wrthym y byddem yn clywed ganddo am ei gynlluniau hirdymor ar gyfer gofal cymdeithasol yn ôl yn yr hydref. Efallai nad oes gen i afael ar y Gymraeg, ond nid wyf i'n credu bod mis Ionawr yn yr hydref. Ond, yr hyn rwyf yn cytuno ag Angela Burns yn ei gylch—ac rwy'n credu, mae'n debyg, y byddem yn cael cytundeb ar draws y Siambr—yw bod angen i ni ddatrys y broblem hon yn y tymor hir, ac y byddwn yn gwneud hynny orau os gallwn ni siarad â'n gilydd ac, yn bwysig iawn, gwrando ar ein gilydd, gwrando ar y bobl sy'n darparu gwasanaethau, a gwrando ar y teuluoedd y mae eu hangen arnyn nhw.
Ond, wrth gwrs, fel y mae Rhun wedi ei ddweud, o ran atal pobl rhag mynd yn sâl yn y lle cyntaf, nid y gwasanaeth iechyd yw'r lle i wario'r arian, ac mae'n troi'n gylch dieflig. Os nad ydym yn gwario digon ar dai, os nad ydym yn gwario digon ar y darnau cywir o addysg, os na fyddwn yn newid polisi addysg i'w gwneud yn orfodol, fel yr argymhellodd y pwyllgor, i blant ysgolion cynradd, er enghraifft, wneud nifer penodol o oriau o ymarfer corff bob dydd, bob wythnos, byddwn yn parhau i ddod o hyd i bobl sydd â'r problemau diabetes, â'r holl broblemau iechyd eraill. Felly, mae'n rhaid i ni edrych mewn ffordd radical ar y ffordd y caiff ein harian ei wario.
Nawr, nid wyf i'n awgrymu am eiliad, Llywydd, fod hyn yn hawdd. Mae'n un o'r pethau anoddaf yn y byd i wneud i arian ddilyn polisi; mae pawb yn gwybod hynny. Ond, fel y mae Rhun eisoes wedi ei ddweud, mae hwn yn gyfle lle mae rhywfaint o gyfle i anadlu. Pa mor gynaliadwy y bydd y cyfle i anadlu hwnnw, nid ydym yn gwybod eto, ond mae'n wirioneddol siomedig nad ydym ni'n gwybod ar draws portffolios sut y mae blaenoriaethau allweddol yn mynd i gael eu cyflawni.
Hoffwn i ofyn yn benodol i'r Gweinidog heddiw sut y cafodd yr holl bolisïau ar draws yr holl bortffolios eu prawfesur yn unol â'r nodau cynaliadwyedd, nid yn unol â'r hyn rwy'n credu y cyfeiriwyd ato fel 'arweiniad'. Mae hyn yn gyfraith. Dyma'r hyn sydd i fod i lywio pob polisi. Ac rwy'n ceisio peidio â bod yn amheus ynghylch yr hyn a ddylai fod yn ddarn o ddeddfwriaeth arloesol, ond oni bai wrth basio'r ddeddfwriaeth arloesol honno bod y cyllid yn dilyn wedyn, byddwn ni'n mynd i drafferthion.
Pa effaith a gafwyd? Pa asesiad o'r effaith ar hawliau plant a wnaed yn y gyllideb hon ar draws portffolio? Ceir rhywfaint o arian ychwanegol sydd i'w groesawu'n uniongyrchol ar gyfer plant a phobl ifanc, wrth gwrs mae hynny'n newyddion da, ond a ydym ni wedi asesu sut y bydd y gwariant ar ddatblygiad economaidd yn dylanwadu ar blant a phobl ifanc? A ydym ni wedi asesu sut y bydd gwariant ar drafnidiaeth yn dylanwadu ar blant a phobl ifanc ar adeg pryd y gwyddom fod pobl ifanc yn cael trafferth i gael cludiant priodol i'r ysgol yn rhai o'n cymunedau?
Mae hyn yn siomedig. Mae hwn yn gyfle sydd wedi'i golli. Ond, os gwelwch yn dda, gadewch i ni beidio â chael rhagor o'r rhain. Mae gan y Llywodraeth y syniadau cywir weithiau. Mae'n ymddangos mai'r diffyg sydd ganddyn nhw yw'r dewrder i'w rhoi ar waith.
Rydym ni wedi cael cadarnhad gan Lywodraeth Geidwadol San Steffan mai polisi gwleidyddol ac nid economaidd oedd cyni cyllidol. Rydym ni'n gweld twf gwirioneddol yn yr arian sydd ar gael ar gyfer cyllideb Cymru tra bod economi Prydain yn parhau i aros yn ei hunfan. Mae'n rhaid croesawu'r twf mewn termau real yn yr arian sydd ar gael. Rwy'n credu bod yn rhaid croesawu unrhyw gynnydd mewn twf gwirioneddol. Byddai'n anfoesgar i beidio â gwneud hynny.
Rwy'n siomedig nad yw'r Ceidwadwyr na Phlaid Cymru wedi llunio cyllideb amgen, ac nid yn unig tynnu sylw at eu blaenoriaethau, oherwydd bu gennym ni lawer o flaenoriaethau—[torri ar draws.]
A ydych chi wedi cyflwyno eich dewis arall?
Gallwn i roi dewis arall i chi. Mi wnaf i roi dewis arall i chi: byddwn i'n cymryd arian o gyllideb yr economi a byddwn i'n ei roi yn y gyllideb amgylcheddol a byddwn i'n ei roi yn y gyllideb addysg. Dim ond newidiadau pen uchaf yr wyf i'n gofyn i chi eu gwneud. Ond, rwy'n credu, lle byddech chi'n tynnu arian i ffwrdd—. Oherwydd bod yn rhaid i chi dynnu arian o rywle i'w roi yn rhywle arall.
A gaf i ddechrau gyda chais sy'n hawdd iawn? A gawn ni'r £1 miliwn yn ôl ar gyfer nofio am ddim i'r rhai dros 60 oed? Dywedir wrthyf fod hyn wedi dilyn adolygiad annibynnol a oedd yn ei argymell. A wnaiff y Llywodraeth yn awr dderbyn bod yr adolygiad annibynnol o nofio am ddim i'r rhai dros 60 oed yn anghywir ac ailgyflwyno'r arian? Mae'r gred mewn anffaeledigrwydd adolygiadau ac arolygwyr annibynnol yn peri pryder mawr i mi—nad yw'r bobl hyn yn anffaeledig. Mae hwn yn arian sy'n ddefnyddiol iawn gan ei fod yn annog pobl i fynd allan a gwneud ymarfer corff—y bobl dros 60 oed—ac yn eu cadw allan o'r ysbyty.
Rwy'n croesawu'r twf mewn termau real yn y gyllideb ar gyfer iechyd a gwasanaethau cymdeithasol, ond rwy'n ofni, os caiff ei roi i fyrddau iechyd, sy'n amrywio o'r hyn sy'n gamweithredol ar ei orau i'r hyn sy'n methu ar ei waethaf, na welwn ni fawr o welliant mewn perfformiad iechyd er gwaethaf y twf mewn termau real mewn gwariant. Mae rhai problemau iechyd yn amlwg iawn: gwasanaeth gofal iechyd sylfaenol sydd wedi ei danbrisio, ei danariannu, ac mewn rhai achosion, sy'n tangyflawni. Yr adran damweiniau ac achosion brys yw lle mae pobl yn mynd yn gyntaf, yn hytrach na'r meddyg teulu yn llawer rhy aml pan fydd pobl yn sâl, weithiau yn dilyn argymhelliad y meddyg teulu, rhai ohonyn nhw nad ydynt yn darparu apwyntiadau brys, gan gynnwys i blant ifanc iawn a babanod. Oni bai bod gofal sylfaenol yn cael ei ariannu'n ddigonol a bod yr holl ofal sylfaenol yn cael ei ddarparu i safon dderbyniol, yna bydd ciwiau mewn adrannau damweiniau ac achosion brys yn parhau i dyfu.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Yn sicr.
Diolch. Rwy'n ddiolchgar iawn. Felly, a fyddech chi'n cytuno â mi y dylem ni ddefnyddio'r broses gyllidebu i sicrhau bod rhai o'r adnoddau hynny yn dod o rai agweddau ar ofal eilaidd pryd y gallwn ni a rhoi hynny yn uniongyrchol i ofal sylfaenol? Ac a fyddech chi'n cytuno â mi ei bod hi'n amlwg na allwn ni ymddiried yn y byrddau iechyd i wneud hynny eu hunain?
Byddwn, a do, fe ddywedais i'r un peth yn union y llynedd a'r flwyddyn flaenorol. Felly, croeso.
Un enghraifft o sefydliad mawr nad yw'n gweithio'n effeithiol yw gwasanaeth ambiwlans Cymru. Mae angen taer i redeg hwn ar gyfres o olion traed llawer llai.
Mae gennym ni restri aros orthopedig hir, ac mae angen rhoi sylw i'r rhain. Mae gen i rywun sydd wedi bod yn aros rhwng pedair ac wyth mlynedd, yn dibynnu ar ba restr y byddwch yn edrych arni, i gael llawdriniaeth ar ei ysgwydd.
A gaf fi ddim ond—a wnewch chi dderbyn ymyriad?
Gwnaf.
Cafwyd adroddiad, wrth gwrs, adroddiad annibynnol ar wasanaeth ambiwlans Cymru nifer o flynyddoedd yn ôl a oedd yn argymell y dylid rhannu'r gwasanaeth ambiwlans rhwng cludiant brys a chludiant arferol i ysbytai. Fe'i croesawyd ar bob ochr i'r Siambr hon, ond ni wnaed unrhyw gynnydd mewn gwirionedd—[torri ar draws.] Ni wnaed unrhyw gynnydd. Yr oedd i fod i gael ei rannu'n llwyr. Dyna gytunodd y Cynulliad hwn iddo a dyna oedd polisi'r Llywodraeth ar y pryd. A ydych chi'n gresynu nad yw hynny'n wir?
Wel, nid wyf i'n siŵr y byddai ei rannu yn arbennig o fuddiol mewn gwirionedd. Rwy'n credu bod ei gael dan reolaeth ysbytai fel mai nhw sy'n gyfrifol am yr ambiwlansys sy'n aros y tu allan, yn hytrach na'i fod yn gyfrifoldeb ar rywun arall—nid yw'n gwneud dim synnwyr o gwbl. Mae'r ambiwlansys yn aros y tu allan, ac nid yw o fudd i'r bwrdd iechyd gael y bobl allan gan nad nhw sy'n gyfrifol amdano.
Mae angen mwy o reolaeth ar reolwyr ac ymgynghorwyr ysbytai unigol dros yr hyn y maen nhw'n ei wneud. Mae angen cyllid ychwanegol ar wasanaethau cymdeithasol i gyflymu'r broses o ryddhau o'r ysbyty. Mae angen i arian fynd i'r ysbytai, nid i ymgynghorwyr rheoli.
O ran yr economi, yr hyn y dylem ni fod wedi ei ddeall erbyn hyn yw nad yw cynnig cymhellion ariannol mawr i gwmnïau i symud ffatrïoedd cangen i Gymru yn gweithio yn y tymor hir. Os oes rhaid i chi roi cymhellion ariannol gwell nag unman arall—nid ydyn nhw eisiau dod yma, a byddan nhw'n gadael pan fyddan nhw'n cael gwell cynnig gan wledydd fel Hwngari.
Y gwariant gorau i dyfu'r economi yw gwariant addysgol. Mae cwmnïau'n dod i mewn oherwydd ansawdd eu gweithwyr, ac addysg yw'r ffordd o'i dyfu. Faint ydych chi'n ei feddwl y mae California yn ei gynnig i gwmnïau fynd i California i dyfu? Dydyn nhw ddim. Faint y mae'n rhaid i Gaergrawnt ei gynnig? Dydyn nhw ddim. Os yw'r ansawdd gennych chi yn yr addysg, nid oes angen i chi geisio llwgrwobrwyo'r cwmnïau i ddod i mewn.
O ran yr amgylchedd, mae Llywodraeth Cymru wedi galw argyfwng newid yn yr hinsawdd ac maen nhw'n rhoi'r cynnydd refeniw lleiaf mewn termau real i bortffolio'r amgylchedd. Os yw'r newid yn yr hinsawdd a'r hinsawdd yn flaenoriaeth, dylai cyllid ychwanegol mewn termau real ar gyfer portffolio'r amgylchedd fod yn flaenoriaeth.
A gaf i geisio gorffen trwy sôn am dreth incwm? Nid yw'n mynd i gynyddu. Ni wnaeth yr Alban ei gynyddu, er gwaethaf yr holl gyfleoedd a gawson nhw, pryd y gallen nhw ei symud i fyny 3 y cant yn fwy neu'n llai. Byddwn i'n gwarantu, ymhen 10 mlynedd, na fydd neb yn ei newid y naill ffordd na'r llall. Os byddwch chi'n tynnu 1 y cant, byddwch yn colli £200 miliwn, yn fras. Os byddwch chi'n ychwanegu 1 y cant, byddwch yn ennill £200 miliwn, ac ni fydd hyn yn gwneud gwahaniaeth sylweddol, ond bydd yn cythruddo llawer o bobl.
Gall hyn, wrth gwrs, fod yn gyllideb twf untro mewn termau real. Wrth i ni adael yr Undeb Ewropeaidd, byddwn yn darganfod pwy sy'n gywir. A fydd gadael yr Undeb Ewropeaidd yn achosi i'n harian a'n heconomi i dyfu, neu a fydd yn peri iddi grebachu? Byddwn yn darganfod pa un sy'n iawn yr adeg hon y flwyddyn nesaf.
Croesewir y cynnydd yn setliad refeniw llywodraeth leol drafft 2020-21, sy'n bosibl, wrth gwrs, yn sgil rheolaeth economaidd ddarbodus gan Lywodraeth y DU ers 2010, pan oedd diffyg yng nghyllideb y DU y gwaethaf yn y G20, ac y tu ôl i Iwerddon a Gwlad Groeg yn unig yn yr UE. Pe byddai Llywodraeth y DU wedi tyfu'r diffyg mawr a etifeddodd yn hytrach, rhywun arall fyddai wedi bod yn berchen ar economi'r DU a byddai toriadau mwy wedi bod yn ofynnol.
Fis diwethaf, heriais unwaith eto y Gweinidog llywodraeth leol yn y fan yma ynghylch fformiwla cyllido llywodraeth leol Llywodraeth Cymru, gan nodi bod naw o'r 22 awdurdod yng Nghymru wedi cael cynnydd yn y flwyddyn ariannol bresennol, yn ôl y fformiwla hon, gan gynnwys Caerdydd sydd wedi cael cynnydd o 0.9 y cant ac Abertawe gynnydd o 0.5 y cant, ond bod Wrecsam wedi gostwng 0.1 y cant, a Sir y Fflint 0.3 y cant, er bod y boblogaeth yn cynyddu ar raddfa gyfwerth yn y ddau le.
Ynghyd â Sir y Fflint, roedd y cynghorau â'r toriadau mwyaf o 0.3 y cant yn cynnwys Conwy ac Ynys Môn, er bod Conwy ac Ynys Môn ymhlith y pum awdurdod lleol yng Nghymru lle mae 30 y cant neu fwy o weithwyr yn cael llai o dâl na'r cyflog byw gwirfoddol. Lefelau ffyniant y pen yn Ynys Môn yw'r isaf yng Nghymru, ychydig yn llai na hanner y rhai hynny yng Nghaerdydd, ac mae gan gyngor Conwy y gyfran uchaf o bobl dros 65 oed yng Nghymru, sef 25 y cant, o'i gymharu â Chaerdydd sydd â 13 y cant, sef y lleiaf. Mae'n wych bod mwy ohonom ni yn byw yn hwy—rwyf i yn fy 60au—ond mae hyn yn ychwanegu at y pwysau cost yn y siroedd hynny sydd â phoblogaethau uwch o bobl hŷn.
Yn ei hateb, dywedodd y Gweinidog unwaith eto:
Mae'r pot hwnnw yn cael ei rannu drwy brosesau democrataidd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.
Felly, sut y mae'r Gweinidog cyllid yn ymateb i'r datganiad a wnaed gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i Wrexham.com:
Nid yw Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn chwarae rhan wrth benderfynu ar y setliad ac nid oes ganddi fanylion llawn am y setliad na dyraniadau'r awdurdodau tan iddo gael ei gyhoeddi?
Ac ar y gair, mae pedwar o'r—. Mike, ie, wrth gwrs, Mr Hedges.
Dau bwynt sydyn. A wnewch chi gytuno â mi mai'r hyn y dylem ni fod yn ei weld yw Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi'r cyfrifiadau er mwyn i bob un ohonom ni allu gweld sut yr ydych chi'n cyrraedd y rhifau hynny? Pe byddai'r rheini'n cael eu cyhoeddi, byddem wedyn yn gweld pwy oedd yn gywir a phwy oedd yn anghywir.
Yr ail bwynt yr hoffwn i ei wneud, ac rwy'n gobeithio eich bod yn cytuno â mi, yw bod y swm o arian y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi—. Y 'grant cynnal ardrethi' y'i gelwid gynt, sef yr arian a oedd yn cael ei roi i gefnogi awdurdodau lleol ar ôl rhoi ystyriaeth i'w hardrethi. A gwyddom fod gan Drefynwy fand cyfartalog—eiddo band canolrifol yn Nhrefynwy yw band D, ac ym Mlaenau Gwent, band A ydyw.
Rwyf erioed wedi bod o'r farn, mewn gwirionedd, bod Llywodraeth Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi bod yn berffaith fodlon i rannu'r briffiau hynny ar y cyfrifiadau hynny. Nid y ffordd y gwneir y cyfrifiadau yw'r broblem graidd, oherwydd fy mod i'n derbyn eu bod yn cael eu gwneud yn gywir; y fformiwla yw'r broblem, sydd erbyn hyn yn bron i ddau ddegawd oed ac mae angen ei hadolygu.
Ac ar y gair, mae pedwar o'r pum awdurdod i weld y cynnydd mwyaf yn 2020-21 yn gynghorau Llafur yn y de. Mae Bro Morgannwg, a oedd gynt yn cael ei redeg gan y Ceidwadwyr, wedi mynd o ostyngiad o 0.1 y cant eleni i un o'r codiadau uchaf, sef 4.9 y cant, nawr mai Llafur sydd â'r awenau. Fodd bynnag, pedwar o'r pum awdurdod isaf o ran cynnydd mewn cyllid yw unwaith eto yr un awdurdodau yn y gogledd.
O'i gymharu â'r cynnydd mwyaf o 5.4 y cant yng Nghasnewydd sy'n cael ei redeg gan Llafur, mae Conwy yn yr unfed safle ar hugain o 22, gyda chynnydd o 3.4 y cant; Wrecsam, yw'r ugeinfed, gyda 3.5 y cant; Y Fflint, yn bedwaredd ar bymtheg, gyda 3.7 y cant; ac Ynys Môn, deunawfed, gyda 3.8 y cant; tra bo Sir Fynwy dan arweiniad y Ceidwadwyr ar y gwaelod unwaith eto, gyda chynnydd o 3 y cant. Bydd yr ystumio sylweddol hwn ar y cyllid yn anfanteisiol i'r cynghorau a gaiff eu hariannu waethaf wrth geisio mynd i'r afael â'r pwysau cyllid a nodwyd gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn ddiweddar. Felly, sut y mae'r Gweinidog yn ymateb i'r llythyr a anfonwyd ati ym mis Hydref gan Gyngor Sir y Fflint, a lofnodwyd gan ei arweinydd ac arweinwyr yr holl grwpiau, a oedd yn dweud:
Mae Sir y Fflint wedi ymgysylltu â Llywodraeth Cymru i gyflwyno ein hachos dros gyfres o flynyddoedd o bennu cyllidebau. Rydym yn dal i ddadlau ein bod ni, yn gyngor â chyllid isel y pen yn unol â'r Fformiwla Ariannu Llywodraeth Leol, yn fwy agored na'r rhan fwyaf, gan ychwanegu:
Byddem yn croesawu trafodaeth breifat gyda chi ynghylch ein hachos dros gymorth.
Sut y mae'r Gweinidog yn ymateb i'r datganiad gan arweinydd Sir Fynwy:
Rwy'n siomedig gyda'r setliad hwn. Rhoddodd Llywodraeth y DU ddigon o adnoddau i Lywodraeth Cymru i wneud yn llawer gwell na hyn ac mae wedi siomi llywodraeth leol yng Nghymru unwaith eto. Hefyd, dywedodd, unwaith eto gwelwn ystumio enfawr ar yr arian y mae rhai cynghorau yn ei gael o'u cymharu ag eraill. Mae gwahaniaeth o rhwng 3% a 5.4% yn afresymol yn yr oes sydd ohoni. Mae angen gwneud rhywbeth i fynd i'r afael â'r amrywiad hwn?
Sut y mae'r Gweinidog yn ymateb i'r datganiad gan arweinydd cyngor Conwy:
Rwyf i'n siomedig unwaith eto nad yw Conwy a Gogledd Cymru yn cael eu cyfran deg o gyllid?
Sut y mae hi'n ymateb i'r etholwr a ysgrifennodd yn gofyn sut y gellir cyfiawnhau rhoi'r cynnydd trydydd lleiaf yng Nghymru i Wrecsam pan fo gan Wrecsam:
dair o'r pedair ward sydd â'r cyfraddau tlodi uchaf yng Nghymru?
Sut y mae hi'n ymateb i'r datganiad gan arweinydd Wrecsam:
Rwy'n gandryll ynghylch y setliad gan Lywodraeth Cymru, mae'n warth y ffordd y mae Wrecsam yn cael ei drin yn cael dim ond briwsion o'r bwrdd unwaith eto?
Ac, yn olaf, a fydd maniffesto Llafur Cymru ar gyfer 2021 yn cynnwys yr ymrwymiad a fydd ym maniffesto Ceidwadwyr Cymru i gynnal adolygiad annibynnol o'r fformiwla ariannu llywodraeth leol er mwyn sicrhau y darperir setliad teg i bob awdurdod lleol sy'n darparu'r adnoddau cynaliadwy sydd eu hangen arnynt o'r pot sydd ar gael?
Fel yr Aelod sydd yn arwain ar lywodraeth leol dros Blaid Cymru, dwi'n falch iawn i allu cymryd rhan yn y drafodaeth yma y prynhawn yma.
Dŷn ni i gyd yn ymwybodol o'r pwysau sydd ar wasanaethau llywodraeth leol a'r pwysau ariannol cynyddol. Roedd rheini'n amlwg yn ôl yn y dyddiau hynny pan oeddwn i arfer bod yn gynghorydd sir yn Ninas a Sir Abertawe, a gwaethygu mae'r pwysau a thynhau mae'r cyllidebau ers y dyddiau hynny pan oeddwn i'n gynghorydd sir. Nawr, mae'n wir i ddweud bod mwy o arian i'w gael i lywodraeth leol yn y gyllideb ddrafft yma, ond eto dim digon i ymateb i'r galwadau cynyddol am wasanaethau llywodraeth leol, fel y mae Rhun a Helen eisoes wedi ei olrhain. Mae cymaint o sôn am wasanaethau ataliol, ac yn llywodraeth leol mae nifer ohonyn nhw yn bodoli, megis iechyd amgylcheddol, tai, addysg ac, wrth gwrs, gofal cymdeithasol.
Ddoe, fel rydym ni wedi clywed eisoes, fe glywsom ni am heriau'r gwasanaeth iechyd yn Hywel Dda, gyda phwysau’r gaeaf yn golygu canslo mesurau nad oedd yn argyfwng. Ac, yn wir, gaeaf ar ôl gaeaf, os nad blwyddyn ar ôl blwyddyn, mae canran helaeth o gleifion ar wardiau ein hysbytai acíwt ni ddim ond yna yn aros am drefniant gofal cymdeithasol. Maent yn iach i adael yr ysbyty, ond eto, nid ydynt yn gallu gadael. Chwe chan punt y dydd yw’r gost i fod mewn gwely mewn ysbyty. Chwe chan punt yr wythnos ydy’r gost i fod mewn cartref preswyl. Pan mae yn agos i hanner y cleifion ar ambell ward heddiw—. Ar ambell ward yng Nghymru heddiw mae yn agos i hanner y cleifion yn iach i adael yr ysbyty yna yn feddygol. Mae’r sefyllfa yna’n warthus. Mae angen camau breision nawr i newid hyn—step change nawr. Mae’r bobl yma yn ein hysbytai ni; dylan nhw ddim bod yna. Dylai’r drefniadaeth fod ar waith. Mae angen cymryd y camau breision hynny nawr.
Hynny, yn ogystal â diffyg gwlâu a diffyg staff, ydy’r problemau oesol sydd yn dal yn heriau. Fel y mae eraill wedi dweud, rydym ni wedi bod yn ymdrin ac rydym ni wedi bod yn trafod blwyddyn ar ôl blwyddyn. Mae angen camu i fyny i’r bwlch a gweithredu, fel dywedodd Helen Mary Jones. Felly, o feddwl am yr holl arian sydd yn mynd i mewn i ofal cymdeithasol ar hyn o bryd, ond mewn i system sydd yn ffaelu ac sydd yn rhanedig, gyda phobl, gyda chleifion yn dal i ddioddef ac yn marw cyn amser, system gofal sydd yn ddrud ac yn gymhleth, gyda staff gofal ar gytundebau tymor byr a zero hours a dim hyfforddiant ac yn y blaen—rydym ni i gyd yn gwybod—onid yw hi’n amser i gael cynllun radical newydd a chael gwasanaeth gofal cymdeithasol i Gymru wedi ei hariannu o drethiant cyffredinol yn union fel ein gwasanaeth iechyd gwladol ni ac yn cyd-weithio mewn partneriaeth wedi ei hariannu allan o drethiant cyffredinol, gwasanaeth gofal cenedlaethol i Gymru yn union fel ein gwasanaeth iechyd cenedlaethol ni? Diolch yn fawr.
Fel eraill yn y ddadl hon y prynhawn yma, rwyf i'n dymuno croesawu'r gyllideb a'r ymrwymiad sy'n rhedeg drwy'r gyllideb i ddarparu'r cyllid sydd ar gael i wasanaethau cyhoeddus. Hoffwn i'n arbennig groesawu'r £8 miliwn o gyllid ychwanegol ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol. Mae'n rhywbeth yr wyf i wedi sôn amdano ar sawl achlysur. Nid yw'r £20 miliwn y gwnaethom ei ddyrannu i anghenion dysgu ychwanegol wrth gyflawni'r agenda ddiwygio, yr agenda drawsnewidiol, yn ddigonol ar hyn o bryd, o ystyried yr amser a gymerir i gyflawni'r diwygiad hwn. Felly, mae'n iawn ac yn briodol bod arian yn cael ei ddarparu ar gyfer addysg anghenion dysgu ychwanegol ac mae'n iawn ac yn briodol bod yr arian hwnnw'n cael ei glustnodi ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol. Ac rwy'n croesawu hynny'n fawr iawn.
Rwyf hefyd yn croesawu'r gefnogaeth fwy cyffredinol i gyllid ar gyfer addysg. Cawsom ddadl ragorol, yn fy marn i, yn y fan yma rai wythnosau yn ôl, rai misoedd yn ôl, ar sut yr ydym yn ariannu ein hysgolion ac rwy'n falch bod y Llywodraeth a'r Gweinidog wedi sicrhau bod cymorth ychwanegol ar gyfer addysg yn rhan o'r gyllideb hon.
Rwyf hefyd yn croesawu'r cyllid ar gyfer polisi hinsawdd. Rydym ni wedi gweld yn ddramatig ac yn drasig yn ddiweddar effaith yr hinsawdd ar bobl a'n planed. Rwy'n credu ei bod yn iawn ac yn briodol ein bod ni yn sicrhau ein bod yn darparu ar gyfer polisi hinsawdd yn y gyllideb.
A gaf i ddweud, rwy'n gresynu yn fawr iawn tôn ymyriadau'r Ceidwadwyr yn y ddadl hon ar gyllid ar gyfer llywodraeth leol? Mae'n iawn ac yn briodol ein bod yn dadlau ac yn trafod cyllid ar gyfer llywodraeth leol ac mae'n iawn ac yn briodol i ni gael dadl ynghylch pa un a yw'r fformiwla yn ddigonol ac yn darparu'r cyllid sydd ei angen mewn gwirionedd. Mae'n iawn ac yn briodol ein bod yn cael y ddadl honno. Ond yng nghyfraniad agoriadol y Ceidwadwyr ac yn yr un mwy diweddar, roedd cyhuddiad neu awgrym bod cyllid wedi'i drefnu rywsut i fynd i un rhan o'r wlad yn hytrach na rhan arall o'r wlad, bod pobl yn y gogledd yn cael eu gosod yn erbyn pobl yn y de neu ryw fan arall. Rwyf i'n gresynu hynny yn fawr iawn.
Rwy'n credu, os ystyriwch chi'r setliadau cyllid cyfartalog dros yr 20 mlynedd diwethaf, bod y dystiolaeth yn eithaf clir o ran pa ardaloedd sy'n dueddol o gael mwy o gynnydd neu lai o ostyngiad yn y grant cynnal refeniw o'u cymharu â'r rhai hynny nad ydynt. Llywodraeth Cymru sydd i egluro hyn, ond a fyddech chi'n cytuno â mi mai un peth y mae angen i ni geisio ei gyflwyno, er mwyn cael hyder yn fformiwla ariannu llywodraeth leol, yw y dylai Llywodraeth Cymru ddechrau comisiwn annibynnol er mwyn edrych ar y fformiwla hon i gael pethau'n iawn ac yn addas ar gyfer y dyfodol?
Rwyf i wedi clywed Aelodau Ceidwadol yma dros y blynyddoedd yn gwneud y pwynt hwn a chynghorwyr Ceidwadol yn dweud wrthym ni am beidio â'i gyffwrdd—[Torri ar draws.] Mae'r pwynt sylfaenol—[Torri ar draws.] Mae'r pwynt sylfaenol yr wyf i'n ei wneud, fodd bynnag, yn un gwahanol—hynny yw, y ffordd ddinistriol y lluniwyd y ddadl. Mae'n fater o ogledd yn erbyn de, dwyrain yn erbyn gorllewin, gwledig yn erbyn trefol. Roedd Blaenau Gwent yn ddeunawfed, rwy'n credu, yn yr ystod bresennol o gyllid. Nid yw erioed wedi bod yn gyntaf, nid yw erioed wedi bod ar y brig, ond nid wyf i erioed wedi gwneud honiad o'r math sydd wedi'i wneud o feinciau'r Ceidwadwyr y prynhawn yma, a byddwn i'n gwahodd Aelodau Ceidwadol i ailystyried eu tôn a'u hagwedd at y ddadl honno.
A gaf i hefyd ddweud fy mod yn gresynu nad yw'r Llywodraeth yn dod o hyd i'r arian i gefnogi'r cymhorthdal bysiau yn parhau ar y lefelau presennol? Clywsom ni yn y Pwyllgor Cyllid y bydd gostyngiad yn y cymhorthdal sydd ar gael i ddarparu ar gyfer gwasanaethau bysiau. Dywedaf i'n dawel fach wrth y Gweinidog Cyllid ei bod yn ddigon hawdd darparu bysiau trydan i rai ohonom ni, ond os nad oes gennym ni unrhyw fysiau o gwbl, a dweud y gwir, nid yw hynny'n fawr o ymrwymiad. Felly mae angen i ni weld—. Ac os yw'r Llywodraeth yn gallu edrych ar y gyllideb yn ystod y broses hon, ac sicrhau bod cynnydd yn y cymhorthdal sydd ar gael ar gyfer gwasanaethau bysiau, byddwn i'n gwerthfawrogi hynny'n fawr.
Ond y pwynt sylfaenol yr wyf i eisiau ei wneud, yn hytrach nag edrych ar linellau'r gyllideb yn unig, yw hyn: rydym ni wedi gweld yn y fan hon nad yw holl eiriau Theresa May wedi'u gwireddu—bod cyni wedi dod i ben—ond rydym ni wedi gweld y cyfyngiadau ariannol yn llacio ac rydym ni wedi gweld arian ychwanegol ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus. Rwy'n gresynu nad ydym ni hefyd yn gweld y diwygio radical ar wasanaethau cyhoeddus i sicrhau bod yr arian hwnnw'n cael ei wario'n dda. Nid oedd y ddadl a gawsom ni ynghylch ariannu addysg yn ymwneud â maint y cyllid yn unig, ond yn hytrach cymhlethdod strwythur y cyllid hwnnw wrth adael y lle hwn a chyrraedd yr ystafell ddosbarth. Nid oes unrhyw ddiben o gwbl mewn cynyddu maint y cyllid sydd ar gael os yw'r system yn parhau i fod mor gymhleth fel ei bod yn sicrhau nad yw athrawon ac eraill yn gallu cael gafael ar y swm hwnnw o gyllid. Felly mae angen i ni nid yn unig gynyddu'r cyllid sydd ar gael yn y dull traddodiadol, hen ffasiwn, mae angen i ni hefyd ddiwygio'r ffordd yr ydym ni'n gweithredu ein gwasanaethau cyhoeddus, ac mae hyn yn bwysicach heddiw nag y bu yn y gorffennol, oherwydd pan ddarllenwch chi ddogfennau'r gyllideb, boed yn adroddiad y prif economegydd, dadansoddiad y Swyddfa dros Gyfrifoldeb am y Gyllideb, neu hyd yn oed adroddiad polisi treth Llywodraeth Cymru ei hun, y gair sy'n eich taro chi dro ar ôl tro yw 'ansicrwydd'—ansicrwydd ynghylch refeniw treth, ansicrwydd am y sylfaen drethi, ansicrwydd ynghylch lefelau ariannu yn y dyfodol, ansicrwydd ynglŷn â pherfformiad economaidd yn y dyfodol, ansicrwydd ynghylch ein gallu i ddarparu'r cyllid sydd ei angen a chodi'r cyllid y mae eu hangen arnom ni.
Mewn sefyllfa lle mae gennych chi ansicrwydd ynghylch y dyfodol, lle mae gennych chi adnoddau, fy marn i yw y dylai'r Llywodraeth fod wedi bod yn llawer iawn mwy radical yn yr hyn y mae'n ei gynhyrchu heddiw. Dull y Ceidwadwyr oedd cynyddu'r holl gyllidebau gan radd deg yn unig, ac mae pob un ohonom ni'n croesawu hynny yn y tymor byr, ond byddai'r gyllideb radical wedi bod yn gyllideb ar gyfer diwygio, cyllideb a fyddai wedi sicrhau nad yw ein gwasanaethau cyhoeddus ond yn derbyn yr arian yn y mae ei angen arnyn nhw i oroesi'r flwyddyn nesaf ac eleni, ond eu bod mewn cyflwr da i oroesi yn yr hirdymor. Rwy'n cytuno yn fawr iawn â'r pwynt a wnaeth Huw Irranca yn gynharach yn y ddadl hon am y wasgfa y mae llywodraeth leol yn ei hwynebu, ond os ydym ni'n parhau i ariannu'r gwasanaeth iechyd ar y lefelau presennol, fel y mae pob un ohonom ni yn ymrwymo ar bob ochr i'r Siambr hon i'w wneud, yna bydd pob gwasanaeth arall yn dioddef o ganlyniad i'r penderfyniad unigol hwnnw.
Bydd angen i chi ddod â'ch cyfraniad i ben nawr.
A gwnaf i hynny, Llywydd. Yr ydych chi'n garedig iawn ac yn cydymdeimlo'n fawr â mi, yr wyf i'n cytuno.
Paid â fy ngwthio fi. [Chwerthin.]
Gofynnaf i fod y Llywodraeth, wrth gloi, nid yn unig yn cyflawni'r lefelau cyllido, ond yn cyflwyno'r diwygiad radical y dylai Llywodraeth Lafur fod yn ei wneud i sicrhau bod gennym ni wasanaethau cyhoeddus sy'n addas ar gyfer y dyfodol.
Mae hon wedi bod yn ddadl ddiddorol iawn. Rwy'n gobeithio bod y Gweinidog yn gwrando ar hyn ac o gofio ei bod yn ddadl ar ddatganiad ac rydym ni i gyd yn edrych ymlaen at glywed rhai atebion i gwestiynau yn eich ymateb i'r ddadl hon.
Ac rwy'n meddwl mai'r cyntaf o'r cwestiynau hynny yr wyf yn mynd i ddwyn oddi ar Helen Mary, yw 'sut?' Ac, yn anffodus, mae Alun Davies wedi achub y blaen arnaf i oherwydd yr wyf eisiau sôn am ariannu ysgolion, oherwydd yr wyf i eisiau gwybod sut yr ydych yn bwriadu gweld bod unrhyw gynnydd yn y gyllideb yn cyrraedd ysgol yng Nghymru, rhywbeth sydd, mewn gwirionedd, angen sylw ar unwaith eleni ac ni all fforddio aros am ganlyniadau adolygiad Sibieta. Oherwydd yn ystod y degawd diwethaf—a gallwn ni ddadlau ynglŷn â'r symiau ar hyn—mae Cymru wedi gweld degawd hir o wario is fesul disgybl nag yn Lloegr. Mae wedi cael effeithiau.
Rydym ni yn y sefyllfa hon ar hyn o bryd lle mae gennym ni nifer is o athrawon yn gobeithio hyfforddi yma yng Nghymru. Rydym ni wedi gweld mwy o ostyngiad yn niferoedd yr athrawon nag yn rhannau eraill o'r DU, ac ni welaf i ddim byd yn y gyllideb hon ynglŷn â sut i ddenu athrawon ychwanegol. Mae yna arian yno; rydym ni'n sôn am Datblygiad Proffesiynol Parhaus a sut i gael athrawon presennol yn barod ar gyfer y cwricwlwm newydd, ond nid yw'n dweud unrhyw beth am sut yr ydym yn mynd i gynyddu nifer yr athrawon, nid yw'n dweud unrhyw beth am sut i wella adnoddau addysgu. Roedd diffyg y rheini wedi'i nodi yn sylwadau PISA—mae'n ddrwg gennyf, adroddiad y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd ar PISA. Fe wnaeth bwynt bod problem yng Nghymru ynghylch adnoddau addysgu, ac ni welais i unrhyw beth ychwaith, er yn amlwg y gallwn i fod wedi'i golli, ynghylch y modd y mae ysgolion nad ydyn nhw'n ceisio cyllid ysgolion yr unfed ganrif ar hugain ar gyfer ysgol newydd sbon, sut ar y ddaear y maen nhw'n yn mynd i allu fforddio parhau i gynnal y gwaith cynnal a chadw o ddydd i ddydd ar yr ysgolion sydd ganddyn nhw pan fo hynny'n un o brif ffynonellau eu cwynion. Ac mae'n mynd yn ôl at bwynt a wnaeth Mike Hedges yn gynharach ynghylch atal. O, rydych chi'n ceisio cymryd—
Mae gen i ymyriad cyflym. Wrth gwrs, fe wyddoch chi am yr arian y mae awdurdodau lleol yn ei ddal, mae rhywfaint o hwnnw ar gyfer peth o'r gwaith atgyweirio mawr hyn. Os byddaf i'n sôn am ysgol Plasmarl yn eich rhanbarth chi a fy etholaeth i, maen nhw wedi cael to newydd, ac maen nhw wedi cael ail-wifro trydanol llawn. Felly, dyna sut y mae'r arian sy'n cael ei ddal yn ganolog yn cael ei ddefnyddio, yn rhannol, a dyna'r yr ydych chi newydd ofyn amdano.
Ond, wrth gwrs, nid oes gan bob cyngor yr arian hwnnw, hyd at y swm hwnnw, wedi'i ddal yn ganolog. Rwy'n falch iawn dros ysgol Plasmarl, mewn gwirionedd, ac fe wna i ddod at yr asesiadau wedi'i seilio ar ddangosyddion yma mewn munud. Oherwydd y pwynt a wnaeth argraff arnaf i yn eich sylwadau cynharach oedd hwnnw yn ymwneud ag atal. Ac, wrth gwrs, nid yw ysgolion yn ymwneud ag addysg academaidd yn unig; maen nhw'n adeiladwyr cymunedol. I mi, maen nhw'n un o'r gwasanaethau ataliol mawr, ac fel y soniodd Mike ei hun yn y fan yna, os ydym ni yn addysgu ein plant mewn ffordd y byddem ni i gyd yn awyddus i'w gweld, rwy'n credu, y dylen nhw ddod yn beiriannau i'n heconomi hefyd.
Fel yr ydym wedi'i glywed, mae ysgrifennydd addysg y DU wedi ymrwymo y £14 biliwn hyn ar gyfer ysgolion yn Lloegr. Mae hynny dros gyfnod o amser, a bydd cyllid canlyniadol o £2.4 biliwn i'w wario fel y dymunwch maes o law, Trefnydd. Mae hynny ar ben, wrth gwrs, y £135 miliwn o gyllid canlyniadol ar gyfer addysg o adolygiad gwariant eleni, eto i'w wario fel y dymunwch. Ac rwy'n gwahaniaethu rhwng y cyllidebau addysg a chyllid ysgolion, oherwydd y byddwch chi'n dweud, ac rwy'n siŵr y byddwch chi'n dweud wrthyf i, fod y gyllideb addysg wedi'i diogelu, bod mwy o arian wedi mynd i mewn iddi, a byddwn i y cyntaf i gydnabod a chroesawu'r arian ychwanegol sy'n mynd i mewn i'r terfynau gwariant adrannol hynny, ond mae hynny'n wahanol iawn i ddweud bod cyllidebau ysgolion yn cael eu gwarchod. Maen nhw'n dod, fel y gwyddom ni, o lywodraeth leol. Cafodd llywodraeth leol gynnydd eleni hefyd, ond fel y crybwyllodd Huw Irranca Davies yn gynharach, maen nhw wedi cael cyfnod anodd yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf, ac oherwydd aneglurder y fformiwlâu cyllido ar gyfer ysgolion, y cyfeiriodd Alun Davies atyn nhw, mae hi wedi bod bron yn amhosibl deall sut y gellir atgyweirio hyn yn gyflym iawn.
Rwy'n credu bod yn rhaid i ni i gyd gydnabod hefyd, eleni, yn fwy nag unrhyw flwyddyn, ein bod ni wedi gweld cynghorau, athrawon, arweinwyr ysgolion ac ati, yn siarad mewn niferoedd, ac ag un llais mewn ffordd nad ydym ni wedi'i chlywed o'r blaen. Mae angen yr arian arnyn nhw, ac er bod y ffigurau ar gyfer Asesiad wedi'i Seilio ar Ddangosyddion yr ysgol a ddefnyddiwyd eleni wedi cynyddu, ac rwy'n mynd i groesawu hynny mewn egwyddor, rydym ni i gyd yn gwybod mai dangosyddion yn unig yw'r rheini. Nid oes unrhyw reidrwydd ar awdurdodau lleol i wario'r arian hwnnw ar roi'r arian hwnnw'n uniongyrchol i ysgolion, o gwbl. Ac i ddwyn eich trosiad chi, Huw Irranca Davies, nid yw rhai ysgolion yn cael y cyfle i ddechrau troi tapiau ymlaen, ac mae dal angen mynd i'r afael â hynny eto.
Felly, os ydym ni'n mynd i fod yn sôn am rywbeth radical yma, os ydych chi'n gwrthwynebu cyllido ysgolion yn uniongyrchol, Trefnydd, sut y bydd y gyllideb hon yn gwarantu twf ystyrlon mewn cyllid craidd ysgolion, a mewn gwirionedd, nid lleiaf ar gyfer plant sydd ag anghenion dysgu ychwanegol, gan fod yr arian a oedd yn dod eich ffordd chi yn £35 miliwn ar gyfer hynny, ac nid yw £8 miliwn i £9 miliwn yn adlewyrchiad teg o'r arian yr ydych chi'n ei gael ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol?
Rwyf i eisiau gorffen yn gyflym iawn, iawn a chodi rhywbeth a gafodd ei grybwyll gan Rhun: setliad gwastad iawn, os mynnwch chi, ar gyfer y Gymraeg, a rhai sylwadau amwys iawn y tu ôl i hynny. Byddwn i'n falch iawn o wybod a fydd arian ychwanegol ar gael ar gyfer Cymraeg i Oedolion eleni ac a yw'r arian ychwanegol ar gyfer prentisiaethau, sydd i'w groesawu, yn cynnwys gwaith y Coleg Cymraeg Cenedlaethol mewn prentisiaethau, neu a yw hwnnw o gyllideb wahanol. Ac—nid wyf yn mynd i gael amser i gael ateb priodol ar hyn, rwy'n gwybod—beth yn union fydd cyllideb y comisiynydd, yn enwedig gan ei bod yn ymddangos bod gofynion ei swydd yn mynd i fod yn dra gwahanol i'r hyn a oedd ganddo o'r blaen? Diolch.
Dwi'n cyfrannu i'r ddadl yma, wrth gwrs, yn fy rôl fel llefarydd fy mhlaid ar yr amgylchedd. Ac fel mae ambell un eisoes wedi ei awgrymu, mae yna deimlad o fusnes fel arfer yn perthyn i'r gyllideb yma. Ac mae hynny'n siomedig, yn enwedig yn sgil datgan argyfwng hinsawdd. Fel rŷn ni wedi ei glywed, byddech chi'n disgwyl y byddai yna drawsnewidiad yn y ffordd y mae'r Llywodraeth yn defnyddio'i chyllideb i fynd i'r afael â'r argyfwng hynny. Ond, byddwch yn onest, pe baech chi'n edrych ar y gyllideb yma a'i chymharu hi â chyllideb y llynedd, ydych chi yn gweld newid sylfaenol, newid go iawn? Oes yna rywbeth yn y gyllideb ddrafft yma sy'n rhoi signal clir bod yna shifft sylfaenol tuag at daclo yr argyfwng hinsawdd wedi digwydd ym mlaenoriaethau y Llywodraeth? Ac os na allwch chi weld gwahaniaeth sylfaenol, yna mae e yn dwyn i gwestiwn, yn fy marn i, hygrededd y datganiad o argyfwng hinsawdd hwnnw, ac, yn wir, pa mor o ddifrif y mae'r Llywodraeth yma i daclo'r her fwyaf sy'n wynebu dynoliaeth heddiw.
Nawr wrth gwrs mae yna ambell i eitem o wariant unigol i'w groesawu, a fyddwn i ddim yn peidio â chroesawu unrhyw arian ychwanegol, ond wrth gwrs dyw e ddim i'r graddau y byddwn i wedi ei obeithio. Mae'r £140 miliwn yma o wariant cyfalaf tuag at ddadgarboneiddio wedi cael ei gyfeirio ato fe—nid yr unig un, wrth gwrs, mae yna rai eraill. Mae £140 miliwn i'w groesawu, wrth gwrs, ond gadewch i ni ein hatgoffa ein hunain bod y Llywodraeth yma wedi gwario £100 miliwn ar baratoadau ar gyfer ffordd lliniaru'r M4 na fydd byth yn digwydd. Mae hynny'n rhoi'r swm yna yn ei gyd-destun, yn fy marn i.
Nawr, mi gyhoeddodd Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru gynllun 10 pwynt y llynedd i amlygu lle roedd angen blaenoriaethu gwariant. Ac roedd hi'n sôn am drafnidiaeth, retroffitio tai, defnydd tir, ynni adnewyddadwy. Mae gennym ni sector ynni hydro sy'n dal i aros i glywed gan y Llywodraeth a fydd yna rhyddhad treth yn parhau yn y flwyddyn ariannol nesaf, er wrth gwrs eu bod nhw wedi ei gwneud hi'n glir y byddai hynny yn golygu, heb y newid yna, y byddai llawer iawn o fusnesau hydro yn anghynaliadwy. Nawr, mae'r comisiynydd safonau, Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol—mae yna ormod o gomisiynwyr yn y byd yma, dwi'n meddwl—wedi amlinellu, o safbwynt retroffitio, £5 biliwn dros 15 mlynedd ar gyfer hynny. Nawr, mae hynny'n swm uchel iawn; dros 15 mlynedd, wrth gwrs, mae e'n dipyn mwy fforddiadwy. Ond nid dim ond stryd un ffordd yw'r gwariant yna, wrth gwrs, oherwydd mae e'n wariant i arbed yn y pen draw, mae e'n wariant i greu twf. Rŷn ni'n gweld sut y byddai, yn ôl y comisiynydd, GVA economaidd Cymru yn cynyddu o £2.2 biliwn o wneud y buddsoddiad yna. Mi fyddai'n arbed £350 y flwyddyn i fil y teulu cyffredin. Mi fyddai hefyd yn arbed bron i £70 miliwn bob blwyddyn i'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru, oherwydd byddai'n help i ni fynd i'r afael â rhai o'r problemau iechyd sy'n wynebu ein pobl ni. Ac wrth gwrs, dŷn ni'n sôn felly am yr economaidd, yr amgylcheddol, a'r cymdeithasol, a dyna ni'r greal sanctaidd o safbwynt Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Ond bedair blynedd ar ôl pasio y Ddeddf yna, dŷn ni'n dal i aros i weld y shifft yna yn digwydd yn y modd y mae Llywodraeth Cymru yn creu ac yn blaenoriaethu ei chyllideb.
Nawr, fel Aelod dros y gogledd hefyd, roeddwn i'n gweld bod yna, yn naratif y gyllideb, gyfeiriad at £200 miliwn cyfalaf ar gyfer metro de a metro gogledd Cymru. Ond dwi'n gweld wedyn wrth gwrs mai £20 miliwn o hwnnw—prin 10 y cant o hwnnw—sydd yn dod i'r gogledd. Mi fydd y Llywodraeth, dwi'n tybio—yn sicr ar ôl yr etholiad cyffredinol—yn ymwybodol bod yna ddisgwyliad gan etholwyr y gogledd i gael y buddsoddiad a'r swyddi y maen nhw'n eu haeddu, nid o reidrwydd y buddsoddiad y maen nhw wedi ei gael yn y gorffennol. A byddwn i'n galw ar y Llywodraeth i graffu'n ofalus ar ei chyllideb yn y cyd-destun hwnnw hefyd, er mwyn sicrhau tegwch o safbwynt buddsoddiad ar draws Cymru.
Ac fe wnaf gau, os caf i—fel eraill, roeddwn i'n siomedig â rhai o'r sylwadau agoriadol o gyfraniadau'r Ceidwadwyr i'r ddadl hon. Rydych chi'n fwy na pharod i godi yma heddiw a chymryd y clod am unrhyw gynnydd mewn cyllidebau; wrth gwrs, ni chawsom na siw na miw gennych chi pan oedd angen cymryd y bai am doriadau. Rydych chi'n ddigon haerllug i ddweud wrthym ni yma, yn y Siambr hon, nad ydym ni erioed wedi bod mewn sefyllfa gystal. Dydw i ddim yn cofio i chi ddod yma ddwy neu dair blynedd yn ôl, nac yn wir yn ystod unrhyw un o'r 10 mlynedd diwethaf o Lywodraeth Geidwadol y DU, yn dweud wrthym ni nad ydym ni erioed wedi bod mewn sefyllfa waeth.
Rwy'n ddiolchgar i chi am dderbyn ymyriad. A wnewch chi achub ar y cyfle—
Wel, rwyf i wedi gorffen.
Mae hynny'n fwy nag ymgais i dderbyn ymyriad—
Wel, roedd hynny'n angharedig iawn ohonoch chi.
Na, nid oedd yn angharedig. Roedd Llyr Gruffydd wedi bod yn gryno yn ei gyfraniad, ac rwyf yn arbennig o ddiolchgar am hynny. Mae gennym ni dri siaradwr arall a byddaf i'n eich galw chi i gyd, ac rwy'n annog pob un ohonoch chi i fod mor gryno â Llyr Gruffydd. Joyce Watson.
Byddaf i'n gryno, a byddaf i'n parhau ar yr un trywydd. Rwyf i eisiau croesawu dau faes penodol a gaiff effaith sylweddol ar fywydau menywod. Oherwydd gwyddom ni dros y blynyddoedd, gyda chyni 10 mlynedd y Torïaid—. Ac rwyf yn gwrthod ei alw'n 'gyni': roedd yn ddewis gwleidyddol i beidio â buddsoddi ym mywydau pobl. Dyna beth ydoedd. Gadewch i ni ddweud yn onest beth yr oedd. Felly, am y 10 mlynedd hynny, dioddefodd menywod yn sylweddol o ganlyniad i'r dewis hwnnw.
Un o'r meysydd yr ydym ni'n buddsoddi ynddo, gan wella bywydau menywod, yw'r £3.1 miliwn tuag at urddas mislif ar gyfer cynnyrch mislif am ddim mewn ysgolion ac addysg bellach, a fydd yn caniatáu i 140,000 o ddisgyblion a 53,000 o fyfyrwyr i gael cynhyrchion am ddim. Mae hyn yn amhosibl ei ddychmygu, bod yn rhaid i ni fuddsoddi arian y Llywodraeth, ac rydym ni'n gwneud hynny o wirfodd, ac rwyf eisiau gwneud hynny'n glir, oherwydd methiant yn y system sydd wedi'i gweithredu—y system fudd-daliadau'n bennaf—gan Lywodraeth y DU ac mae hynny dal i fod. Felly, rwy'n gobeithio y byddwch chi'n ymddiheuro am hynny.
Maes arall yr ydym ni'n buddsoddi ynddo hefyd, sy'n mynd i wneud gwahaniaeth enfawr i fywydau menywod, yw'r cynnig o £40 miliwn ar gyfer gofal plant i Gymru. Dyma'r gorau yn y DU. Gwn i fod rhai pobl eraill yn ofalwyr, a gwn i fod yna ofalwyr gwrywaidd hefyd, ond mae 30 awr o addysg gynnar neu ofal plant ar gyfer plant rhieni sy'n gweithio yn helpu'r rhieni hynny i ddychwelyd i'r gwaith.
Gwn i y byddai rhai pobl yn hoffi gweld gwelliannau yn hynny o beth—byddem ni i gyd yn dymuno hynny. Ond gadewch i ni fod yn glir: fe wnaethom ni ddewis, gyda'r arian cyfyngedig a oedd gennym ni, fuddsoddi yn hynny i sicrhau bod rhieni yn gallu achub ar y cyfle i ddychwelyd i'r gwaith fel y byddai, pe baent yn defnyddio 20 awr o ofal plant am ddim, £90 ar gael iddyn nhw, yn eu pocedi, i wario ar eu haelwydydd fel y gallen nhw o leiaf geisio negyddu rhai o'r toriadau a orfodwyd ar yr aelwydydd hynny gan y 10 mlynedd o'r dewis gwleidyddol i beidio â buddsoddi yn eu teuluoedd.
Felly, fy nghwestiwn i i'r Gweinidog yw hyn: a allwch chi ein sicrhau y byddwn ni'n cadw'r cynnig gofal plant gorau yn y DU, y byddwn ni'n ariannu hynny oherwydd dyma'r llwybr gorau? Pan fydd rhieni'n gweithio, dyma'r llwybr gorau sydd gan y plant i sicrhau eu bod yn gallu dod allan o dlodi.
Hoffwn i ofyn dau gwestiwn penodol iawn i'r Gweinidog—cwestiynau yr wyf i wedi'u gofyn droeon yn y Siambr hon, ac rwyf i hyd yn oed wedi gorfod troi at Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 er mwyn ceisio cael atebion i'r cwestiynau hyn, a hynny'n ofer o hyd. Nid wyf i wedi cael atebion eto. Ond yr hyn yr wyf i wedi'i ofyn droeon yn y gorffennol yw: faint sydd wedi'i glustnodi ar gyfer gwelliannau a chreu swyddi a datblygu economaidd yn y Cymoedd yn rhan o Dasglu'r Cymoedd?
Rwyf i hefyd wedi gofyn yn benodol faint a pha fath o fuddsoddiad y gallwn ni ddisgwyl ei weld yn y Rhondda, uwchben yr hyn yr ydych chi eisoes yn ei fuddsoddi ym mhobman mewn bysiau, mewn cartrefi gwag ac yn y blaen. Mae atebion blaenorol wedi sôn am wariant sydd wedi'i gynllunio ar gyfer rhannau eraill o Rondda Cynon Taf, ond nid y Rhondda. Felly, mae fy nghwestiynau'n glir ac yn benodol a buaswn i'n ddiolchgar iawn pe bawn i'n gallu cael atebion clir a phenodol y tro hwn. Faint o arian newydd y mae Tasglu'r Cymoedd yn ei gael, a faint o arian newydd y mae'r Rhondda—nid Pontypridd, nid Llantrisant, nid Aberdâr, nid Aberpennar, nid Blaenau Gwent hyd yn oed—ond faint o arian y gallwn ni ddisgwyl i gael ei fuddsoddi yn y Rhondda yn rhan o waith tasglu'r Cymoedd o'r gyllideb hon, a beth y gallwn ni ddisgwyl ei weld o ganlyniad?
Credaf fod llawer i'w groesawu yng nghyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ac rwy'n cymeradwyo'r Gweinidogion am eu hymrwymiad i fuddsoddi yn y gwasanaethau cyhoeddus yr ydym ni'n dibynnu arnyn nhw, ac yn wir yn nyfodol ein cenedl, ac mae hynny, wrth gwrs, er gwaethaf, fel y mae Aelodau eraill wedi cyfeirio ato, y ffaith bod cyllideb Cymru yn dal i deimlo canlyniadau, yn fawr iawn, effaith degawd o fesurau cyni diangen San Steffan sydd wedi eu seilio ar ideoleg.
Hoffwn sôn am un agwedd ar y gyllideb y gwn y bydd croeso iddi ar y stryd fawr ac mewn trefi a phentrefi yng Nghwm Cynon, sef yr ymrwymiad i ymestyn cynllun gwella strydoedd mawr a rhyddhad ardrethi manwerthu Llywodraeth Cymru am flwyddyn arall. Mae'r cymorth hwn i fanwerthwyr yng Nghymru sydd â gwerth ardrethol hyd at £50,000 yn fantais wirioneddol i'r busnesau bach sydd yn asgwrn cefn i'r economi leol yn fy etholaeth i, ac rwy'n siŵr bod hynny'n wir mewn etholaethau eraill ar hyd a lled Cymru. Siopau ac unedau manwerthu yw'r rhain, ond hefyd y caffis, tafarndai a'r bwytai sy'n arwain at amgylchedd canol tref ffyniannus a'r teimlad cymunedol go iawn hwnnw hefyd. Gwyddom fod yr ymyrraeth hon, gyda chefnogaeth arian ychwanegol, yn golygu y bydd dros 1,500 o fusnesau bach a chanolig eu maint yn 2020-1 yn cael cymorth tuag at eu hardrethi. Ac yn bwysig, rwy'n credu, i fusnesau â gwerth ardrethol o hyd at £9,100, mae'n golygu y bydd eu biliau ardrethi'n cael eu gostwng i sero ar gyfer eiddo manwerthu. Bydd gwerthoedd uwch yn cael cymorth hanfodol o hyd at £2,500, ac mae hynny, wrth gwrs, yn ychwanegol at gynllun rhyddhad ardrethi parhaol Llywodraeth Cymru ar gyfer busnesau bach.
Yn yr un modd, rwy'n credu bod y rhyddhad ardrethi dewisol ychwanegol a ddyrennir i awdurdodau lleol i ymdrin ag anghenion lleol penodol yn bwysig iawn, ac mae'n dangos ymrwymiad Llywodraeth Cymru i rymuso llywodraeth leol hefyd. Croesawaf gyhoeddiad y Gweinidog y bydd hi'n dyblu'r arian a ddyrennir i'r elfen hon o'r pecyn.
Rwy'n credu ei bod hefyd yn bwysig cofio, ar y cyd, fod polisi Llywodraeth Cymru yn golygu bod cyfran uwch o fusnesau bach a chanolig yn cael cymorth nag yn Lloegr na'r Alban. Yng Nghymru ar hyn o bryd mae'r cynllun yn cefnogi bron i 70 y cant o fusnesau bach yma, ac rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth y dylem ni fod yn falch iawn ohono. Dim ond 38 y cant yw'r ffigurau cymharol ar gyfer Lloegr, a 45 y cant ar gyfer yr Alban. Gyda'i gilydd, beth mae hyn yn ei ddangos i mi yw bod gennym Lywodraeth Cymru sydd ar ochr busnesau bach yng Nghymru ac mae'n ategu Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Lluosydd) (Cymru) 2019 cyn y Nadolig. Rwy'n falch o gefnogi cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru heddiw, ac rwy'n canmol y Gweinidog Cyllid am yr hyn yr wyf yn credu yw ei chyllideb ddrafft gyntaf.
Y Gweinidog Cyllid i ymateb i'r ddadl—Rebecca Evans.
Diolch, Llywydd. Rwy'n croesawu'r ddadl yr ydym ni wedi'i chael y prynhawn yma a'r rhan fwyaf o'r sylwadau a'r safbwyntiau yr ydym wedi'u clywed gan fy nghyd-aelodau. Ac fel yr amlinellais yn fy natganiad agoriadol, mae hon yn gyllideb sy'n digwydd mewn cyfnod o ansicrwydd ac amgylchiadau sy'n esblygu, ac mae hefyd yn gyllideb a osodwyd yng nghysgod hir degawd o gyni a orfodwyd gan Lywodraeth y DU ac er gwaethaf yr honiadau nid yw'r cyni hwnnw wedi dod i ben hyd yn hyn. Ac mae hefyd yn gyllideb a bennwyd heb unrhyw eglurder ynghlych ein hymadawiad o'r Undeb Ewropeaidd na darlun clir ar y rhagolygon ar gyfer gwariant cyhoeddus y tu hwnt i'r flwyddyn nesaf. A bydd angen inni hefyd, yn amlwg, reoli canlyniadau cyllideb y DU ar ôl i ni gwblhau ein cynlluniau gwariant ar gyfer 2020-1. Dyma, mewn gwirionedd, yw'r cefndir heriol i'r ddadl a gawsom heddiw.
Gallaf dawelu meddwl Suzy Davies fy mod bob amser yn gwrando'n astud ar bob cyfraniad yn ystod fy nadleuon, a cheisiaf ymateb i gynifer o'r pwyntiau a godwyd y prynhawn yma, ond, wrth gwrs, mae pob un o'm cyd-Aelodau yn edrych ymlaen at fynychu eu pwyllgorau pwnc ar gyfer craffu yr wythnos hon a'r wythnos nesaf, a bydd cyfleoedd i ystyried mewn rhagor o fanylder rai o'r materion hyn hefyd.
Fel Llyr Gruffydd, cefais fy synnu bod Darren Millar yn dweud wrthym ein bod mewn sefyllfa well nag erioed. Hoffwn weld Darren Millar yn dweud hynny wrth y bobl sy'n dod i fy nghymhorthfa i yn gwbl anghenus ac yn anobeithio, o dan lawer o straen ac yn pryderu am y sefyllfaoedd y maen nhw'n eu hwynebu. Mae pobl yn dioddef o ganlyniad i gyni a diwygio lles. Dywedwch hynny wrth bobl sy'n ymweld â banciau bwyd. Dywedwch hynny wrth bobl sy'n gweithio yn yr economi gig sydd â chytundebau dim oriau, heb wybod pa fath o sicrwydd y gallant gynllunio ar ei sail.
Mae'r Gweinidog yn fy ngwahodd i fynd gyda hi i'w hetholaeth; byddwn i wrth fy modd pe byddai hi'n ymweld â fy etholaeth i i gwrdd â chleifion sydd wedi bod yn aros 12 awr a mwy i gael eu gweld mewn adrannau achosion brys, unigolion sydd wedi bod yn aros am ddwy flynedd i gael eu llawdriniaeth ar y glun, y pen-glin a'r ysgwydd, ac i weld y nifer fawr o bobl mewn ysgolion sy'n poeni am lefel y gwahaniaeth rhwng cyllido ysgolion yng Nghymru—yng Nghonwy ac yn Sir Ddinbych—o'i gymharu â chyllid ysgolion dros y ffin yn Lloegr. Byddwn i wrth fy modd pe byddech chi'n dod i egluro wrthyn nhw pam mae pethau mor ddrwg yma yng Nghymru o gymharu â thros y ffin.
A dof at faterion iechyd ac addysg wrth i mi symud drwy fy ymateb i'r ddadl, ond fe ddechreuaf drwy ddweud bod Llywodraeth Cymru yn awyddus iawn i wneud yr hyn y gallwn ni i gadw arian ym mhocedi pobl. Mae rhai o'r camau yr ydym ni'n eu cymryd ar draws y Llywodraeth i sicrhau ein bod yn mynd i'r afael â thlodi yn golygu mewn gwirionedd y gallai pobl mewn rhai amgylchiadau fod â £2,000 yn fwy yn eu pocedi yn sgil y penderfyniadau y mae Llywodraeth Cymru yn eu gwneud i'w cefnogi. Mae enghreifftiau yn y gyllideb ddrafft yn cynnwys £8.4 miliwn ar gyfer mynediad i'r grant amddifadedd disgyblion, a'r arian hwnnw ar gyfer teuluoedd i helpu i brynu gwisg ysgol a chitiau chwaraeon, offer ar gyfer tripiau y tu allan i oriau ysgol, ac offer ar gyfer gweithgareddau allgyrsiol hefyd, ac yn y gyllideb rydym yn darparu £3.2 miliwn ychwanegol i ymestyn y cynllun ymhellach i fwy o grwpiau blwyddyn o ganlyniad i lwyddiant y cynllun hwnnw hyd yn hyn. Mae £7 miliwn ar gyfer prydau ysgol am ddim yn y gyllideb ddrafft, £2.7 miliwn ar gyfer y rhaglen cyfoethogi gwyliau ysgol, cyfleoedd i blant rhwng 7 ac 11 oed i fod yn fwy egnïol, bwyta'n iach, datblygu cyfeillgarwch, gan hefyd elwa i'r eithaf ar gyfleusterau ysgolion lleol mewn ardaloedd difreintiedig yn ystod gwyliau'r haf. Caiff £1.8 miliwn ychwanegol ei ddyrannu yn y gyllideb ddrafft hon er mwyn gallu ymestyn y rhaglen hon i hyd at 7,600 o blant eraill, gyda £1.1 miliwn ar gyfer y cynllun peilot Gwaith Chwarae Newyn Gwyliau, gan ddarparu estyniad i'r gwaith yr ydym ni'n ei wneud ar y mater pwysig hwn. Cyfeiriodd Joyce Watson at y cyllid pwysig o £3.1 miliwn ar gyfer urddas mislif; mae £200,000 arall ar gyfer y cynllun tlodi mislif hefyd. Mae hefyd y gwaith yr ydym ni'n ei wneud i gynorthwyo pobl i gael hyfforddiant a chyflogaeth. Cyfeiriodd Joyce Watson hefyd at y ffaith bod gennym y cynnig gofal plant mwyaf hael yma yng Nghymru, a £60 miliwn yn y gyllideb ddrafft ar gyfer hynny, sydd yn gynnydd o £20 miliwn ar gyllid y cynllun hwn y llynedd. Ac rydym wedi rhoi sicrwydd i awdurdodau lleol, pe bai'r galw hyd yn oed yn fwy na hynny, y byddwn yn ceisio ariannu unrhyw alw ychwanegol fel nad oes angen i awdurdodau lleol boeni am hynny.
A wnaiff y Gweinidog ildio? A gaf i nodi ar hynny, pan fyddwch yn ystyried elfen ddynol y stori honno—rwy'n siarad ag etholwyr mewn teuluoedd sy'n gweithio am gyflog isel iawn sydd, waeth beth fo'r feirniadaeth ynghylch faint ymhellach y gallem ni fynd â'r cynnig gofal plant, yn dweud wrthyf eu bod £200 neu £250 yr wythnos yn well eu byd oherwydd nad ydyn nhw'n talu am ofal plant mwyach ac maen nhw wedi gallu cymryd mwy o sifftiau yn eu gwaith a dod â mwy o arian i'r cartref. Nid oes gennym reolaeth dros les, ond mae'r pethau y gallwn ni eu gwneud yn gwneud gwahaniaeth sylweddol. Y perygl, fodd bynnag—a tybed a fyddai hi'n cytuno â mi ar hyn—yw fod pethau ychydig fel pan gyflwynom ni'r lwfans tanwydd gaeaf i bensiynwyr. Mae'n digwydd nawr, mae'n cyrraedd yn y siec, mae pobl yn dweud, 'O, rydym ni bob amser wedi cael hynny', ond mae'r pethau hyn ond ganddyn nhw oherwydd bod Llywodraeth Lafur yma neu yn San Steffan.
Mae hynny'n hollol gywir. Mae'r holl bethau hyn yr ydym ni'n eu gwneud i sicrhau bod pobl yn cadw arian yn eu pocedi yn ddewisiadau gwleidyddol yr ydym ni wedi'u gwneud ynglŷn â'r ffordd yr ydym ni'n gwario ein cyllideb, a'r math o gyllidebau drafft yr ydym ni'n eu cyflwyno gerbron y Cynulliad hwn o flwyddyn i flwyddyn. Felly, enghreifftiau eraill fyddai'r lwfans cynhaliaeth addysg—£30 yr wythnos i bobl ifanc 16 i 18 mlwydd oed sy'n byw mewn cartrefi incwm isel. Clywaf Rhianon yn dweud 'ni fyddech chi'n cael hynny yn Lloegr', ac mae hi yn llygad ei le. Mae £4.4 miliwn ar gael ar gyfer grant Llywodraeth Cymru ar gyfer addysg bellach, felly mae hynny hyd at £1,500 ar gyfer cwrs amser llawn, neu £750 ar gyfer cwrs rhan-amser ar gyfer myfyrwyr 19 oed neu'n hŷn, eto o'r cartrefi incwm isel hynny. A gallwn i fynd ymlaen ac ymlaen, gan gynnwys pethau fel y £244 miliwn yr ydym yn ei fuddsoddi yng nghynllun gostyngiadau'r dreth gyngor. Y gronfa cymorth dewisol—£12.6 miliwn, sy'n rhoi cymorth ariannol brys i bobl sy'n wirioneddol yn eu cael eu hunain yn anghenus, er mwyn gallu prynu bwyd, talu am eu nwy a'u trydan a phrynu eitemau hanfodol eraill ar gyfer y cartref. Unwaith eto, rydym ni o hyd yn edrych i weld beth y gallwn ni ei wneud i gryfhau'r gronfa benodol honno, oherwydd rydym ni'n gwybod pa mor bwysig yw hi i bobl sydd, yn ôl pob tebyg, mewn sefyllfa well nag erioed.
Felly, ar draws Llywodraeth Cymru, gallwn ni weld bod tua £1 biliwn o arian yn mynd yn uniongyrchol i gynlluniau gwrthdlodi ar draws bob portffolio, a chredaf fod hynny'n rhywbeth y dylem ni i gyd fod yn falch iawn ohono, gan ei fod yn gwahaniaethu hon fel cyllideb Llywodraeth Lafur o'i gymharu ag eraill.
Bu cwestiynau ynghylch yr hyn y disgwyliwn ei gyflawni o'n cyllid ychwanegol gan y GIG. Wel, wrth gwrs, rydym ni'n parhau i ddisgwyl i GIG Cymru wneud cynnydd o ran lleihau amseroedd aros, a sicrhau bod y pwyslais ar y bobl hynny sy'n aros yr amser hiraf ar hyn o bryd. Rwy'n gwybod bod disgwyl i sefydliadau'r GIG gyflwyno eu cynlluniau cyllideb ar gyfer 2020-1 ddiwedd mis Ionawr, ac rydym yn gobeithio bydd y cynlluniau hynny yn cyflawni gwelliannau perfformiad ar gyfer cleifion y flwyddyn nesaf. A gwn fod y Gweinidog iechyd yn edrych ymlaen at archwilio'r cynlluniau hynny, ac yna bydd yn penderfynnu cymeradwyo neu beidio â chymeradwyo'r cynlluniau hynny.
Mae rhai o'r pethau penodol y gallwch chi eu gweld yn ein cyllideb ddrafft heddiw yn y maes iechyd yn cynnwys buddsoddiad gan GIG Cymru yn y prif rwydwaith trawma ar gyfer de Cymru, gorllewin Cymru a de Powys. A nod y rhwydwaith trawma mawr hwnnw yw gwella canlyniadau a phrofiadau cleifion ar draws llwybr cyfan y claf o'r adeg y caiff ei glwyfo i pan gaiff ei wella, a bydd y rhwydwaith hwnnw'n gwella canlyniadau i gleifion drwy achub bywydau ac atal anabledd y gellir ei osgoi, dychwelyd mwy o gleifion i'w teuluoedd, i'r gwaith ac i addysg.
Rydym ni hefyd yn buddsoddi mewn triniaethau newydd, ac mae £16 miliwn y flwyddyn yn cael ei ddyrannu i fyrddau iechyd i gefnogi ein hymrwymiad i fuddsoddi £80 miliwn dros gyfnod y weinyddiaeth hon, gan ostwng yr amser y mae pobl yn aros am y triniaethau hynny o 90 diwrnod i lawr i 10 diwrnod, ac rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth y dylem ni fod yn falch iawn ohono.
Rydym ni hefyd yn buddsoddi mewn meddygaeth fanwl, drwy genomeg a therapïau celloedd a genynnau, a bydd y dull hwn o ddiagnosio a thrin yn golygu y bydd cleifion yn gallu cael diagnosis a thriniaethau mwy personol, gyda chanlyniadau llawer gwell. Ac, eto, roedd cwestiwn am ofal sylfaenol, a byddwn yn parhau i fuddsoddi mewn gofal sylfaenol, gan ychwanegu £10 miliwn i gyllid y clwstwr gofal sylfaenol yn y flwyddyn ariannol nesaf, a bydd hynny'n canolbwyntio ar weithredu'r model gofal sylfaenol ar gyfer Cymru a chydweithio drwy'r clystyrau gofal sylfaenol hynny.
Yn 2019-20, cyhoeddwyd cynnydd o £25 miliwn yn y contract gwasanaethau meddygol cyffredinol, gan ei gynyddu i fwy na £536 miliwn. Yn ogystal, mae'r gronfa datblygu gofal sylfaenol o dros £40 miliwn yn cefnogi'r gweithlu gofal sylfaenol a gweithio mewn clystyrau. Ac, wrth gwrs, mae pwyslais cryf iawn ar atal ac ymyrraeth gynnar yn ein cynlluniau gwario drafft, ac mae rhywfaint o'r gwariant newydd yn cynnwys y £5.5 miliwn i gefnogi'r strategaeth 'Pwysau Iach: Cymru Iach'. Ac mae hefyd nifer o fuddsoddiadau cyfalaf gwirioneddol bwysig. Felly, rydym ni'n buddsoddi dros £374 miliwn yn y seilwaith gofal iechyd yng Nghymru yn 2021, a bydd rhywfaint o hynny'n cefnogi prosiectau mawr iawn. Er enghraifft, y camau adeiladu olaf yn ysbyty'r Grange yng Nghwmbrân, a'r cam nesaf o adnewyddu Ysbyty'r Tywysog Siarl ym Merthyr, a chredaf bod hwn yn gyfnod cyffrous i'r GIG yng Nghymru.
Codwyd cwestiynau ynglŷn â'r setliad llywodraeth leol a sut yr ydym yn pennu'r symiau o arian y mae awdurdodau lleol yn eu derbyn. Rwy'n credu bod unrhyw awgrym bod unrhyw beth rhagfarnllyd am y penderfyniadau sy'n cael eu gwneud drwy'r fformiwla yn gwbl gywilyddus. Nid oes unrhyw dystiolaeth o gwbl bod unrhyw awdurdodau, unrhyw awdurdodau gwledig neu fathau eraill o awdurdodau, yn cael eu rhoi dan anfantais drwy'r fformiwla ariannu llywodraeth leol. Caiff y cyllid refeniw craidd a ddarparwn i awdurdodau lleol bob blwyddyn ei ddosbarthu yn ôl fformiwla angen gymharol, ac mae hynny'n ystyried ystod o wybodaeth am nodweddion demograffig, ffisegol, economaidd a chymdeithasol awdurdodau. Ond mae'n ffaith bod y dyraniadau i awdurdodau'r gogledd eleni, yn gyffredinol, yn is na chyfartaledd Cymru, ac mae hynny o ganlyniad i'r newid cymharol is yn y boblogaeth a niferoedd y disgyblion o'i gymharu â gweddill Cymru yn ei chfanrwydd. Nawr, mae hynny'n nodwedd o'r fformiwla ariannu, ac mae'r fformiwla ariannu honno wedi'i datblygu drwy ymgynghori â llywodraeth leol drwy'r is-grŵp dosbarthu, sef gweithgor technegol y mae ei aelodau'n cynnwys uwch swyddogion llywodraeth leol o bob rhan o Gymru. Mae'n cynnwys Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac arbenigwyr annibynnol, i sicrhau bod y gwahanol ffactorau hynny'n cael eu trin yn deg. Ac yn gynwysedig yn y fformiwla mae nifer o ddangosyddion sy'n cyfrif am raddau amrywiol teneurwydd poblogaeth ar draws awdurdodau, ac maent yn defnyddio ysgolion yn rhan o'r fformiwla. Ac mae'r holl bethau hyn yn cael eu goruchwylio'n agos iawn, iawn gan aelodau annibynnol yr is-grŵp dosbarthu er mwyn sicrhau nad oes unrhyw ragfarn, naill ai o blaid neu yn erbyn buddiannau unrhyw awdurdod penodol.
O ran gwneud yr wybodaeth yn gyhoeddus, mae manylion y fformiwla a'i chymhwysiad yn cael eu nodi yn yr wybodaeth gefndirol ar gyfer yr asesiadau gwariant safonol, ac mae hynny'n cael ei adnabod yn gyffredin fel y Llyfr Gwyrdd. Cyhoeddir y Llyfr Gwyrdd yn flynyddol, ac mae hefyd yn cynnwys y fformiwla a'r cyfrifiadau a ddefnyddir i benderfynu ar yr asesiadau o wariant safonol ar gyfer pob maes gwasanaeth unigol. Caiff ei gyhoeddi yma yng Nghymru ar ôl i'r setliad llywodraeth leol gael ei gyhoeddi, sef y cyhoeddiad terfynol, sydd wedi'i drefnu ar gyfer 25 Chwefror.
Rwy'n mynd i fod yn gyflym iawn, iawn yn awr, Llywydd, wrth fynd i'r afael â rhai o'r materion ynghylch buddsoddi mewn ysgolion. Ac wrth gwrs, rydym ni'n cynyddu ein buddsoddiad i awdurdodau lleol, sef y brif ffordd y mae arian yn cyrraedd ysgolion. Felly, mae £1.8 biliwn yn mynd i addysg ar draws awdurdodau lleol a phrif grwpiau gwariant addysg. Roedd rhai cwestiynau penodol yn ymwneud, er enghraifft, â'r dyraniad tair blynedd o gyllid. Wel, nid ydym ni'n gallu darparu'r dyraniad cyllid tair blynedd; mae ysgolion yn Lloegr wedi gallu cael setliad tair blynedd, ond wrth gwrs dim ond y setliad blwyddyn hwnnw sydd gennym ni, felly ni allwn roi'r tawelwch meddwl a'r sicrwydd yr hoffem ei gael. ADY—yn falch iawn ein bod wedi gallu darparu cyllid ychwanegol o fewn anghenion dysgu ychwanegol, a'r cyllid ar gyfer lleoliadau ôl-arbenigol hefyd. Mae'r ddau wedi cynyddu, ac nid yw'r rhai hynny'n ymwneud â'r rhaglen trawsnewid ADY—mae hynny'n arian ychwanegol, atodol ar ben hynny.
Mae datgarboneiddio wedi bod yn gwbl hanfodol i'n huchelgais eleni. A'r hyn yr wyf wir eisiau ei wneud yn glir yw mai dim ond rhan o'r darlun yw'r £96 miliwn ychwanegol, mewn gwirionedd, yn rhan o'r £140 miliwn hwnnw o wariant cyfalaf. Felly, lle byddwch chi'n gweld y rhan fwyaf o'r pethau cyffrous yn digwydd, o ran datgarboneiddio, maen nhw eisoes yn digwydd mewn portffolios o fewn gweddill y gyllideb. Felly, byddwch chi'n gweld enghreifftiau drwy lefel y grant tai cymdeithasol yr ydym ni'n ei ddarparu. Mae'r holl dai yn awr—tai cymdeithasol i gyd—wedi'u hadeiladu yn ôl safon ansawdd tai Cymru. Mae hynny'n rhan o'n hagenda datgarboneiddio, ond wrth gwrs ni fyddwch yn ei weld yn yr arian ychwanegol. A'r un peth ar gyfer yr holl eitemau yn ein cynllun cyflenwi carbon isel, a'r gwaith y mae Ken Skates yn ei arwain drwy'r cynllun gweithredu economaidd, sy'n ysgogi twf cynaliadwy a mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd. Oherwydd dyna un o'r galwadau am weithredu i fusnesau preifat, ac mae'n rhaid iddynt wneud hynny os ydyn nhw am ddefnyddio'r gronfa dyfodol economaidd. Ac wrth gwrs, mae'n chwarae rhan bwysig yn y cytundeb economaidd hefyd.
Hoffwn dawelu meddyliau yr aelodau nad oes unrhyw doriadau wedi bod yng nghyllidebau'r Gymraeg, a gwn y bydd y Gweinidog yn medru rhoi rhagor o wybodaeth am hynny. Mae'n un o'r sefyllfaoedd hynny lle rydych yn gweld arian yn symud rhwng llinellau yn y gyllideb, ond nid yw hyn yn golygu bod yna doriad, fel pe bai.
Felly, rwy'n credu fy mod eisoes wedi nodi ein hagwedd at drethi yn fy sylwadau agoriadol, ac wrth gwrs, byddwch wedi ei weld yn y dogfennau. Nid oes unrhyw gyfrinachau ar y ffordd, nid oes unrhyw beth yr ydym ni'n ei guddio. fel yr oedd Darren Millar yn ei awgrymu—y gallem ni fod yn cyflwyno trethi newydd o fewn y flwyddyn; nid yw hyn yn mynd i ddigwydd. Felly, er yr holl heriau yr ydym ni wedi'u trafod, rwyf am ail-bwysleisio bod y buddsoddiadau yr ydym ni wedi'u cymryd yn y gyllideb hon, a thros dymor y Llywodraeth hon, wedi gwarchod ein gwasanaethau cyhoeddus gwerthfawr, ac wedi ein helpu i fuddsoddi yn ein meysydd blaenoriaeth, gyda'r bwriad o gefnogi ein huchelgais i greu Cymru sy'n fwy cyfartal, yn fwy llewyrchus ac yn fwy gwyrdd. Diolch.
Diolch i'r Gweinidog.