Part of the debate – Senedd Cymru am 6:32 pm ar 7 Ionawr 2020.
Diolch, Llywydd. Rwy'n falch o gyfrannu at y ddadl heddiw ar ran y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig ac i wneud sylw ar y goblygiadau ariannol, y disgwylir iddynt, fel y dywedodd y Gweinidog, fod yn fach iawn ac yn debygol o fod mor fach fel nad ydynt yn effeithio ar y cynghorau na'r syrcasau eu hunain. Hoffwn ddiolch ar goedd i bawb a roddodd dystiolaeth neu a gyflwynodd eu barn i lywio ein gwaith.
Pan gyfeiriwyd y Bil i'r pwyllgor, credem y byddai hwn yn ddarn syml, didrafferth o waith, ond daeth yn amlwg pan ddechreuwyd cymryd tystiolaeth nad oedd hyn yn wir. Nid oedd hyn oherwydd materion yn ymwneud â'r Bil ei hun. At ei gilydd, mae'n gwneud yr hyn y mae'n bwriadu ei wneud: gwahardd defnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau teithiol. Ond, cododd yr anhawster oherwydd y sail y mae Llywodraeth Cymru'n ei defnyddio i geisio cyflwyno'r gwaharddiad, a'r ffaith ei bod yn ymddangos bod sefyllfa foesegol y Llywodraeth wedi'i chymhwyso'n anghyson. Er bod y pwyllgor yn unfryd ei gefnogaeth i les yr holl anifeiliaid, ni allai ddod i farn unfrydol ynghylch a ddylai'r Bil fynd yn ei flaen. Mae'r rhan fwyaf o aelodau'r pwyllgor yn cefnogi egwyddorion cyffredinol y Bil ac, felly, rydym yn argymell bod y Cynulliad yn cytuno ar yr egwyddorion cyffredinol.
Yn ddiau, mae defnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau teithiol yn fater sy'n ennyn teimladau cryf. Clywsom ddadleuon argyhoeddiadol ar ddwy ochr y ddadl ynglŷn â'r angen, neu fel arall, i wahardd yr arfer. Mae anifeiliaid gwyllt wedi bod yn perfformio mewn syrcasau teithiol ers canrifoedd. Byddai rhai yn dadlau bod yr arfer wedi addasu dros amser i adlewyrchu chwaeth ac agweddau cyfnewidiol cymdeithas tuag at anifeiliaid. Mae'r rhai sy'n ymwneud â'r diwydiant syrcas yn siarad am eu hanifeiliaid fel estyniad o'u teulu, sy'n cael cariad a gofal. Roedden nhw'n awyddus i bwysleisio bod dyddiau'r eirth yn dawnsio wedi hen ddod i ben. Dywedwyd wrthym fod perfformiadau heddiw yn ymwneud â dangos galluoedd unigryw anifeiliaid gwyllt, a'u bod yn enghraifft ardderchog o gydweithredu rhwng pobl ac anifeiliaid.
Mae'r rhai sy'n cynrychioli sefydliadau lles anifeiliaid yn dadlau nad oes posib diwallu anghenion anifeiliaid gwyllt mewn amgylchedd syrcas deithiol. Credant y dylai'r anifeiliaid hyn gael byw eu bywydau mor agos â phosib at anifeiliaid eraill o'r un rhywogaeth â nhw nad ydynt yn gaeth a gyda chyn lleied o ymyrraeth ddynol â phosib. Dywedodd rhai cynrychiolwyr lles anifeiliaid wrthym fod gorfodi anifeiliaid gwyllt i berfformio ar gyfer adloniant yn enghraifft o gamfanteisio ar anifeiliaid ar ei waethaf, a'u bod wedi ymgyrchu ers degawdau am waharddiad.
Mae'n anodd cysoni'r safbwyntiau pegynol hyn. Ond, yr hyn y bu'n rhaid i ni ei wneud wrth ystyried y Bil oedd parhau i ganolbwyntio ar y ffaith bod Llywodraeth Cymru yn ceisio gwaharddiad nid ar sail lles anifeiliaid, ond ar sail foesegol.
Cyn symud ymlaen at y rhesymau moesegol dros waharddiad, hoffwn roi sylw i fater lles anifeiliaid. Er gwaethaf barn sefydliadau lles anifeiliaid, mae'r Gweinidog wedi ei gwneud hi'n glir nad oes tystiolaeth bod anifeiliaid gwyllt a ddefnyddir mewn syrcasau teithiol yn y DU yn cael eu cam-drin, sy'n galonogol. Ar hyn o bryd mae'r syrcasau hyn yn destun yr hyn y mae'r Gweinidog ei hun wedi'u disgrifio fel rheoliadau a gofynion trwyddedu llym iawn. Nid oes dim yn atal Llywodraeth Cymru rhag deddfu i barhau â'r drefn reoleiddio bresennol, ond mae wedi dewis peidio â gwneud hynny. Yn hytrach, mae'n ceisio cael gwaharddiad.
Gwyddom fod yr Alban a Lloegr eisoes wedi deddfu ar gyfer gwaharddiad. Mae'r Gweinidog wedi dadlau bod yn rhaid i Gymru ddilyn eu hesiampl er mwyn osgoi bod yn noddfa i syrcasau teithiol yn y DU sy'n defnyddio anifeiliaid gwyllt. Ond, gadewch i ni beidio â cholli golwg ar raddfa'r mater y mae'r Bil hwn yn ceisio mynd i'r afael ag ef. Ar hyn o bryd, mae dwy syrcas a chyfanswm o 19 o anifeiliaid gwyllt ar daith o amgylch y DU. Mae hyn yn peri i chi ofyn: pam mae Llywodraeth Cymru wedi dewis gwahardd yr arfer penodol hwn ar sail foesegol pan fo amrywiaeth o faterion brys yn ymwneud â lles anifeiliaid y mae taer angen mynd i'r afael â nhw? Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae angen gwaharddiad gan fod defnyddio anifeiliaid gwyllt i berfformio yn anfoesegol. Y broblem i'r Llywodraeth yw'r diffyg tystiolaeth bendant i gefnogi ei safbwynt. Daeth hyn yn rhywbeth y bûm yn edrych arno—anfoesegol neu foesegol—mae'n anodd iawn ei brofi, a barn unigolyn yn aml yw pa un a yw rhywbeth yn foesegol ai peidio.
Bu'n rhaid i'r Llywodraeth ddibynnu'n helaeth ar y galwadau parhaus gan grwpiau lles anifeiliaid ac ar gefnogaeth y cyhoedd i waharddiad fel tystiolaeth fod yr arfer yn anfoesegol a bod angen gwaharddiad. Oes, mae'n rhaid ystyried barn y cyhoedd, ond ni ddylai hyn fod yn brif ffynhonnell tystiolaeth ar gyfer deddfwriaeth. Yr hyn sy'n bwysig, yn achos y Bil hwn, yw nad yw hi'n glir beth yw barn y cyhoedd o ddifrif. A yw eu cefnogaeth i waharddiad yn seiliedig ar ystyriaethau moesegol, neu ar y dybiaeth na chaiff yr anifeiliaid eu trin yn dda, sydd, yn ôl y Gweinidog, yn ddi-sail?
Gan droi at gwmpas y gwaharddiad, dyma lle mae dadleuon moesegol Llywodraeth Cymru yn dod yn arbennig o broblemus. Os yw'n anfoesegol, fel yr awgryma'r Llywodraeth, peri i anifeiliaid gwyllt berfformio ar gyfer adloniant dynol, mae'n dilyn y gall wneud i'r un anifeiliaid berfformio ar gyfer adloniant mewn lleoliadau eraill fod yn anfoesegol hefyd. Ond, mae cwmpas y gwaharddiad yn gyfyngedig i syrcasau teithiol yn unig. Bydd yr un anifeiliaid yn cael perfformio mewn sioeau a digwyddiadau eraill o hyd, cyn belled â'u bod wedi'u trwyddedu o dan gynllun arddangosfeydd anifeiliaid newydd y Llywodraeth. Byddant hefyd yn cael cymryd rhan mewn ffilmiau. Nid yw Llywodraeth Cymru yn gyson wrth weithredu'i safbwynt moesegol. Yn ein hadroddiad, fe wnaethom ni alw ar y Gweinidog i egluro'n well pam nad dyma'r achos.
Llywydd, hoffwn orffen fy nghyfraniad yn yr un lle ag y dechreuais. Nid oedd ystyriaeth y pwyllgor o'r Bil yn orchwyl hawdd. Dyma'r Bil Cynulliad cyntaf i gael ei gyflwyno ar sail foesegol, ac mae wedi codi rhai cwestiynau diddorol am y dull hwn o ddeddfu. Yn y pen draw, mae'r cwestiwn a yw rhywbeth yn foesegol yn fater o farn bersonol, fel gwneud barn foesol. Fel yn achos aelodau'r Pwyllgor, mater i'r Aelodau yn y Siambr heddiw fydd penderfynu ar ba ochr i'r ddadl foesegol y maen nhw. Mae'r pwyllgor, fodd bynnag—er nad yw'n unfrydol—yn argymell bod y Cynulliad yn cytuno ar egwyddorion cyffredinol y Bil, a gobeithiaf y byddwn yn gwneud hynny heddiw.