Part of the debate – Senedd Cymru am 4:24 pm ar 7 Ionawr 2020.
Byddwn, a do, fe ddywedais i'r un peth yn union y llynedd a'r flwyddyn flaenorol. Felly, croeso.
Un enghraifft o sefydliad mawr nad yw'n gweithio'n effeithiol yw gwasanaeth ambiwlans Cymru. Mae angen taer i redeg hwn ar gyfres o olion traed llawer llai.
Mae gennym ni restri aros orthopedig hir, ac mae angen rhoi sylw i'r rhain. Mae gen i rywun sydd wedi bod yn aros rhwng pedair ac wyth mlynedd, yn dibynnu ar ba restr y byddwch yn edrych arni, i gael llawdriniaeth ar ei ysgwydd.