– Senedd Cymru am 6:25 pm ar 7 Ionawr 2020.
Mae eitem 7 yn ddadl ar egwyddorion cyffredinol y Bil Anifeiliaid Gwyllt a Syrcasau (Cymru). Galwaf ar Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig i gynnig y cynnig—Lesley Griffiths.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Rwy'n falch iawn o agor y ddadl hon ar egwyddorion cyffredinol y Bil Anifeiliaid Gwyllt a Syrcasau (Cymru).
Rwy'n ddiolchgar i Mike Hedges, Llyr Huws Gruffydd, Mick Antoniw a'u pwyllgorau am eu hagwedd drylwyr ac ystyriol at waith craffu Cyfnod 1 ar y Bil hwn. Hoffwn hefyd gydnabod cyfraniad pwysig yr unigolion a'r sefydliadau a lywiodd waith craffu'r pwyllgorau drwy dystiolaeth ysgrifenedig a llafar. Roedd cryfder y teimladau ar y pwnc emosiynol hwn, ar ddwy ochr y ddadl, yn amlwg yn ystod y sesiynau tystiolaeth. Mae'r cyhoedd yng Nghymru a mudiadau'r trydydd sector wedi lobïo'n frwd iawn dros wahardd anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau teithiol. Ni ellir cyfiawnhau defnyddio anifeiliaid gwyllt fel hyn, ar gyfer ein hadloniant ni yn unig. Mae'n hen ffasiwn ac yn anfoesegol.
Nod Bil Anifeiliaid Gwyllt a Syrcasau (Cymru) yw mynd i'r afael â phryderon moesegol drwy wahardd y defnydd o anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau teithiol. Byddai gwaharddiad yng Nghymru yn golygu bod un dull gweithredu cyson ar draws Prydain Fawr. Gwaharddwyd hynny gan Lywodraeth yr Alban yn 2018 a daw gwaharddiad yn Lloegr i rym yn ddiweddarach y mis hwn.
Ymdriniaf yn awr â'r argymhellion a wnaed gan y pwyllgorau yn eu hadroddiadau Cyfnod 1. Mae'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig yn argymell bod y Cynulliad yn cytuno ar egwyddorion cyffredinol y Bil. Rwy'n croesawu'r argymhelliad hwn, ond yn cydnabod nad penderfyniad unfrydol ydoedd.
Yn eu hail argymhelliad, mae'r Pwyllgor yn ceisio mwy o eglurhad ynghylch cwmpas y Bil, ac yn benodol ynghylch tri mater. Y cyntaf yw pam nad yw'r gwaharddiad yn ymestyn i anifeiliaid gwyllt sy'n teithio gyda syrcasau teithiol. Amcan y Bil hwn yw atal y defnydd o anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau teithiol ar sail foesegol. Bydd perchnogion syrcas yn cael cadw eu hanifeiliaid o hyd a byddai eu hatal rhag gwneud hynny yn mynd y tu hwnt i'r amcan hwn.
Yn ail, gofynnodd y pwyllgor pam mae'r ddadl foesegol dros wahardd defnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau sefydlog yn wannach nag ar gyfer syrcasau teithiol. Mae syrcasau yn ôl eu natur yn teithio. Nid oes syrcasau sefydlog yng Nghymru a phe bai endid yn sefydlu ei hun yng Nghymru y gellid ei ystyried yn syrcas sefydlog bydd un ai'n dod o dan ddarpariaethau Deddf Trwyddedu Sŵau 1981 neu'r rheoliadau arddangosfeydd anifeiliaid. Byddai awdurdod lleol yn penderfynu ar y drwydded briodol.
Yn drydydd, gofynnodd y Pwyllgor pam nad yw'r ddadl foesegol dros wahardd defnyddio anifeiliaid gwyllt yr un mor berthnasol i anifeiliaid dof. Nid oes yr un gwrthwynebiad moesegol sylfaenol i'r defnydd o anifeiliaid domestig mewn syrcasau teithiol. Mae llawer o weithgareddau sy'n cynnwys anifeiliaid dof yn teithio i roi perfformiadau sy'n cael eu hystyried yn hollol dderbyniol gan gymdeithas. Er enghraifft, os yw'n dderbyniol i geffylau gael eu defnyddio mewn sioeau neidio ceffylau, byddai'n anodd dadlau na ddylent gyflawni gweithgaredd tebyg mewn syrcas deithiol. Mae'n fwy priodol rheoleiddio'r defnydd o anifeiliaid dof mewn syrcasau teithiol yn hytrach na gwahardd y gweithgaredd hwn. Bydd hyn yn cael ei gyflawni drwy'r rheoliadau arddangosfeydd anifeiliaid yr wyf yn bwriadu eu cyflwyno yn ddiweddarach eleni.
Mae'r pwyllgor yn argymell diwygio'r Bil i gynnwys darpariaeth i Weinidogion Cymru gyhoeddi canllawiau statudol i gefnogi'r broses o roi gwaharddiad ar waith ac i'r canllawiau gynnwys eglurhad ar ystyr 'anifail gwyllt', 'dof' a 'syrcas deithiol', a hefyd eglurhad ynghylch pryd y byddai arddangos anifeiliaid gwyllt yn anffurfiol y tu allan i brif gylch y syrcas yn drosedd. Rwyf eisoes wedi ymrwymo i gynhyrchu canllawiau a byddwn yn ymgynghori â rhanddeiliaid wrth eu llunio. Fodd bynnag, mae'n fwy priodol i'r canllawiau fod yn anstatudol gan na fyddant yn nodi gofynion na rhwymedigaethau ychwanegol. Yn hytrach, byddant yn rhoi eglurder ynghylch sut y bydd y Ddeddf yn gweithio'n ymarferol, ac mae hyn yn gyson â'r dull gweithredu a ddilynir yn yr Alban.
Mae argymhellion terfynol pwyllgor yr amgylchedd yn ymwneud â'r effaith ar y syrcasau a'u hanifeiliaid. Mae'r ddwy syrcas yr effeithir arnynt wedi'u lleoli yn Lloegr. Mae'n debygol bod unrhyw benderfyniad ar ddyfodol eu hanifeiliaid gwyllt wedi'i wneud eisoes, o gofio'r gwaharddiad sydd ar fin dod i rym yn Lloegr. Ni allwn orfodi'r syrcasau i ailgartrefu eu hanifeiliaid neu i beri iddynt ymddeol. Os ydynt yn cadw eu hanifeiliaid, fel y maent wedi awgrymu, gallant beri iddynt ymddeol neu ddewis eu defnyddio mewn ffordd wahanol. Mae hawl ganddynt wneud hynny, cyn belled â'u bod yn gwneud hynny o fewn y gyfraith.
Gwnaeth y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol un argymhelliad. Gofynnodd y pwyllgor am eglurhad o'r diffiniadau o 'anifail gwyllt' a 'syrcas deithiol', ac eglurhad o unrhyw wahaniaethau rhwng y rhai a ddefnyddir yn y Deddfau cyfatebol ar gyfer yr Alban a Lloegr yn unig.
Mae'r Bil yn diffinio 'anifail gwyllt' fel:
'anifail o fath nad yw wedi ei ddomestigeiddio yn gyffredin yn yr Ynysoedd Prydeinig'.
O dan y Bil, byddai anifeiliaid sy'n cael eu hystyried yn ddof yn gyffredinol yn eu gwlad enedigol ond nid yn fath sy'n ddof yn gyffredin yn Ynysoedd Prydain yn 'anifeiliaid gwyllt'. Mae ein diffiniad yn debyg i ddiffiniad Deddf Trwyddedu Sŵau 1981, ac mae'n osgoi'r sefyllfa lle gellid ystyried un rhywogaeth yn wyllt mewn sw ond yn ddof mewn syrcas. Mae'r diffiniad yn debyg i'r un a geir yn Neddfau Lloegr a'r Alban. Ceir rhai mân amrywiadau yn y drafftio, ond nid wyf yn rhagweld y bydd y rhain yn arwain at wahaniaeth yn yr effaith gyffredinol.
Mae 'syrcas deithiol' yn golygu:
'syrcas sy’n teithio o un man i fan arall at ddiben darparu adloniant yn y mannau hynny'.
Mae'r diffiniad yn cydnabod mai syrcas deithiol yw syrcas, er gwaethaf y cyfnodau pan nad yw'n teithio. Mae hyn yn debyg i'r diffiniad yn Neddf yr Alban. Nid yw Deddf Lloegr yn darparu diffiniad o syrcas deithiol. Mae Adran 11 o'r Bil yn rhoi pwerau i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau i egluro'r telerau hyn os oes unrhyw ansicrwydd yn y dyfodol. Mae Deddf yr Alban yn cynnwys pwerau tebyg. Nid yw Deddf Lloegr yn gwneud hynny. Mater i Lywodraeth y DU yw pam y penderfynodd hepgor y rhain.
Hoffwn hefyd gydnabod ystyriaeth y Pwyllgor Cyllid o'r Bil. Mae'r Pwyllgor yn cydnabod bod y goblygiadau ariannol yn gymharol fach. Mae llawer o ansicrwydd ynghylch rhai o'r effeithiau, gan nad yw'r costau'n hysbys. Ychydig o wybodaeth ychwanegol a gafwyd yn ystod yr ymarfer ymgynghori, ond credwn y bydd unrhyw effaith yn gyfyngedig. Llywydd, rwy'n croesawu'r cyfle hwn i drafod y Bil a chlywed barn yr Aelodau.
Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig—Mike Hedges.
Diolch, Llywydd. Rwy'n falch o gyfrannu at y ddadl heddiw ar ran y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig ac i wneud sylw ar y goblygiadau ariannol, y disgwylir iddynt, fel y dywedodd y Gweinidog, fod yn fach iawn ac yn debygol o fod mor fach fel nad ydynt yn effeithio ar y cynghorau na'r syrcasau eu hunain. Hoffwn ddiolch ar goedd i bawb a roddodd dystiolaeth neu a gyflwynodd eu barn i lywio ein gwaith.
Pan gyfeiriwyd y Bil i'r pwyllgor, credem y byddai hwn yn ddarn syml, didrafferth o waith, ond daeth yn amlwg pan ddechreuwyd cymryd tystiolaeth nad oedd hyn yn wir. Nid oedd hyn oherwydd materion yn ymwneud â'r Bil ei hun. At ei gilydd, mae'n gwneud yr hyn y mae'n bwriadu ei wneud: gwahardd defnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau teithiol. Ond, cododd yr anhawster oherwydd y sail y mae Llywodraeth Cymru'n ei defnyddio i geisio cyflwyno'r gwaharddiad, a'r ffaith ei bod yn ymddangos bod sefyllfa foesegol y Llywodraeth wedi'i chymhwyso'n anghyson. Er bod y pwyllgor yn unfryd ei gefnogaeth i les yr holl anifeiliaid, ni allai ddod i farn unfrydol ynghylch a ddylai'r Bil fynd yn ei flaen. Mae'r rhan fwyaf o aelodau'r pwyllgor yn cefnogi egwyddorion cyffredinol y Bil ac, felly, rydym yn argymell bod y Cynulliad yn cytuno ar yr egwyddorion cyffredinol.
Yn ddiau, mae defnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau teithiol yn fater sy'n ennyn teimladau cryf. Clywsom ddadleuon argyhoeddiadol ar ddwy ochr y ddadl ynglŷn â'r angen, neu fel arall, i wahardd yr arfer. Mae anifeiliaid gwyllt wedi bod yn perfformio mewn syrcasau teithiol ers canrifoedd. Byddai rhai yn dadlau bod yr arfer wedi addasu dros amser i adlewyrchu chwaeth ac agweddau cyfnewidiol cymdeithas tuag at anifeiliaid. Mae'r rhai sy'n ymwneud â'r diwydiant syrcas yn siarad am eu hanifeiliaid fel estyniad o'u teulu, sy'n cael cariad a gofal. Roedden nhw'n awyddus i bwysleisio bod dyddiau'r eirth yn dawnsio wedi hen ddod i ben. Dywedwyd wrthym fod perfformiadau heddiw yn ymwneud â dangos galluoedd unigryw anifeiliaid gwyllt, a'u bod yn enghraifft ardderchog o gydweithredu rhwng pobl ac anifeiliaid.
Mae'r rhai sy'n cynrychioli sefydliadau lles anifeiliaid yn dadlau nad oes posib diwallu anghenion anifeiliaid gwyllt mewn amgylchedd syrcas deithiol. Credant y dylai'r anifeiliaid hyn gael byw eu bywydau mor agos â phosib at anifeiliaid eraill o'r un rhywogaeth â nhw nad ydynt yn gaeth a gyda chyn lleied o ymyrraeth ddynol â phosib. Dywedodd rhai cynrychiolwyr lles anifeiliaid wrthym fod gorfodi anifeiliaid gwyllt i berfformio ar gyfer adloniant yn enghraifft o gamfanteisio ar anifeiliaid ar ei waethaf, a'u bod wedi ymgyrchu ers degawdau am waharddiad.
Mae'n anodd cysoni'r safbwyntiau pegynol hyn. Ond, yr hyn y bu'n rhaid i ni ei wneud wrth ystyried y Bil oedd parhau i ganolbwyntio ar y ffaith bod Llywodraeth Cymru yn ceisio gwaharddiad nid ar sail lles anifeiliaid, ond ar sail foesegol.
Cyn symud ymlaen at y rhesymau moesegol dros waharddiad, hoffwn roi sylw i fater lles anifeiliaid. Er gwaethaf barn sefydliadau lles anifeiliaid, mae'r Gweinidog wedi ei gwneud hi'n glir nad oes tystiolaeth bod anifeiliaid gwyllt a ddefnyddir mewn syrcasau teithiol yn y DU yn cael eu cam-drin, sy'n galonogol. Ar hyn o bryd mae'r syrcasau hyn yn destun yr hyn y mae'r Gweinidog ei hun wedi'u disgrifio fel rheoliadau a gofynion trwyddedu llym iawn. Nid oes dim yn atal Llywodraeth Cymru rhag deddfu i barhau â'r drefn reoleiddio bresennol, ond mae wedi dewis peidio â gwneud hynny. Yn hytrach, mae'n ceisio cael gwaharddiad.
Gwyddom fod yr Alban a Lloegr eisoes wedi deddfu ar gyfer gwaharddiad. Mae'r Gweinidog wedi dadlau bod yn rhaid i Gymru ddilyn eu hesiampl er mwyn osgoi bod yn noddfa i syrcasau teithiol yn y DU sy'n defnyddio anifeiliaid gwyllt. Ond, gadewch i ni beidio â cholli golwg ar raddfa'r mater y mae'r Bil hwn yn ceisio mynd i'r afael ag ef. Ar hyn o bryd, mae dwy syrcas a chyfanswm o 19 o anifeiliaid gwyllt ar daith o amgylch y DU. Mae hyn yn peri i chi ofyn: pam mae Llywodraeth Cymru wedi dewis gwahardd yr arfer penodol hwn ar sail foesegol pan fo amrywiaeth o faterion brys yn ymwneud â lles anifeiliaid y mae taer angen mynd i'r afael â nhw? Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae angen gwaharddiad gan fod defnyddio anifeiliaid gwyllt i berfformio yn anfoesegol. Y broblem i'r Llywodraeth yw'r diffyg tystiolaeth bendant i gefnogi ei safbwynt. Daeth hyn yn rhywbeth y bûm yn edrych arno—anfoesegol neu foesegol—mae'n anodd iawn ei brofi, a barn unigolyn yn aml yw pa un a yw rhywbeth yn foesegol ai peidio.
Bu'n rhaid i'r Llywodraeth ddibynnu'n helaeth ar y galwadau parhaus gan grwpiau lles anifeiliaid ac ar gefnogaeth y cyhoedd i waharddiad fel tystiolaeth fod yr arfer yn anfoesegol a bod angen gwaharddiad. Oes, mae'n rhaid ystyried barn y cyhoedd, ond ni ddylai hyn fod yn brif ffynhonnell tystiolaeth ar gyfer deddfwriaeth. Yr hyn sy'n bwysig, yn achos y Bil hwn, yw nad yw hi'n glir beth yw barn y cyhoedd o ddifrif. A yw eu cefnogaeth i waharddiad yn seiliedig ar ystyriaethau moesegol, neu ar y dybiaeth na chaiff yr anifeiliaid eu trin yn dda, sydd, yn ôl y Gweinidog, yn ddi-sail?
Gan droi at gwmpas y gwaharddiad, dyma lle mae dadleuon moesegol Llywodraeth Cymru yn dod yn arbennig o broblemus. Os yw'n anfoesegol, fel yr awgryma'r Llywodraeth, peri i anifeiliaid gwyllt berfformio ar gyfer adloniant dynol, mae'n dilyn y gall wneud i'r un anifeiliaid berfformio ar gyfer adloniant mewn lleoliadau eraill fod yn anfoesegol hefyd. Ond, mae cwmpas y gwaharddiad yn gyfyngedig i syrcasau teithiol yn unig. Bydd yr un anifeiliaid yn cael perfformio mewn sioeau a digwyddiadau eraill o hyd, cyn belled â'u bod wedi'u trwyddedu o dan gynllun arddangosfeydd anifeiliaid newydd y Llywodraeth. Byddant hefyd yn cael cymryd rhan mewn ffilmiau. Nid yw Llywodraeth Cymru yn gyson wrth weithredu'i safbwynt moesegol. Yn ein hadroddiad, fe wnaethom ni alw ar y Gweinidog i egluro'n well pam nad dyma'r achos.
Llywydd, hoffwn orffen fy nghyfraniad yn yr un lle ag y dechreuais. Nid oedd ystyriaeth y pwyllgor o'r Bil yn orchwyl hawdd. Dyma'r Bil Cynulliad cyntaf i gael ei gyflwyno ar sail foesegol, ac mae wedi codi rhai cwestiynau diddorol am y dull hwn o ddeddfu. Yn y pen draw, mae'r cwestiwn a yw rhywbeth yn foesegol yn fater o farn bersonol, fel gwneud barn foesol. Fel yn achos aelodau'r Pwyllgor, mater i'r Aelodau yn y Siambr heddiw fydd penderfynu ar ba ochr i'r ddadl foesegol y maen nhw. Mae'r pwyllgor, fodd bynnag—er nad yw'n unfrydol—yn argymell bod y Cynulliad yn cytuno ar egwyddorion cyffredinol y Bil, a gobeithiaf y byddwn yn gwneud hynny heddiw.
Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, Mick Antoniw.
Diolch, Llywydd. Cyflwynwyd adroddiad ar y Bil hwn ar 4 Rhagfyr a dim ond un argymhelliad a wnaethom ni. Mae'r argymhelliad hwnnw'n ymwneud â'r diffiniadau o 'anifail gwyllt' a 'syrcas deithiol' y darperir ar eu cyfer yn y Bil. Dywedodd y Gweinidog wrthym fod y diffiniad o 'anifail gwyllt' a 'syrcas deithiol' a ddefnyddir yn y Bil yr un fath â'r diffiniadau a ddefnyddir yn y Deddfau cyfatebol yn yr Alban a Lloegr yn unig. Fodd bynnag, fe wnaethom ni sylwi fod y diffiniad o 'anifail gwyllt' yn y Ddeddf Anifeiliaid Gwyllt mewn Syrcasau Teithiol (yr Alban) 2018 yn ymddangos fel pe bai'n rhoi diffiniad mwy manwl a phenodol na'r diffiniad a geir yn y Bil hwn. Nawr, er ein bod yn cydnabod bod y Gweinidog wedi ysgrifennu atom ar 28 Tachwedd i gynnig rhywfaint o eglurhad, daeth y llythyr i law dros bum wythnos ar ôl i'r Gweinidog roi tystiolaeth i ni ac un wythnos yn unig cyn y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad. Nid oedd yn glir i ni pam y cymerodd gymaint o amser ar ôl y sesiwn dystiolaeth i ysgrifennu atom.
O ganlyniad i'r amserlenni hynny, prin oedd y cyfle a gawsom i ystyried goblygiadau tystiolaeth ychwanegol y Gweinidog. Am y rheswm hwnnw, rydym yn argymell y dylai'r Gweinidog ddefnyddio dadl Cyfnod 1 fel cyfle i egluro'r diffiniadau o 'anifail gwyllt' a 'syrcas deithiol' y darperir ar eu cyfer yn y Bil. Fe wnaethom ni hefyd ofyn iddi egluro sut a pham mae'r diffiniadau hyn yn wahanol i'r rhai a ddefnyddir yn y Deddfau cyfatebol ar gyfer yr Alban a Lloegr yn unig. A heddiw, rwy'n croesawu, yn amlwg, sylwadau'r Gweinidog ar y mater hwn a'r eglurhad ychwanegol a ddarparwyd heddiw, yn unol â chais y pwyllgor. Diolch, Llywydd.
Ar ran y Ceidwadwyr Cymreig, a gaf i groesawu dadl heddiw ar egwyddorion cyffredinol y Bil Anifeiliaid Gwyllt a Syrcasau (Cymru)? Galwodd y Ceidwadwyr Cymreig, wrth gwrs, am y tro cyntaf am wahardd anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau yng Nghymru yn ôl yn 2015. Felly, mae'n anffodus braidd bod Cymru mewn gwirionedd ar ei hôl hi wrth weithredu deddfwriaeth lles anifeiliaid, gyda Llywodraeth y DU yn pasio Deddf debyg yn Lloegr ym mis Gorffennaf 2019, a Llywodraeth yr Alban yn yr un modd ym mis Ionawr 2018.
Serch hynny, mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn cytuno ag egwyddorion y Bil, ac rydym yn cefnogi ei amcanion o wella lles anifeiliaid drwy gydnabod mai'r ffordd orau o ddiwallu anghenion anifeiliaid gwyllt yw mewn amgylcheddau gwahanol a rhai y tu allan i syrcas deithiol. Fodd bynnag, rydym yn credu bod nifer o welliannau y gellid eu gwneud i sicrhau bod y Bil yn hollgynhwysol, yn cau bylchau posibl ac yn lleihau amwysedd o fewn y ddeddfwriaeth a allai gael ei chamddefnyddio o hyd.
Bu llawer o ddadlau ynghylch y diffiniad o 'anifail gwyllt'. Mae'r diffiniad o 'anifail gwyllt' yn cyd-fynd â Deddf Trwyddedu Sŵau 1981, ac mae'r Bil hefyd yn rhoi'r pŵer i Weinidogion wneud rheoliadau ynghylch pa anifeiliaid y gellir eu hystyried ac na ellir eu hystyried yn anifeiliaid gwyllt. Fodd bynnag, yn ei memorandwm esboniadol, mae Llywodraeth Cymru yn datgan:
'Mae’n bosibl y gall fod ansicrwydd neu safbwyntiau croes ynghylch a ddylid ystyried math o anifail yn wyllt ai peidio'.
Yn ei sesiwn dystiolaeth i Bwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig y Cynulliad, mae Dr Rebekah Humphreys yn nodi fod y term 'gwyllt' ei hun yn gysyniad amwys.
Awgryma Dr Humphreys felly y gallai'r anifeiliaid a gwmpesir gan y ddeddfwriaeth arfaethedig gael eu cynnwys ar wyneb y Bil fel canllaw i gynorthwyo'r gwaith gorfodi.
Mae adran 4 o'r Bil yn egluro bod 'syrcas deithiol' yn golygu:
'syrcas sy’n teithio o un man i fan arall at ddiben darparu adloniant', sy'n rhoi'r pŵer eto i Weinidogion wneud rheoliadau sy'n nodi gweithred o adloniant sydd i'w hystyried, neu nad yw i'w hystyried, yn syrcas deithiol. Fodd bynnag, mae'r dystiolaeth a roddwyd yn amlygu diffyg dealltwriaeth o'r hyn yw syrcas deithiol. Dylai'r diffiniad a ddefnyddir yn y Bil fod yn fwy manwl i atal syrcasau rhag ceisio osgoi'r ddeddfwriaeth drwy ail-frandio eu hunain fel atyniad addysgol yn hytrach nag atyniad adloniant. Mae RSPCA Cymru yn argymell y gellid cysoni'r diffiniad â Rheoliadau Lles Anifeiliaid Gwyllt mewn Syrcasau Teithiol (Lloegr) 2012, sy'n diffinio syrcas deithiol fel un sy'n teithio o le i le at y diben o roi perfformiadau ac arddangosfeydd.
O ran cryfhau'r modd y caiff y Bil ei orfodi, mae RSPCA Cymru hefyd wedi dadlau y dylai Cymru gynnwys darpariaethau tebyg i Ddeddf yr Alban, gan ganiatáu i gwnstabliaid yr heddlu gael yr un pŵer ag arolygydd a ddiffinnir o fewn yr Atodlen. At hynny, mae adran 9 o'r pwerau arolygu yn amlinellu y gall arolygydd archwilio neu brofi unrhyw beth a ganfyddir ar y safle, gan gynnwys cymryd sampl o anifail. Fodd bynnag, nid yw'r Bil yn dweud ar hyn o bryd bod yn rhaid i'r sampl gael ei chymryd gan weithiwr proffesiynol, ac felly dylid galluogi gweithwyr proffesiynol i gynorthwyo'r arolygydd, yn enwedig gan y gallai fod angen cymorth arbenigol ar yr anifeiliaid y mae'r ddeddfwriaeth yn ymwneud a nhw. At hynny, nid yw'r Bil ar ei ffurf bresennol yn cynnwys pŵer i atafaelu unrhyw anifail a ganfyddir ar safle ac sy'n dystiolaeth o dorri'r ddeddfwriaeth arfaethedig.
Mae rhai rhanddeiliaid yn awgrymu bod peidio â meddu ar y pŵer i atafaelu anifail yn cyfyngu ar bŵer yr arolygydd, ac y gall fod angen i anifeiliaid gael eu hailgartrefu mewn rhai achosion os ceir materion amlwg yn ymwneud â lles anifeiliaid. Felly, byddai cynnwys darpariaeth benodol, sy'n caniatáu ar gyfer atafaelu anifeiliaid os yw lles anifeiliaid yn ymddangos yn annigonol, yn caniatáu i arolygwyr weithredu'n effeithlon yn erbyn syrcasau neu, yn wir, unigolion yr ymddengys eu bod yn torri deddfwriaeth lles anifeiliaid.
Rydym ni hefyd yn pryderu am rai o ganlyniadau anfwriadol y Bil, gan gynnwys y diffyg darpariaeth ar hyn o bryd o ran dyfodol yr anifeiliaid gwyllt sy'n cael eu defnyddio ar hyn o bryd mewn syrcasau teithiol yn y DU ar ôl rhoi gwaharddiad o'r fath ar waith. Mae'n bosibl y bydd perchnogion syrcasau'n penderfynu rhoi'r gorau i gadw eu hanifeiliaid os nad yw'n ariannol bosibl teithio gyda nhw mwyach, ac rydym o'r farn y byddai'n ddefnyddiol pe bai Llywodraeth Cymru yn llunio cyfarwyddiadau i syrcasau ynghylch y cymorth y gellir ei roi iddynt wrth ddatblygu cynllun ymddeol ar gyfer pob anifail gwyllt, a ddefnyddir ar hyn o bryd i sicrhau bod yr anifeiliaid yn parhau i fod mewn cyflwr llesol.
I gloi, mae hi'n amlwg iawn i bawb bod cefnogaeth gyhoeddus i wahardd defnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau. Ac mae'n rhaid i mi sôn yn y fan yma am y gwaith a wnaeth Mike Hedges cyn hynny pan roedd yn Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau a'r gwaith a wnaed yn y fan yna, ac am y deisebwyr. Roedd hwnnw'n gam gwirioneddol ymlaen o ran gwireddu'r Bil hwn. Mae hwn yn gam i'r cyfeiriad cywir, ac fel cenedl a Chynulliad rydym i gyd eisiau gweld Cymru'n arwain y ffordd ac yn dod y genedl fwyaf caredig wrth anifeiliaid yn y byd. Diolch yn fawr.
Does dim amheuaeth yn fy marn i fod gwahardd anifeiliaid gwyllt o syrcasau teithiol y peth cywir i'w wneud. Mi oedd e'n sicr yn rhan o faniffesto Plaid Cymru yn yr etholiad diwethaf. Mae ecsbloetio anifeiliaid gwyllt i'r perwyl yma yn annerbyniol. Wrth gwrs, dŷn ni'n gwybod bod agweddau cymdeithas wedi newid. Mae yna sawl ymchwil a pôl piniwn yn dangos hynny, a dŷn ni hefyd yn gwybod bod rhyw 45 o wledydd ar draws y byd wedi cyflwyno gwaharddiad neu gyfyngiadau i'r perwyl hwnnw.
Mae yn siomedig, a dwi'n ategu sylwadau blaenorol, fod y Llywodraeth wedi cymryd cyhyd i gyrraedd y pwynt yma. Mi oedd sôn ein bod ni tu ôl i'r curve. Wrth gwrs, mi oeddem ni ar flaen y curve, fel y rhan gyntaf o'r Deyrnas Unedig oedd yn awyddus i ddeddfu yn y maes yma. Ond, fel mae'n digwydd nawr, ni fydd y wlad olaf yn y Deyrnas Unedig i lwyddo i wneud hynny. Ac, wrth gwrs, mi oedd bron iawn—fel dŷn ni wedi clywed awgrym gan y Cadeirydd, mi oedd bron iawn i'r Bil beidio â chael cydsyniad yn y pwyllgor amgylchedd i ganiatáu neu i dderbyn yr egwyddor cyffredinol tu ôl i'r Bil yng Nghyfnod 1. Dim ond o drwch blewyn y cytunodd y pwyllgor i wneud hynny.
Mi wnes i bleidleisio o blaid caniatáu i'r Bil fynd yn ei flaen, ac mi fyddaf i yn gwneud hynny eto heddiw, er gwaethaf y ffaith, mae'n rhaid i mi ei ddweud, fod y Gweinidog wedi gwneud gwaith caled iawn o gyfiawnhau pam fod y Llywodraeth wedi defnyddio sail foesegol dros ddeddfu ar hyn. Eto, fel clywom ni gan Gadeirydd y pwyllgor amgylchedd, os yw hi'n anfoesegol i ganiatáu anifeiliaid gwyllt i berfformio mewn syrcasau symudol, wel ydy hi'n anfoesegol iddyn nhw berfformio mewn sefyllfaoedd eraill? Pam dim ond syrcasau teithiol? Er nad oes syrcas statig yng Nghymru, does dim byd i ddweud na fydd yn y dyfodol.
'O', meddai'r Llywodraeth, 'mi fydd anifeiliaid sy'n cael eu harddangos at ddiben adloniant mewn lleoliadau heblaw syrcasau yn cael eu rheoleiddio.' 'A da o beth hynny', meddai fi. Ond nid ar sail foesegol, wrth gwrs—ar sail lles anifeiliaid. Fe fethodd y Gweinidog yn lân ag esbonio'r rhesymeg pam fod un grŵp o anifeiliaid yn cael eu gwarchod ar sail foesegol, ac un arall ar sail lles anifeiliaid—yn wir, yr un anifeiliaid mewn gwahanol gyd-destunau mewn rhai achosion. Dyna ni. Fe ddywedodd un o'r tystion fod yn rhaid i foesegau fod yn gyffredinol, yn unifersal, neu maen nhw'n peidio â bod yn foesegau. A dyna i chi efallai awgrym o'r cyfyng-gyngor roedd rhai o aelodau'r pwyllgor wedi ffeindio eu hunain ynddo fe.
Ond, wedi dweud hynny, mae gennym ni Fil o'n blaenau ni. Mae'n Fil cul sydd yn mynd i effeithio, yn y cyd-destun sydd ohoni, ar 19 o anifeiliaid—nid 19 o rywogaethau, ond 19 o anifeiliaid yn unig. Ond dwi yn meddwl bod angen diolch i bawb gyfrannodd at y dystiolaeth. Mae angen gwella'r Bil, ac mae'r dystiolaeth a dderbyniom ni, dwi'n meddwl, wedi bod yn dystiolaeth gryf iawn o'r ddwy ochr, ac wedi peri tipyn o waith pwyso a mesur. A dwi eisiau talu teyrnged i bawb sydd wedi ymgyrchu yn ddiflino dros ddeddfwriaeth o'r fath. Fe wnaf i gyfeirio yn benodol at un person sy'n etholwraig i mi ac sydd yma heddiw, Linda Joyce-Jones, sydd wedi bod ar flaen y gad yn yr ymgyrch yma ac wedi brwydro'n ddiflino i drio cael y maen i'r wal. Wel, gobeithio y byddwn ni gam yn nes ar ôl y ddadl yma y prynhawn yma.
Ond mae angen gwella'r Bil, fel roeddwn i'n ei ddweud, ac mae hynny wedi dod yn glir o'r dystiolaeth. Mi gyfeiriodd y Gweinidog at hyn yn gynharach: er na fydd anifeiliaid gwyllt yn cael perfformio, mi fyddan nhw'n dal i gael mynd ar daith gyda syrcas. Dydy hynny ddim yn dderbyniol yn fy marn i. Mae'r teithio a'r cadw mewn amgylchiadau symudol cyfyng yn gymaint yn rhan o'r broblem i fi ac yw'r perfformio ei hunan. Felly, mae hwnna'n rhywbeth y byddwn i'n awyddus i weld y Llywodraeth yn ei gywiro.
Mae angen cryfhau'r pwerau gorfodi i gynnwys pwerau'r heddlu, fel sydd yn yr Alban. Yn fy marn i nawr, wrth gwrs, mi fyddai hynny'n gofyn cydsyniad gan San Steffan, ond dwi yn meddwl bod angen inni wneud hynny nawr tra ein bod ni'n deddfu, fel bod y pŵer yna yn ei le ar gyfer y posibilrwydd o'i angen e yn y dyfodol. Mi ddylem ni hefyd fedru gwahardd troseddwyr rhag cadw anifeiliaid gwyllt am gyfnodau penodol er mwyn atal ailadrodd troseddu. Mi fyddwn i'n licio gweld y Llywodraeth yn ymgorffori hynny oddi fewn i'r Bil yma yn ogystal. Nawr, bwriad y Llywodraeth yw i'r Ddeddf ddod i rym ar 1 Rhagfyr eleni. Pan osodwyd y Bil nôl yng Ngorffennaf, a phan fuom ni’n trafod yn y Siambr yma y Bil y tro diwethaf, yr adeg honno mi wnes i ofyn i'r Llywodraeth am y posibilrwydd iddo fe ddod i rym yn gynharach. Mi ddywedodd y Gweinidog ar y pryd ei bod hi'n agored iawn i hynny a fyddwn i'n hoffi clywed os ydy hi'n dal i deimlo felly. Oherwydd dwi'n gwybod yn ymarferol, efallai, y byddai'n golygu cryn ymdrech, ond mi fyddwn i'n awyddus i weld gwaharddiad yn dod i rym yn hytrach na'n bod ni'n gorfod gweld haf arall o anifeiliaid gwyllt yn teithio trwy Gymru yn y syrcasau symudol yma. Felly, gadewch i ni weithredu'r ddeddfwriaeth yma ar frys er mwyn rhoi stop ar y defnydd o anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau teithiol eleni ac nid gorfod aros am flwyddyn arall.
Mae synnwyr ac ymwybyddiaeth y cyhoedd o ran trin anifeiliaid wedi newid yn sylweddol dros y degawdau diwethaf. Nid yw'r hyn a oedd yn dderbyniol yn y 1950au yn dderbyniol mwyach yn yr unfed ganrif ar hugain. Dylai lles anifeiliaid, nid eu gwerth o ran adloniant, fod wrth wraidd unrhyw ddadl ynghylch eu defnydd mewn syrcasau ac yn wir mewn unrhyw sefyllfa o adloniant.
Mae anifeiliaid gwyllt yn perthyn i'w cynefin naturiol. Yn yr un modd ag y mae ffwr anifeiliaid bob amser yn edrych yn well ar yr anifail, eu cynefin naturiol sy'n darparu'r amodau byw gorau ar gyfer unrhyw greadur o'r fath. Mae bywyd syrcas deithiol yn peryglu lles anifeiliaid gwyllt yn ddifrifol. Mae caethiwo, cludo dan straen, hyfforddiant dan orfodaeth a grwpiau cymdeithasol annormal i gyd yn realiti annymunol i'r anifeiliaid, sy'n dangos yn glir pam mae angen i'r sioeau hen ffasiwn hyn fynd i ebargofiant.
Mae arwyddion clir hefyd o gryfder y teimlad cyhoeddus yn erbyn y defnydd o anifeiliaid gwyllt sy'n cael eu harddangos mewn syrcasau. Nid yw anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau a sioeau teithiol eraill yn byw yn unol â'u hanghenion lles arferol. Felly, byddai tystiolaeth yn cefnogi gwahardd defnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau teithiol a sŵau symudol ar sail lles anifeiliaid. Nid yw eu bywydau yn fywydau da nac hyd yn oed yn fywydau o ansawdd derbyniol.
Mae 45 o genhedloedd naill ai wedi gwahardd neu gyfyngu ar y defnydd o anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau. Mae'n bryd bellach i Gymru ychwanegu ei henw at y rhestr honno drwy wahardd y math hwn o gam-fanteisio ar anifeiliaid gwyllt yn llwyr. Rydym ni ym mhlaid Brexit yn cefnogi'r Bil hwn yn llwyr, ond rydym ni hefyd yn cefnogi argymhellion yr RSPCA gan eu bod o'r farn bod rhannau o'r Bil yn rhy gul o ran atal anifeiliaid gwyllt rhag teithio gyda syrcas, pwerau gorfodi ac anghymhwyso. Ni ddylai Cymru'r unfed ganrif ar hugain ganiatáu i'r math hwn o adloniant barhau.
Nid wyf am gymryd rhan yn y ddadl fetaffisegol bron a gafwyd am natur foesegol y Bil, ond byddaf yn cefnogi'r hyn sydd wedi cael ei ddweud gan Llyr Gruffydd a David Rowlands am y ffaith bod angen y lefel honno o reoleiddio ar anifeiliaid sy'n teithio gyda'r syrcasau. Rwy'n cytuno â hynny ac rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth y mae angen ei gryfhau yn y Bil.
Achubodd Llyr y blaen arnaf. Roeddwn yn mynd i dalu teyrnged i Linda Joyce-Jones hefyd. Fe wnaethoch chi ddweud ei bod hi yn yr oriel. Ni allaf ei gweld hi, ond mae hi'n ymgyrchydd sydd i'w chroesawu'n fawr ac fe wnaethom ni gynnal digwyddiad ar y cyd ar 8 Hydref yn galw am wahardd pob anifail gwyllt, a phob anifail, mewn syrcasau a sioeau teithiol yn gynharach eleni. Felly, mae hyn yn rhywbeth sydd i'w groesawu, ac fel y mae Aelodau eraill wedi'i ddweud—nid wyf am roi halen ar y briw, Gweinidog—rhywbeth y mae'n hen bryd ei weld. Mae croeso mawr iawn iddo.
Pan fydd pobl ifanc yn dod i'r Senedd o'r ysgol, un o'r pethau yr wyf yn ceisio ei bwysleisio iddynt yw ein bod yn gwneud pethau go iawn a fydd yn effeithio ar eu bywydau. Yng nghynllun Tir-y-berth, bu syrcas Mondao yn arddangos anifeiliaid gwyllt yno ac roedd protest fawr yn fy etholaeth i, yn Nhir-y-berth—roedden nhw'n ei alw'n Bargoed, ond nid dyna oedd e'; roedd yn bellach i fyny'r cwm. Roedd plant o'r ardal honno wedi mynd i'r syrcas. A'r cwestiwn yr wyf wedi ei ofyn dro ar ôl tro i'r plant hynny sy'n ymweld yw, 'a ydych chi o blaid anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau?' Gan ddilyn y drafodaeth a'r math o drafodaeth a gawsom ni yn y fan yma, mae'r canlyniad bron bob amser yn unfryd yn erbyn—hyd yn oed y plant hynny a fu yn y syrcas. Y nhw yw eu cynulleidfa. Roedden nhw wedi bod yn y syrcas ac roedden nhw'n dweud nad oedd angen yr anifeiliaid gwyllt yn y syrcas, ac felly mae'r gwaharddiad hwn yn amserol.
A dyna ichi syrcas Mondao—maen nhw wedi ymosod arna i ar Facebook. Fe wnes i fideo yn dilyn cwestiwn a ofynnais i'r Prif Weinidog. Roedd 14,000 wedi ei wylio gan gyrraedd cyn belled ag Awstralia ac roedden nhw'n ymosod arnaf am alw am y gwaharddiad hwn, felly mae hynny'n dweud wrthyf ei fod yn sicr yn werth ei wneud, oherwydd pan fydd rhywun yn ymosod arnoch chi, rydych chi'n gwybod eich bod chi'n iawn. Rwy'n credu ei fod yn sicr—[torri ar draws.] Mae'n sicr—[torri ar draws.] Mae'n sicr—[torri ar draws.] Wel, dyma synnwyr y fawd i mi; mae bob amser yn gweithio i mi [chwerthin.] Mae'n sicr yn wir—[torri ar draws.] Mae'n sicr yn wir ei fod yn symleiddio deddfwriaeth hefyd. Cyn i mi gael fy ethol yn Aelod Cynulliad yn y fan yma, tynnwyd cais am drwydded syrcas gan Thomas Chipperfield oherwydd nad oedd DEFRA yn hapus ag amodau byw rhai o'u hanifeiliaid, ond roeddent yn dal yn cael cynnal sioe gyhoeddus yng nghynllun Tir-y-berth am nad oedd y rheoliadau'n berthnasol yng Nghymru. Felly, mae angen i'r ddeddfwriaeth hon fynd i'r afael â hynny ac rwy'n credu y bydd y ffaith y bydd y gwaharddiad yn weithredol ledled y DU yn mynd i'r afael â hynny.
Roedd llawer o'r bobl a oedd yn y digwyddiad yr oeddwn yn ei gyd-lywyddu â Llyr yn galw am ddeddfwriaeth ehangach, gryfach, ond rydym ni hefyd yn ymwybodol o'r rheoliadau lles anifeiliaid (trwyddedu arddangosfeydd anifeiliaid) y mae'r Gweinidog wedi'u crybwyll, a byddwn yn gobeithio y byddai cyfle i ymdrin â materion drwy'r rheini hefyd, er fy mod i wedi cael sylwadau gan etholwyr sy'n pryderu am effaith hynny ar sioeau cŵn. Felly, wyddoch chi, rydych chi'n ceisio gwneud un peth ac mae rhywbeth arall yn mynd o'i le, felly mae gwleidyddiaeth. Ond rwy'n credu, yn fyr, fy mod yn fodlon croesawu'r ddeddfwriaeth hon ac, er gwaethaf yr amheuon hynny sydd wedi cael eu mynegi yn y Siambr hon, rwy'n falch o'i gweld yn mynd yn ei blaen.
Rwy'n croesawu'r darn yma o ddeddfwriaeth. Fe wnes i bleidleisio drosto ac rwy'n falch iawn ei fod yma o'n blaenau. Rwy'n cytuno â'r hyn a ddywedodd Llyr ac rwyf hefyd yn cytuno â'r hyn a ddywedodd Janet. Rwy'n credu mai dyna'r peth: byddai'r bobl sy'n ei gefnogi yn hoffi, os yn bosibl a lle bo'n bosibl, iddo gynnwys ychydig mwy. Cytunaf â—ac roeddwn yn bwriadu dyfynnu o ymateb RSPCA Cymru, ond nid wyf am drafferthu oherwydd ni fyddwn i ond yn gwastraffu amser, ond rwy'n credu ac yn cytuno â'r hyn a ddywedon nhw, a chredaf fod angen inni gymryd sylw o'r hyn y maen nhw wedi'i ysgrifennu atom ni, ac rwy'n siŵr atoch chi hefyd, Gweinidog. Pan fyddwn yn pasio'r ddeddfwriaeth hon, byddwn yn ymuno â 50 o wledydd eraill—yn ôl fy ymchwil i—ac mae hynny'n cynnwys Lloegr a'r Alban, ac rwy'n drist ein bod ni ar ei hôl hi, ond rwyf hefyd yn falch iawn ein bod yn mynd i'w gweithredu nawr.
Ni allaf alw hyn yn fath o adloniant mewn unrhyw ffordd. I rai pobl, efallai ei fod e' o bosib. Ond, i'r anifeiliaid, fy nadl fyddai nad yw'n adloniant. Felly, nid wyf yn credu—a dyma'r hyn yr ydym yn ceisio ei atal—y dylai unrhyw anifail gwyllt fod mewn syrcas, a dyna yw barn 74 y cant o bobl yng Nghymru a gefnogodd hynny mewn arolwg yn 2015. Felly, mae'n ddyletswydd arnom ni mewn achosion fel hynny, pan fyddwn yn gofyn i bobl ac yn ymgynghori ac yn dweud, 'ai dyma'r hyn yr hoffech ei weld?', i geisio gweithredu hynny, ac rwy'n falch ein bod wedi gwneud hynny. Mae yna deimladau gwirioneddol gryf ynghylch hyn.
Rwyf hefyd eisiau talu teyrnged i'r bobl sydd wedi ymgyrchu, yn llwyddiannus nawr, i weld hwn yn cael ei ddwyn ger ein bron. Nid yw byth yn hawdd, onid yw, i fod yn llais unig neu i deimlo eich bod yn llais unig wrth geisio sicrhau newid, ond mae hefyd yn brawf, onid yw, fod y Pwyllgor Deisebau hefyd yn sbarduno newid. Mae'n debyg y gallai Dafydd Elis-Thomas, pan sefydlodd y Pwyllgor Deisebau am y tro cyntaf, weld gwerth hynny fel ffordd o newid.
Y Gweinidog i ymateb i’r ddadl—Lesley Griffiths.
Diolch, Llywydd. Hoffwn ddiolch i'r Aelodau am eu sylwadau a'u cyfraniadau heddiw. Rwyf eisiau i hwn fod y darn gorau o ddeddfwriaeth, felly rwy'n croesawu sylwadau a safbwyntiau pobl ynghylch sut y gallwn ei wneud yn ddarn gwell o ddeddfwriaeth ac edrychaf ymlaen at weithio gydag Aelodau yn y dyfodol.
Mae'n anodd iawn, iawn cyflwyno dadl foesegol, a chredaf—. Mae'n ddrwg gennyf glywed bod Llyr yn credu fy mod wedi 'gwneud gwaith caled iawn' ohono, ond mae'n wirioneddol anodd, oherwydd yn amlwg rhywbeth personol yw moeseg, mae'n fath o god moesol a moesegol unigol, os mynnwch chi. Mae'n farn bersonol iawn, iawn. Ond roeddwn yn gwbl ymwybodol na allem ni wneud hyn ar sail lles. Pan edrychais ar—. Wyddoch chi, un o'r manteision, os mynnwch chi, o fod y wlad olaf i wneud hynny, oedd y ffaith y gallem ni edrych ar yr hyn sydd wedi digwydd yn yr Alban, gallem edrych ar yr hyn sydd wedi digwydd yn Lloegr, sydd wedi cymryd yr un llwybrau, a buom yn ystyried yr holl ddewisiadau. Rwy'n awyddus iawn i sicrhau'r Aelodau mai dyna oedd y sefyllfa. Roedd pob llwybr deddfwriaethol yn cyflwyno risgiau a chyfleoedd ac roeddwn yn gwbl argyhoeddedig bod angen inni gyflwyno'r ddeddfwriaeth hon. Rwy'n credu mai dyma'r llwybr cywir i ni.
Ailadroddodd Mike Hedges yr hyn a ddywedais yn y pwyllgor: nid wyf eisiau i Gymru fod yn noddfa i'r ddwy syrcas yna. Mae'r ffaith bod yr Alban eisoes wedi cyflwyno'r gwaharddiad a Lloegr yn gwneud hynny yn ddiweddarach y mis hwn, yn golygu dyna'n union a allai fod wedi digwydd. Felly, rwy'n credu, er nad oes tystiolaeth o gamdriniaeth ddiweddar o anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau teithiol, ac rwyf eisiau dweud hynny ar goedd—. Ac rwy'n gwybod y gallai hynny fod yn amhoblogaidd iawn ymhlith rhai pobl a roddodd dystiolaeth. Nid oes tystiolaeth o hynny. Rwy'n credu y bu dau achos, dau erlyniad yn ystod yr 20 mlynedd diwethaf, felly mae'n amlwg mai'r ddadl foesegol, yn ein barn ni, yw'r ffordd gywir ymlaen.
I Mick Antoniw, rwy'n gobeithio i mi roi'r eglurder yr oeddech yn gofyn amdano. Ymddiheuraf na chawsoch y llythyr gennyf mor gynnar ag y byddech wedi'i ddymuno, ond rwy'n falch fy mod wedi cael rhoi'r eglurhad hwnnw heddiw.
Cododd sawl Aelod bwyntiau tebyg. Holodd David Rowlands ynghylch y cwmpas—pam nad yw cwmpas y gwaharddiad yn ymestyn i wahardd anifeiliaid gwyllt sy'n teithio gyda syrcasau teithiol. Wel, amcan y Bil hwn yw atal y defnydd o anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau ar sail foesegol. Felly, os yw syrcasau'n dewis cadw eu hanifeiliaid gwyllt a'u defnyddio mewn ffordd wahanol, fel y dywedais yn fy sylwadau agoriadol, eu hawl nhw yw hynny, cyn belled â'u bod yn gwneud hynny o fewn y gyfraith.
Soniodd Janet Finch-Saunders am ddyfodol anifeiliaid gwyllt. Wel, unwaith eto, gan fod yr Alban eisoes wedi cyflwyno gwaharddiad, a Lloegr yn cyflwyno un yn ddiweddarach y mis hwn, mae'n debyg y bydd penderfyniadau am ddyfodol yr anifeiliaid gwyllt wedi'u gwneud eisoes. Holodd Janet Finch-Saunders hefyd ynglŷn â beth pe bai syrcas deithiol yn ail-frandio’i hun. Rwy'n credu eich bod wedi rhoi'r enghraifft o sioe addysgol, er enghraifft. Mae'r Bil yn ymwneud yn benodol ag anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau teithiol, ac rwy'n credu ei bod hi'n fwy priodol ein bod yn rheoleiddio'r defnydd o anifeiliaid gwyllt mewn lleoliadau eraill ar hyn o bryd, yn hytrach na cheisio ehangu cwmpas y Bil.
Gofynnodd Llyr Huws Gruffydd am y dyddiad dod i rym. Fel y dywedais, rwy'n hapus iawn i roi sylw i hynny. Yn sicr y ffordd y datblygodd y Bil—ac mae Llywodraeth y DU wedi gwneud cynnydd llawer cyflymach na'r disgwyl ac os yw hynny'n digwydd i ni yna, byddwn, byddwn yn hapus iawn i wneud hynny. Fodd bynnag, credaf fod angen inni ganfod a yw'r syrcasau'n teithio dros yr haf; fel arfer bydd y daith yn dod i ben erbyn diwedd mis Tachwedd a dyna un o'r rhesymau pam roeddem yn credu mai 1 Rhagfyr fyddai'r dyddiad cywir. Ond, fel rwyf wedi'i ddweud o'r blaen, rwy'n hapus iawn i ystyried hynny.
Gofynnodd Janet Finch-Saunders pam nad oedd pwerau gorfodi yn ymestyn i'r heddlu. Nid wyf yn rhagweld y bydd yr heddlu'n rhan o'r gwaith o orfodi'r ddeddfwriaeth hon. Os ydych yn ystyried y peth, mae'r drosedd yn debygol o ddigwydd yn gyhoeddus a byddai'n rhaid i'r anifail berfformio neu gael ei arddangos, felly rwy'n credu ei bod yn annhebygol y bydd llawer o achosion a fyddai'n gofyn am ymchwiliad wedyn. Ond petai byth angen presenoldeb yr heddlu yna mae'n amlwg y gallai swyddogion yr heddlu arfer eu pwerau presennol i fynd i mewn i leoliad i ymdrin â throsedd o'r fath.
Joyce Watson, rwy'n credu eich bod yn llygad eich lle o ran y Pwyllgor Deisebau. Os meddyliwch am y gwaharddiad ar fagiau plastig, mae wedi cyflwyno rhai syniadau gwych, ac rwyf yn talu teyrnged, fel y mae ambell un arall wedi sôn, i Linda Joyce-Jones ac ymgyrchwyr eraill. Yn sicr, rwy'n gwybod pan fydd gennych chi syrcas yn eich etholaeth chi mae cynnwys y bag post yn cynyddu oherwydd y bobl sy'n credu y dylem fod yn cyflwyno gwaharddiad. Yn sicr, yn rhinwedd fy swydd yn Weinidog, rwyf wedi derbyn gohebiaeth bob tro y daw syrcas i Gymru.
Gofynnodd Janet Finch-Saunders hefyd am y rhestr o anifeiliaid. Nid wyf yn credu ei bod yn ymarferol rhoi rhestr o anifeiliaid gwyllt, nac anifeiliaid dof o ran hynny, ar wyneb y Bil oherwydd, yn amlwg, gallent newid. Felly, rwy'n credu bod angen i ni sicrhau bod hynny'n cael ei ystyried mewn mannau eraill.
Felly, rwy'n diolch o waelod calon i'r Aelodau am eu cyfraniadau ac yn edrych ymlaen yn fawr iawn, gobeithio gyda chefnogaeth y Siambr, at weld yr egwyddorion cyffredinol yn mynd rhagddynt i'r cam nesaf. Diolch.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, mae'r cynnig wedi'i dderbyn yn unol â Rheol Sefydlog 12.36 sy'n dod â'n trafodaethau ni am y dydd heddiw i ben.