Part of the debate – Senedd Cymru am 5:20 pm ar 7 Ionawr 2020.
Felly, sicrhau rôl ystyrlon mewn negodiadau rhyngwladol yw ein prif flaenoriaeth yn yr wythnosau nesaf, wrth i baratoadau ar gyfer negodiadau gynyddu. Er mwyn sicrhau bod llais Cymru i'w chlywed, bydd yn hollbwysig inni gael dulliau cadarn, nid yn unig er mwyn gallu cynrychioli Cymru yn effeithiol, ond ar gyfer unoliaeth y Deyrnas Unedig hefyd.
Rŷm ni'n awyddus i sicrhau rôl glir i Lywodraeth Cymru ym mhob agwedd ar negodiadau masnach y dyfodol. Ein nod ni yw i fod yn bartner adeiladol, a chredwn y bydd safbwynt cyfunol yn y Deyrnas Unedig, sy'n adlewyrchu a pharchu gwahanol flaenoriaethau ar draws pob un o'i gwledydd, yn fanteisiol wrth ymgymryd â negodiadau cymhleth â phartneriaid masnach pwerus.
Gallwch fod yn glir y bydd yr Undeb Ewropeaidd yn ceisio cydbwyso blaenoriaethau pob un o'i 27 aelod-wladwriaeth, gan eu cynnwys wrth osod mandad a llywio negodiadau. Mae hyn yn cyfrannu at yr hyn sy'n eu gwneud yn negodwyr cadarn. Gall y Deyrnas Unedig gydbwyso blaenoriaethau ei phedair gwlad yn gyfartal, a bydd hi hefyd wedyn mewn gwell sefyllfa i negodi o'r herwydd.
Fel y Deyrnas Unedig, mae'n hanfodol ein bod ni'n dysgu gwersi o broses negodi erthygl 50 a sicrhau nad ydym ni'n gwneud yr un camgymeriadau â'r rheini a wnaeth Ysgrifenyddion Gwladol blaenorol. Rwyf am dynnu sylw at ddwy agwedd benodol, ond mae rhagor ohonynt, yn sicr. Y rhain yw: yn gyntaf, yr angen i gael consensws, a'r ail yw bod yn agored am gyfnewidiadau sy'n rhan hanfodol o unrhyw gytundeb masnach.
Yn gyntaf, rhaid inni greu gweledigaeth a rennir ledled y Deyrnas Unedig ynghylch sut economi a chysylltiadau masnach yr ydym eisiau eu gweld yn y dyfodol. Rhaid i'r weledigaeth fod yn seiliedig ar dystiolaeth ac ymgysylltiad â rhanddeiliaid allweddol. Rhaid i holl wledydd y Deyrnas Unedig ddod at ei gilydd i lunio mandadau negodi, a chytuno arnyn nhw. Bydd y mandadau hyn yn cydbwyso buddiannau pob rhan o'r Deyrnas Unedig a phob rhan o'r gymdeithas, nid Lloegr yn unig. Mae craffu a thrafod yn rhan hanfodol o unrhyw ddemocratiaeth, a dylid croesawu hynny fel ffordd o wella polisi masnach a dod at gonsensws trawsbleidiol. Bydd hyn yn atal Llywodraethau dilynol rhag ceisio ailagor neu ail-negodi cytundebau, pan ddaw nhw i rym.
Pan fydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn ailgyflwyno'r Bil masnach, sydd yn delio â chytundebau masnach dyblyg sy'n bodoli eisoes yn yr Undeb Ewropeaidd, byddwn yn rhoi pwysau ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i ddiogelu'r diwygiadau a arweiniodd at gael cydsyniad yn y Senedd yma. Ond, os byddan nhw nawr yn cyflwyno deddfwriaeth a fyddai'n darparu sail ar gyfer negodi cytundebau rhyngwladol newydd, fe fyddwn ni'n mynnu y cawn ni hefyd rôl fel sefydliad datganoledig, a bod hwnna'n cael ei gynnwys yn y ddeddfwriaeth newydd. Yn yr un modd, byddwn hefyd yn ceisio sicrhau cefnogaeth yn Nhŷ'r Arglwyddi i ddiwygio Bil y cytundeb ymadael er mwyn ffurfioli rôl o'r fath yng nghyswllt negodiadau'r Undeb Ewropeaidd.
Rhaid i gonsensws cyffredinol adlewyrchu safbwyntiau busnesau, cymunedau a dinasyddion ledled y Deyrnas Unedig hefyd. Dylem o leiaf fod yn hafal i'r Undeb Ewropeaidd a'r Unol Daleithiau drwy ddangos tryloywder ac annog y ddadl gyhoeddus. Rydym yn barod i weithio mewn ffordd adeiladol gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig er mwyn helpu i ddod i'r consensws yma. Mae hyn yn cynnwys bod yn glir ynghylch sut mae diogelu ein gwasanaeth iechyd gwladol mewn cytundebau masnach.