Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 1:30 pm ar 8 Ionawr 2020.
Lywydd, deallaf eich bod wedi rhoi eich caniatâd i gwestiynau 2 ac 8 gael eu grwpio.
Mae cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru yn dilyn cylch gwario un flwyddyn Llywodraeth y DU, nad yw’n newid y sefyllfa o ran cyni. Bydd ein cyllideb yn 2020-21 £300 miliwn yn llai mewn termau real nag yn 2010-11, ond serch hynny, mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi mewn Cymru fwy llewyrchus, fwy cyfartal a gwyrddach.