Part of the debate – Senedd Cymru am 6:10 pm ar 7 Ionawr 2020.
Dywedodd y Gweinidog yn y datganiad fod yn rhaid inni, yn y DU, feithrin cydweledigaeth o'r math o economi a'r cysylltiadau masnachu sydd arnom eu heisiau â'r UE yn y dyfodol. Wrth gwrs, rwy'n cymeradwyo'r farn honno, ond nid yw'n dal dŵr mewn gwirionedd gan fod holl iaith y datganiad a'r agweddau y mae'r Gweinidog ei hun, yn benodol, wedi'u coleddu yn y blynyddoedd diwethaf, yn gwrthddweud hyn. Nid yw'n rhannu gweledigaeth Llywodraeth y DU ynglŷn â Brexit o gwbl.
Mewn gwirionedd, mae'r datganiad ei hun a'r hyn a ddywedodd wrth ateb cwestiynau eraill yn gynharach yn cyfeirio at y ffaith ei bod yn dal i ymladd yr un dadleuon a gawsom ni yn ymgyrch y refferendwm a'r etholiad cyffredinol yn 2017 ac, yn wir, hyd yn oed yr etholiad cyffredinol dim ond ychydig wythnosau yn ôl, gan siarad am yr angen am gydymffurfiaeth reoleiddiol. Wel, os ydych chi'n dechrau trafodaethau ar y sail, 'Ydym, rydym yn mynd i ofyn am bopeth sydd gennych eisoes ac nid ydym yn mynd i ildio unrhyw beth', yna mae'n anochel nad ydych yn mynd i ddychwelyd o drafodaethau gyda chanlyniad llwyddiannus. Nid oes unrhyw Lywodraeth sydd gan y Deyrnas Unedig yn mynd i dalu'r sylw lleiaf i Lywodraeth Cymru os yw'n rhygnu ymlaen am y themâu hyn.
Yr un hen gân yw hi. Y cyfan sydd wedi digwydd o ganlyniad i'r etholiad cyffredinol yw eu bod wedi newid y cyweirnod. Fel arall, mae'r dôn yn union yr un fath â'r un y buont yn ei chanu'n aflwyddiannus am y tair blynedd a hanner diwethaf. Byddech yn meddwl y dylai'r Blaid Lafur o'r diwedd fod wedi dysgu rhywbeth o'r chwalfa ddinistriol yn yr etholiad cyffredinol, yn enwedig yng Nghymru, lle mae gan y Ceidwadwyr bellach nifer digyffelyb o seddau yn San Steffan fel cyfran o'r cyfanswm.
Os yw Llywodraeth Cymru wirioneddol eisiau i Lywodraeth y DU ei chymryd o ddifrif, mae'n rhaid iddynt gefnogi'r neges y mae Llywodraeth y DU ei hun yn ei chyflwyno ac ers hynny mae Theresa May, o barchus goffadwriaeth, wedi ymadael â'r sefyllfa. Mae Boris Johnson yn fath gwahanol o arweinydd i Theresa May. Mae'n mynd i gymryd golwg gadarnhaol, optimistaidd ar drafodaethau yn y byd, a bydd, rwy'n ffyddiog, yn llawer mwy caled yn ein trafodaethau gyda Monsieur Barnier. Mae Theresa May wedi methu'n llwyr â chyflawni canlyniad y refferendwm oherwydd mabwysiadodd yr un agwedd rwy'n credu, yn anffodus, â'r un sy'n parhau gan y Gweinidog sy'n gwneud y datganiad hwn heddiw. Dydw i ddim yn credu ei bod hi eisiau cael ei hadnabod yn benodol fel Theresa May gwleidyddiaeth Cymru, ond mae hi mewn perygl, rwy'n credu, o leiaf yn y cyswllt hwn, o ennill y llysenw hwnnw.
Mabwysiadodd Llywodraeth Cymru bolisi ar gyfer y tair blynedd a hanner diwethaf o wrthdaro bwriadol â Llywodraeth y DU. Methodd hynny'n llwyr. Nawr, mae'n bryd nid yn unig troi tudalen lân, ond mewn gwirionedd agor llyfr newydd, os yw Llywodraeth Cymru i gael unrhyw ddylanwad o gwbl ar Lywodraeth y DU, yr hoffwn ei weld, wrth gwrs. Mae buddiannau Cymru ychydig yn wahanol i fuddiannau rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig, yr un fath ag y mae rhai'r Alban ac yr un fath ag y mae buddiannau Gogledd Lloegr ychydig yn wahanol i fuddiannau pawb arall hefyd. Mae economi Cymru'n dangos nodweddion penodol, yn enwedig pwysigrwydd allforion i'r UE yng Nghymru, sy'n fwy o lawer, rwy'n cydnabod, nag yn unman arall yn y Deyrnas Unedig. Ond, pan ddywed yn ei datganiad bod yn rhaid inni beidio â cholli golwg ar fuddiannau defnyddwyr yn ogystal â rhanddeiliaid, rwy'n ei chanmol am hynny oherwydd mae pawb yn ddefnyddiwr yng Nghymru. Mae pawb yn bwyta bwyd, er enghraifft.
Mae amaethyddiaeth yn elfen bwysig mewn unrhyw drafodaethau masnach yn y dyfodol gyda'r UE, ond ni allwn edrych ar hyn o safbwynt grwpiau buddiannau cynhyrchwyr yn unig. Dylem hefyd weld pwysigrwydd negodi er budd defnyddwyr. Yng Nghymru, yn arbennig, gan mai ni yw'r rhan dlotaf o'r Deyrnas Unedig o ran incwm a gwerth ychwanegol gros, lles cyfran fwy o boblogaeth Cymru yw cael bwyd rhad ac, yn wir, popeth rhad o'r negodiadau hyn: agor marchnadoedd, lleihau prisiau, creu economi fwy cystadleuol i weithredu ynddi.
Felly, y meddylfryd sydd ei angen, yn fy marn i, ar Lywodraeth Cymru, fel ar y DU, yw cadernid o ran diben. Na, nid ydym yn mynd i'r trafodaethau fel rhai sy'n erfyn ar yr UE. Mae ganddynt lawer mwy i'w golli nag sydd gennym ni—diffyg o £66 biliwn y flwyddyn gyda'r UE mewn nwyddau yn 2018. Mae gennym ni warged enfawr mewn gwasanaethau gyda'r byd yn gyffredinol. Nid yw hynny'n rhan o'r trafodaethau gyda'r UE. Mae gan yr UE ddiddordeb mewn taro’r fargen orau bosibl y gall ei chael iddi hi ei hun a dylem fod â diddordeb mewn taro’r fargen orau bosibl y gallwn ei chael ar gyfer Prydain. Ond os yw Llywodraeth Cymru yn ystyried ei hun yn rhyw fath o geffyl pren Caerdroea ar gyfer buddiannau'r UE yn y trafodaethau hyn, ni fydd hynny'n tycio dim. Mewn gwirionedd bydd yn dwyn anfri pellach arni ei hun ac yn ymddieithrio ei hun ymhellach o Lywodraeth y DU, a chaiff hynny sgil-effeithiau pellach o ran y berthynas rhwng y Llywodraethau datganoledig a Llywodraeth y DU ar faterion eraill. Felly, rwy'n erfyn ar y Gweinidog, hyd yn oed mor hwyr â hyn yn y dydd, i newid cywair a newid safbwynt gan mai dyna'r ffordd i wneud cynnydd.