Part of the debate – Senedd Cymru am 4:19 pm ar 7 Ionawr 2020.
Wel, wrth gwrs, dywedodd y Gweinidog iechyd a gwasanaethau cymdeithasol wrthym y byddem yn clywed ganddo am ei gynlluniau hirdymor ar gyfer gofal cymdeithasol yn ôl yn yr hydref. Efallai nad oes gen i afael ar y Gymraeg, ond nid wyf i'n credu bod mis Ionawr yn yr hydref. Ond, yr hyn rwyf yn cytuno ag Angela Burns yn ei gylch—ac rwy'n credu, mae'n debyg, y byddem yn cael cytundeb ar draws y Siambr—yw bod angen i ni ddatrys y broblem hon yn y tymor hir, ac y byddwn yn gwneud hynny orau os gallwn ni siarad â'n gilydd ac, yn bwysig iawn, gwrando ar ein gilydd, gwrando ar y bobl sy'n darparu gwasanaethau, a gwrando ar y teuluoedd y mae eu hangen arnyn nhw.
Ond, wrth gwrs, fel y mae Rhun wedi ei ddweud, o ran atal pobl rhag mynd yn sâl yn y lle cyntaf, nid y gwasanaeth iechyd yw'r lle i wario'r arian, ac mae'n troi'n gylch dieflig. Os nad ydym yn gwario digon ar dai, os nad ydym yn gwario digon ar y darnau cywir o addysg, os na fyddwn yn newid polisi addysg i'w gwneud yn orfodol, fel yr argymhellodd y pwyllgor, i blant ysgolion cynradd, er enghraifft, wneud nifer penodol o oriau o ymarfer corff bob dydd, bob wythnos, byddwn yn parhau i ddod o hyd i bobl sydd â'r problemau diabetes, â'r holl broblemau iechyd eraill. Felly, mae'n rhaid i ni edrych mewn ffordd radical ar y ffordd y caiff ein harian ei wario.
Nawr, nid wyf i'n awgrymu am eiliad, Llywydd, fod hyn yn hawdd. Mae'n un o'r pethau anoddaf yn y byd i wneud i arian ddilyn polisi; mae pawb yn gwybod hynny. Ond, fel y mae Rhun eisoes wedi ei ddweud, mae hwn yn gyfle lle mae rhywfaint o gyfle i anadlu. Pa mor gynaliadwy y bydd y cyfle i anadlu hwnnw, nid ydym yn gwybod eto, ond mae'n wirioneddol siomedig nad ydym ni'n gwybod ar draws portffolios sut y mae blaenoriaethau allweddol yn mynd i gael eu cyflawni.
Hoffwn i ofyn yn benodol i'r Gweinidog heddiw sut y cafodd yr holl bolisïau ar draws yr holl bortffolios eu prawfesur yn unol â'r nodau cynaliadwyedd, nid yn unol â'r hyn rwy'n credu y cyfeiriwyd ato fel 'arweiniad'. Mae hyn yn gyfraith. Dyma'r hyn sydd i fod i lywio pob polisi. Ac rwy'n ceisio peidio â bod yn amheus ynghylch yr hyn a ddylai fod yn ddarn o ddeddfwriaeth arloesol, ond oni bai wrth basio'r ddeddfwriaeth arloesol honno bod y cyllid yn dilyn wedyn, byddwn ni'n mynd i drafferthion.
Pa effaith a gafwyd? Pa asesiad o'r effaith ar hawliau plant a wnaed yn y gyllideb hon ar draws portffolio? Ceir rhywfaint o arian ychwanegol sydd i'w groesawu'n uniongyrchol ar gyfer plant a phobl ifanc, wrth gwrs mae hynny'n newyddion da, ond a ydym ni wedi asesu sut y bydd y gwariant ar ddatblygiad economaidd yn dylanwadu ar blant a phobl ifanc? A ydym ni wedi asesu sut y bydd gwariant ar drafnidiaeth yn dylanwadu ar blant a phobl ifanc ar adeg pryd y gwyddom fod pobl ifanc yn cael trafferth i gael cludiant priodol i'r ysgol yn rhai o'n cymunedau?
Mae hyn yn siomedig. Mae hwn yn gyfle sydd wedi'i golli. Ond, os gwelwch yn dda, gadewch i ni beidio â chael rhagor o'r rhain. Mae gan y Llywodraeth y syniadau cywir weithiau. Mae'n ymddangos mai'r diffyg sydd ganddyn nhw yw'r dewrder i'w rhoi ar waith.