Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 1:37 pm ar 8 Ionawr 2020.
Wel, wrth gwrs, mater i’r cynghorau lleol eu hunain yw pennu'r dreth gyngor. Ac mae'n rhaid i mi ddweud, mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi cydnabod bod y setliad y mae awdurdodau lleol wedi'i dderbyn eleni yn un eithriadol o dda. Ac rydym wedi gweithio'n agos iawn gyda CLlLC ac eraill wrth bennu'r gyllideb, a deall y pwysau sydd arnynt. A'n hymrwymiad ers y dechrau oedd rhoi'r setliad gorau posibl i awdurdodau lleol, a chredaf ei bod yn deg dweud bod llawer o awdurdodau lleol wedi cael siom ar yr ochr orau ynghylch y setliadau y maent wedi gallu eu derbyn. Ac mae rhai wedi nodi efallai na fydd y cynnydd yn y dreth gyngor yn eu hardaloedd lleol mor fawr ag y rhagwelwyd ganddynt i ddechrau, oherwydd y gefnogaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi gallu ei rhoi.