Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 1:36 pm ar 8 Ionawr 2020.
Diolch am eich ateb, Weinidog. Hoffwn archwilio un agwedd ar eich cyllideb, sef y setliad llywodraeth leol. Mewn perthynas â hynny, hoffwn ddyfynnu rhai ffigurau i chi: 2 y cant, 4.2 y cant, a 6.5 y cant. Y ffigur cyntaf, 2 y cant, yw cyfradd chwyddiant y DU; yr ail ffigur, 4.2 y cant, yw'r cynnydd cyfartalog hael yn y gyllideb a ddyrannwyd gan eich Llywodraeth i awdurdodau lleol. Felly pam, Weinidog, fod y trydydd ffigur, 6.5 y cant, yn nodi'r cynnydd cyfartalog yn nhreth gyngor awdurdodau lleol? Onid yw hyn yn awgrymu rheolaeth ariannol wael gan awdurdodau lleol, ac a ddylech adolygu'ch dyfarniad yn unol â hynny?